Sut ydw i’n ychwanegu eitem o fanc eitemau at gwis mewn Cwisiau Newydd?
Gallwch chi ychwanegu eitemau unigol o fanc eitemau at gwis mewn Cwisiau Newydd. Gallwch chi hefyd ychwanegu mwy nag un eitem o fanc eitemau.
Mae’r wers hon yn dangos i chi sut i ychwanegu eitem o fanc eitemau gan ddefnyddio’r botwm Banciau Eitemau ar y dudalen Adeiladu. Gallwch chi hefyd gael gafael ar eich banciau eitemau wrth ychwanegu cynnwys at gwis.
Agor Cwisiau
![Agor Cwisiau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/003/097/930/original/d60c2167-becf-49ca-923f-94af08e9785a.png)
Yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs (Course Navigation), cliciwch y ddolen Cwisiau (Quizzes).
Note: Gallwch chi gae mynediad at gwisiau o’r dudalen Aseiniadau hefyd.
Agor Tudalen Adeiladu
I ychwanegu eitem o fanc eitemau, dewch o hyd i’r cwis rydych chi eisiau ei agor [1].
I agor Cwisiau Newydd o gwis sydd eisoes yn bodoli, cliciwch yr eicon Opsiynau [2], a chlicio’r ddolen Adeiladu (Build) [3].
Agor Banc Eitemau
![Agor Banc Eitemau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/007/942/478/original/6cf0995c-c044-4726-a4df-92e89f25d2bb.png)
Cliciwch enw banc eitemau.
Ychwanegu Eitem
![Ychwanegu Eitem](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/005/468/200/original/48e982be-cbb0-42bb-8469-a71b95caaade.png)
I ychwanegu eitem at gwis, cliciwch y botwm Ychwanegu (Add) wrth yr eitem honno.
Bydd yr eitem yn ymddangos yn y cwis.
Gweld Eitem
Gweld yr eitem yn y cwis. I olygu’r eitem, cliciwch yr eicon Golygu [1]. I ddyblygu’r eitem, cliciwch yr eicon Copïo [2]. I symud yr eitem, cliciwch yr eicon Symud [3]. I ddileu’r eitem, cliciwch yr eicon Dileu [4].
Os bydd unrhyw dagiau wedi cael eu hychwanegu, bydd y tagiau’n ymddangos yn yr eitem [5].