Sut ydw i’n defnyddio’r Maes Llafur fel addysgwr?
Mae’r Maes Llafur yn Canvas yn ei gwneud hi’n hawdd dweud wrth eich myfyrwyr beth yn union fydd angen iddyn nhw ei wneud drwy gydol y cwrs, a hynny mewn trefn gronolegol. Hefyd, gallwch osod y maes llafur yn dudalen hafan y cwrs.
Mae golygu'r Maes Llafur (Syllabus) yn gadael i ychwanegu testun a chysylltu ffeiliau, delweddau a chynnwys cwrs arall yn eich Disgrifiad o’r Maes Llafur. Gallwch chi hefyd ddewis i guddio’r Crynodeb Cwrs.
Gallwch ddewis gwneud eich maes llafur yn gyhoeddus er mwyn i bobl nad ydynt wedi ymrestru ar eich cwrs allu gweld rhagor o wybodaeth am y cwrs. Mae modd gweld maes llafur cyhoeddus fel rhan o gwrs preifat pan fyddwch chi’n anfon dolen at fyfyriwr, neu os yw'r cwrs wedi'i restru yn y mynegai o gyrsiau cyhoeddus.
Nodyn: Does gan ffeiliau delwedd ddim opsiwn gweld rhagolwg pan fyddan nhw wedi cael eu hychwanegu fel dolen ffeil drwy’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog.
00:06: How do I use the syllabus as an instructor? 00:09: Navigate to the Syllabus page by selecting Syllabus in the course navigation. 00:14: There are three sections of the Syllabus page: the Syllabus Description, the Course Summary, and the sidebar. 00:21: The syllabus description is where you can post your course description, class guidelines, and other important information. Click the Edit button to edit its content. 00:31: The Course Summary is automatically generated for the course and contains a list of course assignments and calendar events. Changes to dated items will be automatically updated in the Course Summary. 00:42: The sidebar section displays information about course events and grading. 00:47: A gray background on the mini-calendar indicates a date with events or assignment due dates . To view associated items in Course Summary, click the date. 00:57: If your course includes weighted assignment groups, the sidebar also shows the percentages of each group. 01:04: This guide covered how to use the syllabus as an instructor.
Agor Maes Llafur
Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Maes Llafur (Syllabus).
Gweld Maes Llafur
Mae'r maes llafur yn cynnwys disgrifiad o’r maes llafur [1], y Crynodeb Cwrs [2], a’r bar ochr [3].
Gweld Crynodeb Cwrs
Caiff y Crynodeb Cwrs ei greu’n awtomatig ar gyfer y cwrs ac mae’n cynnwys rhestr o aseiniadau cwrs a digwyddiadau calendr cwrs. Mae eicon Aseiniadau yn dangos yr aseiniadau [1], ac mae'r eicon Calendr yn dangos y digwyddiadau [2]. Mae eitemau heb eu graddio sydd â dyddiad i’w gwneud yn dangos y dyddiad i’w gwneud [3]. Mae pob aseiniad (heb ei gyhoeddi ac wedi’i gyhoeddi) wedi'i restru yn y maes llafur ar gyfer addysgwyr, ond dim ond aseiniadau sydd wedi’u cyhoeddi y bydd myfyrwyr yn eu gweld.
Dim ond drwy olygu neu ddileu’r aseiniadau neu’r digwyddiadau mae modd newid eitemau yn y Crynodeb Cwrs.
Mae modd newid yr eitemau dyddiedig yn y nodweddion Aseiniadau (Assignments) a’r Calendr (Calendar), a byddan nhw’n cael eu diweddaru’n awtomatig yn y Maes Llafur.
Cliciwch y teitl i weld manylion yr aseiniad neu’r digwyddiad. Bydd unrhyw aseiniadau neu ddigwyddiadau sydd wedi mynd heibio’r dyddiad erbyn i’w gweld mewn llwyd. Mae eitemau heb ddyddiad [3] wedi’u rhestru yn nhrefn yr wyddor.
Mae’r Crynodeb Cwrs wedi’i alluogi’n ddiofyn, ond gallwch olygu’r maes llafur a chuddio’r Crynodeb Cwrs.
Os ydych chi wedi gosod cylchfa amser benodol yn eich Gosodiadau Defnyddiwr, bydd holl ddyddiadau ac amseroedd cyrsiau yn ymddangos yn eich amser lleol, ond os byddwch chi'n hofran dros yr amser, gallwch weld dyddiad ac amser y cwrs hefyd.
Gweld Bar Ochr
Mae’r adran bar ochr yn dangos gwybodaeth am raddau a digwyddiadau cyrsiau. Mae modd golygu gwybodaeth am grŵp o aseiniadau yn y nodwedd Aseiniadau ac mae modd golygu gwybodaeth y Calendr yn y nodweddion Aseiniadau a'r Calendr. Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu hadlewyrchu yn yr adran Crynodeb Cwrs o’r Maes Llafur.
Mae’r bar ochr yn cynnwys calendr bach [1]. Bydd gan unrhyw ddyddiad sy’n cynnwys dyddiad erbyn aseiniad neu ddigwyddiad gefndir llwyd. I weld aseiniad neu ddigwyddiad cysylltiedig yn y Crynodeb Cwrs, cliciwch y dyddiad ar y calendr.
Os yw eich cwrs yn cynnwys grwpiau aseiniad wedi’u pwysoli, bydd y bar ochr yn dangos canrannau pob grŵp hefyd [2].
Gweld Disgrifiad o’r Maes Llafur
Yn y disgrifiad o’r maes llafur, gallwch bostio disgrifiad o'ch cwrs, cyflwyniad byr, canllawiau dosbarth, negeseuon atgoffa wythnosol, a gwybodaeth bwysig arall. Gallwch gopïo cynnwys yn syth o ddogfennau Word i'r Golygydd Cynnwys Cyfoethog, neu gallwch greu cynnwys gwreiddiol yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog.
Hefyd, gallwch greu cyswllt â'ch Maes Llafur drwy ei lwytho i fyny i Ffeiliau’r Cwrs ar ffurf PDF a phlannu’r ddogfen yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog. Bydd Canvas yn creu rhagolwg o’ch dogfen yn awtomatig fel nad oes rhaid i’ch myfyrwyr ei lwytho i lawr cyn ei ddarllen.
Gallwch olygu'r disgrifiad o’r maes llafur ar unrhyw adeg.
Golygu Maes Llafur
I olygu disgrifiad y maes llafur neu guddio neu ddangos y Crynodeb Cwrs, cliciwch y botwm Golygu (Edit).
Golygu Disgrifiad
Gallwch olygu’r disgrifiad o’r maes llafur gan ddefnyddio'r Golygydd Cynnwys Cyfoethog. Gallwch wneud y canlynol
- Postio disgrifiad o'ch cwrs, cyflwyniad byr, canllawiau dosbarth, negeseuon atgoffa wythnosol, a gwybodaeth bwysig arall.
- Copïo cynnwys yn syth o ddogfennau Word i'r Golygydd Cynnwys Cyfoethog, neu gallwch greu cynnwys gwreiddiol yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog.
- Defnyddio'r Golygydd Cynnwys Cyfoethog i blannu fideos a mewnbynnu HTML.
I blannu dogfen yn eich maes llafur, amlygwch y testun lle rydych chi eisiau gosod dolen y ffeil [1] a chliciwch y saeth Opsiynau Dogfennau (Documents Options) i ddewis dogfen y ffeil [2]. Yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog, bydd y testun yn troi’n las i nodi bod modd llwytho’r ddolen i lawr.
Nodyn: I dynnu’r ddogfen, cliciwch ac amlygwch y testun yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog, ac yna pwyswch y fysell Delete (MAC) neu Backspace (PC)
Cuddio Crynodeb Cwrs
I guddio’r Crynodeb Cwrs, dad-diciwch y blwch ticio Dangos Crynodeb Cwrs (Show Course Summary).
Diweddaru Maes Llafur
Pan fyddwch chi wedi gorffen golygu, cliciwch y botwm Diweddaru Maes Llafur (Update Syllabus).