Sut ydw i’n hidlo'r wedd Calendr yn ôl cwrs fel addysgwr?
Yn ddiofyn, mae'r Calendr yn dangos eich calendr personol ynghyd â chalendr cwrs ar gyfer pob dosbarth rydych chi wedi ymrestru ar ei gyfer. Fodd bynnag, gallwch hidlo pa galendrau i'w dangos, gan gynnwys calendrau grŵp a chwrs ynghyd â'ch calendr personol.
Agor Calendr
![Agor Calendr](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/005/351/655/original/c9e40d0b-13c0-49a6-a133-cf3bd377fb1f.png)
Yn y ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Calendr (Calendar).
Gweld Calendr
Ar ôl clicio’r ddolen Calendr (Calendar) byddwch yn gweld y Calendr ar gyfer pob cwrs a grŵp rydych chi wedi ymrestru ar eu cyfer.
Dewis Cyrsiau i’w Gweld
![Dewis Cyrsiau i’w Gweld](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/001/892/855/original/3c71daab-563b-466f-809b-6633f613a6be.png)
I hidlo eich Calendr yn ôl cwrs neu grŵp, cliciwch y blwch lliwiau wrth ymyl y Calendr (Calendar) [1]. Gall y calendr ddangos hyd at 10 cwrs a/neu grŵp ar y tro. Yn yr enghraifft hon, nid yw pob un o'r calendrau yn cael eu dangos.
Nodyn: Bydd Canvas yn neilltuo lliw ar gyfer pob calendr oni bai fod lliw personol yn cael ei ddewis. Mae pob calendr yn cynnwys 15 o liwiau diofyn, ond gallwch greu unrhyw liw o'ch dewis drwy ddewis yr eicon Mwy [2] a mewnosod cod Hex [3].