Sut ydw i’n gweld pob grŵp ar gwrs fel addysgwr?
Mae gan Canvas ddau fath o grwpiau: grwpiau myfyrwyr a setiau grwpiau. Gall addysgwr neu fyfyriwr greu grwpiau myfyrwyr ac maen nhw’n cael eu trefnu gan y myfyrwyr eu hunain. Grwpiau rydych chi’n eu creu i’w defnyddio ar gyfer aseiniadau wedi'u graddio yw setiau grwpiau.
Agor yr adnodd Pobl
Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Pobl (People).
Gweld Setiau Grwpiau
Os bydd o leiaf un grŵp wedi cael ei greu ar y cwrs, bydd y dudalen Pobl yn mynd i’r tab Pawb (Everyone) yn ddiofyn [1], sy’n dangos pob defnyddiwr ar eich cwrs. Fel arall, bydd y dudalen yn gofyn i chi ychwanegu set grwpiau gyda’r botwm Ychwanegu Set Grwpiau (Add Group Set) [2]. Gallwch ychwanegu set grwpiau unrhyw bryd.
Gweld Grwpiau Defnyddwyr
Ar ôl i chi greu set grwpiau ar y cwrs, bydd y set grwpiau'n ymddangos fel tab â dolen er mwyn gallu gweld gwybodaeth am y set grwpiau’n hawdd [1]. Gallwch glicio unrhyw dab i weld set grwpiau ar gyfer grŵp defnyddwyr.
Hefyd, gallwch glicio'r ddewislen Opsiynau (Options) [2] a dewis y ddolen Gweld Grwpiau Defnyddwyr (View User Groups) [3]. Bydd y dudalen yn agor y set grwpiau cyntaf ar y cwrs.
Pan fyddwch chi’n gweld set grwpiau, mae’r tab sydd wedi’i amlygu’n dangos y set grwpiau rydych chi’n ei weld. Cliciwch unrhyw dab i weld set grwpiau arall.
Gweld Grwpiau
Fel rhan o greu'r set grwpiau, mae grwpiau’n cael eu creu hefyd gan bobl eu hunain, yn awtomatig, neu drwy fewngludo ffeil CSV.
Caiff yr holl grwpiau eu crebachu yn y dudalen yn ddiofyn. Gallwch ehangu pob grŵp a gweld pa fyfyrwyr sydd wedi’u neilltuo ar gyfer pob grŵp yn y set grwpiau, os o gwbl, drwy glicio’r saeth wrth enw'r grŵp [1].
Ar ôl i fyfyrwyr ddechrau cymryd rhan mewn grŵp, gallwch agor dewislen Opsiynau’r grŵp a gweld cynnwys a gweithgarwch grŵp [2].
Gweld Hysbysiad am Ymrestriad
Os yw grŵp yn cynnwys myfyriwr anweithredol, bydd label yn ymddangos wrth ymyl enw’r myfyriwr. Bydd cyflwyniadau grŵp gan fyfyrwyr anweithredol yn dal yn gallu cael eu graddio yn SpeedGrader, ond fydd myfyrwyr ddim yn cael hysbysiadau am eu haseiniad a does dim modd gweld graddau cwrs. Bydd myfyrwyr yn gallu gweld enw'r myfyriwr ond ddim yn gwybod bod y myfyriwr yn anweithredol. I wella profiad grŵp holl aelodau’r grŵp, dylai myfyrwyr anweithredol gael eu symud i grŵp arall.
Rheoli Set Grwpiau
I rheoli manylion y set grwpiau, cliciwch y ddewislen Opsiynau (Options) [1].
I olygu’r set grwpiau, cliciwch y ddolen Golygu (Edit) [2].
I glonio’r set grwpiau, cliciwch y ddolen Clonio Set Grwpiau (Clone Group Set) [3]. Bydd clonio set grwpiau yn copïo'r set grwpiau cyfan, gan gynnwys yr holl grwpiau, arweinwyr y grŵp, ac aelodau. Hefyd, gallwch greu enw newydd i wahaniaethu rhwng y set grwpiau sydd wedi'i glonio. Os dydych chi ddim yn newid yr enw, bydd enw'r grŵp yn aros yr un fath ond yn cael ei weld fel clôn.
Os ydych chi am addasu'r grŵp, ond bod y grŵp yn cynnwys cyflwyniadau myfyrwyr, dylech glonio’r grŵp yn hytrach nag addasu aelodaeth y grŵp. Gall addasu'r grŵp arwain at ganlyniadau anfwriadol o ran graddau'r myfyrwyr.
I ddileu'r set grwpiau, cliciwch y ddolen Dileu (Delete) [4]. Mae dileu’r set grwpiau yn dileu pob grŵp yn y set grwpiau hefyd.