Sut ydw i’n defnyddio’r Blwch Derbyn fel addysgwr?

Mae’r Blwch Derbyn wedi'i rhannu i ddau banel ac mae’n dangos negeseuon mewn trefn gronolegol. Gallwch weld sgyrsiau ac ymateb iddyn nhw, a’u trefnu yn ôl cwrs neu fath o flwch derbyn. Does dim cyfyngiadau o ran maint ffeiliau ar gyfer y Blwch Derbyn ei hun; fodd bynnag, bydd atodiadau a gaiff eu hychwanegu at sgwrs yn cael eu cynnwys yn ffeiliau personol yr anfonwr.

Dysgu mwy am y Blwch Derbyn.

Sylwch:

  • Os byddwch yn de-glicio neu’n clicio opsiwn yn y ddolen Blwch Derbyn (Inbox), gallwch agor eich Blwch Derbyn mewn tab pori arall i’w gadw wrth law tra byddwch yn gwneud tasgau eraill yn Canvas.
  • Bydd defnyddwyr yn ymddangos yn y Blwch Derbyn ar ôl iddyn nhw ymrestru ar y cwrs, ac ni all defnyddwyr ymuno â chwrs oni bai ei fod wedi'i gyhoeddi.
  • Ar ôl i gwrs ddod i ben a bod ei ddyddiad tymor wedi mynd heibio, ni fyddwch yn gallu anfon negeseuon at fyfyrwyr ar y cwrs hwnnw mwyach.

00:00: Sut ydw i’n defnyddio’r Blwch Derbyn fel Addysgwr? 00:03: Yn y ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Blwch Derbyn (Inbox). Os yw'r ddolen i’r Blwch Derbyn yn cynnwys dangosydd rhif, bydd y dangosydd yn dangos faint o negeseuon heb eu darllen sydd gennych chi yn eich Blwch Derbyn. Ar ôl i chi ddarllen y negeseuon newydd, bydd y dangosydd yn diflannu. 00:18: Mae'r bar offer yn cynnwys opsiynau cyffredinol ar gyfer negeseuon 00:22: I lwytho sgyrsiau, ewch ati i hidlo eich negeseuon yn ôl cwrs neu grŵp a'u math. Mae hidlo yn ôl math yn caniatáu i chi hidlo negeseuon yn y Blwch Derbyn, rhai Heb eu Darllen, wedi’u Hanfon, wedi’u Harchifo, rhai â Seren, a Sylwadau ar Gyflwyniadau. 00:37: Gallwch hefyd chwilio am sgyrsiau yn ôl defnyddiwr yn y maes Chwilio yn ôl defnyddiwr (Search by user). 00:42: Ar ôl i chi ddewis sgwrs, gallwch ddefnyddio’r opsiynau eraill yn y bar offer i wneud y canlynol: Ateb sgwrs. Ateb pawb mewn sgwrs. Archifo sgwrs. Dileu sgwrs. Gallwch chi ddefnyddio’r eicon Rhagor o Opsiynau i anfon sgwrs ymlaen marcio bod sgwrs wedi'i darllen neu heb ei darllen, a rhoi seren wrth sgwrs. 01:03: Bydd y sgyrsiau ar gyfer y cwrs a'r hidlydd Blwch Derbyn sydd dan sylw yn ymddangos yn y panel Blwch Derbyn ar y chwith. 01:09: I roi seren wrth sgwrs, gallwch hofran dros y sgwrs a chlicio'r seren i’r dde o'r sgwrs. 01:16: Pan fyddwch chi'n dewis sgwrs, bydd yr holl negeseuon yn yr edefyn sgyrsiau yn ymddangos yn y panel Blwch Derbyn ar y dde. 01:23: O fewn pob sgwrs, gallwch ateb, ateb pawb, anfon ymlaen neu ddileu holl edefyn y sgwrs. Gallwch hefyd hofran dros neges unigol a defnyddio'r un gorchmynion yn y neges unigol. 01:37: I ddewis mwy nag un neges i’w harchifo, i'w dileu, i’w marcio fel un wedi’i darllen neu heb ei darllen, neu i roi seren wrthi, cliciwch y blwch ticio ar gyfer pob neges. Gallwch hefyd bwyso'r fysell ‘command’ (Mac) neu’r fysell ‘control’ (Windows) wrth glicio pob neges rydych chi am ei dewis. Ym mar offer yr adran Blwch Derbyn, cliciwch yr opsiwn rydych chi’n ei ffafrio. 01:58: Roedd y canllaw hwn yn trafod sut i ddefnyddio’r Blwch Derbyn fel Addysgwr.

Agor Blwch Derbyn

Agor Blwch Derbyn

Yn y ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Blwch Derbyn (Inbox).

Os yw'r ddolen i’r Blwch Derbyn yn cynnwys dangosydd rhif, bydd y dangosydd yn dangos faint o negeseuon heb eu darllen sydd gennych chi yn eich Blwch Derbyn. Ar ôl i chi ddarllen y negeseuon newydd, bydd y dangosydd yn diflannu.

Gweld Bar Offer

Mae'r bar offer yn cynnwys opsiynau cyffredinol ar gyfer negeseuon. I lwytho sgyrsiau, ewch ati i hidlo eich negeseuon yn ôl cwrs neu grŵp [1] a'u math [2].

Gallwch hefyd chwilio am sgyrsiau yn ôl defnyddiwr yn y maes Chwilio yn ôl defnyddiwr (Search by user) [3].

Mae hidlo yn ôl math yn caniatáu i chi hidlo negeseuon yn y Blwch Derbyn, rhai Heb eu Darllen, wedi’u Hanfon, wedi’u Harchifo, rhai â Seren, a Sylwadau ar Gyflwyniadau. Gallwch greu neges ar unrhyw adeg drwy ddefnyddio’r eicon creu [4].

Nodyn: Gallai’r bar offer edrych yn wahanol os yw’r gweinyddwr wedi galluogi’r ymateb awtomatig neu’r llofnod. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Sut i reoli gosodiadau fy Mlwch Derbyn fel addysgwr?

Ar ôl i chi ddewis sgwrs, gallwch ddefnyddio’r opsiynau eraill yn y bar offer i wneud y canlynol:

  • Ateb sgwrs [1].
  • Ateb pawb mewn sgwrs [2]
  • Archifo sgwrs [3]
  • Dileu sgwrs [4]
  • Gallwch chi hefyd glicio’r eicon Mwy o Opsiynau (More Options) i farcio, sgwrs fel wedi darllen neu heb ei darllen, ac i roi seren ar sgwrs [5]

Gweld Paneli Blwch Derbyn

Gweld Paneli Blwch Derbyn

Bydd y sgyrsiau ar gyfer y cwrs a'r hidlydd Blwch Derbyn sydd dan sylw yn ymddangos yn y panel Blwch Derbyn ar y chwith.

Gweld Sgyrsiau

Gweld Sgyrsiau

Mae'r Blwch Derbyn mewn trefn gronolegol o’r diweddaraf i’r hynaf, gyda'r sgyrsiau diweddaraf yn ymddangos ar y brig [1] a'r rhai hŷn ar y gwaelod.

Gallwch farcio bod sgwrs wedi’i darllen neu heb ei darllen drwy hofran dros y sgwrs a chlicio'r cylch i’r chwith o’r sgwrs [2]. I roi seren wrth sgwrs, gallwch hofran dros y sgwrs a chlicio'r seren i’r dde o'r sgwrs [3].  

Gweld Edefyn Sgwrs

Pan fyddwch chi'n dewis sgwrs [1], bydd modd gweld yr holl negeseuon yn yr edefyn sgyrsiau yn y panel Blwch Derbyn ar y dde [2].  

Gweld Manylion y Neges

Gweld Manylion y Neges

Mae edefyn y sgwrs yn dangos y teitl [1].

Mae pob neges gyda sgwrs yn dangos enwau’r bobl sy’n rhan o’r sgwrs, gydag enw’r anfonwr mewn ffont trwm [2].

Gallwch weld enw’r cwrs, rhagenwau personol yr awdur (os yw wedi’i alluogi), a dyddiad ac amser anfon y neges [3].

Gallwch chi hefyd weld cynnwys y neges [4].

I ddad-ddewis sgwrs, cliciwch yr eicon Yn ôl (Return) [5].

Rheoli Edefyn Sgwrs

O fewn pob edefyn sgwrs, gallwch ateb, ateb pawb, anfon ymlaen, archifo, gosod seren neu ddileu holl edefyn y sgwrs [1].

I ateb y neges ddiwethaf mewn sgwrs, cliciwch yr eicon Ateb (Reply) [1].

I ateb pawb, anfon ymlaen, archifo, gosod seren neu ddileu holl edefyn y sgwrs, cliciwch yr eicon Mwy o Opsiynau (More Options) [2]. Yna, cliciwch un o’r opsiynau [3].

Rheoli Negeseuon Unigol

Rheoli Negeseuon Unigol

Gallwch reoli neges unigol mewn sgwrs. I ateb neges mewn sgwrs, cliciwch yr eicon Ateb (Reply) [1].

I ateb pawb, anfon ymlaen, archifo, neu ddileu neges mewn edefyn sgwrs, cliciwch yr eicon Mwy o Opsiynau (More Options) [2]. Yna, cliciwch un o’r opsiynau [3].

Dewis Mwy nag Un Sgwrs

I archifo, i ddileu, i osod seren, neu i farcio eich bod wedi darllen neu heb ddarllen sawl sgwrs, cliciwch y blwch ticio ar gyfer pob neges [1]. Yna, cliciwch yr eicon Mwy o Opsiynau (More Options) ar y bar offer Blwch Derbyn [2], a dewis un.

Nodyn: I ddewis neu ddad-ddewis sgyrsiau, gallwch hefyd bwyso'r fysell ‘command’ (Mac) neu’r fysell ‘control’ (Windows) wrth glicio pob neges rydych chi am ei dewis neu ddad-ddewis.