Sut ydw i’n golygu fy mhroffil yn fy nghyfrif defnyddiwr fel addysgwr?
Efallai y bydd rhai sefydliadau yn galluogi nodwedd o'r enw Proffiliau yn Canvas. Mae Proffiliau yn caniatáu i chi ddiweddaru eich enw, y dulliau cysylltu o’ch dewis, ac unrhyw ddolenni personol ar gyfer eich cyfrif. Bydd pob defnyddiwr ar eich cyrsiau yn gallu gweld gwybodaeth eich proffil.
Nodyn: Os na allwch chi weld y tab Proffiliau yn y ddewislen crwydro – defnyddiwr, nid yw’r nodwedd hon wedi cael ei galluogi ar gyfer eich sefydliad.
Agor Proffil

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyfrif (Account) [1], yna cliciwch y ddolen Proffil (Profile) [2].
Golygu Proffil
Cliciwch y botwm Golygu Proffil (Edit Profile).
Sylwch: Os na allwch olygu eich proffil neu’r sianeli cyfathrebu, mae eich sefydliad wedi’u hanalluogi.
Golygu Llun Proffil

I ychwanegu llun proffil, cliciwch yr eicon llun proffil. Gallwch chi ychwanegu llun proffil drwy lwytho llun i fynnu, tynnu llun, neu lwytho llun Gravatar i fyny.
Sylwch: Mae’r hawl ar gyfer lluniau proffil ar wahân i'r hawl ar gyfer proffiliau. Os nad ydych chi’n gweld llun dros dro, nid yw eich sefydliad wedi galluogi’r nodwedd hon.
Golygu Enw a Theitl

Os ydych chi’n cael newid eich enw, teipiwch eich enw yn y maes enw [1].
Os yw wedi’i alluogi gan eich gweinyddwr, gallwch chi ychwanegu ynganiad enw at eich proffil. I ychwanegu ynganiad, teipiwch eich ynganiad yn y maes ynganiad enw [2].
Teipiwch eich teitl yn y maes teitl [3].
Ychwanegu Dulliau Cysylltu

Os ydych chi wedi cysylltu ag unrhyw wasanaethau gwe, cliciwch y blwch ticio o dan y gwasanaeth gwe i ddangos sut hoffech chi i’r gwasanaeth hwnnw gysylltu â chi [1]. I ychwanegu gwasanaethau ychwanegol, cliciwch y ddolen Rheoli Gwasanaethau wedi’u Cofrestru. Sylwch na fydd unrhyw un o’r gwasanaethau dan sylw yn cael eu rhannu ag aelodau eraill o'r grŵp/cwrs oni bai eich bod wedi dewis y blwch ticio rhannu ar y dudalen Rheoli Gwasanaethau wedi’u Cofrestru.
Mae’r eicon Trafodaeth [2] yn ymddangos yn awtomatig fel dull cysylltu ar gyfer Gweinyddwyr, er mwyn i ddefnyddwyr allu cysylltu â nhw drwy adran Sgyrsiau Canvas. Ni all defnyddwyr eraill ei ddewis.
Sylwch: Gan eu bod wedi’u creu yn eich proffil defnyddiwr, ni fydd cyfeiriadau e-bost yn ymddangos fel dull cysylltu, a dim ond ar gyfer hysbysiadau Canvas y byddan nhw’n cael eu defnyddio. Dylai defnyddwyr Canvas gysylltu â’i gilydd drwy’r adran Sgyrsiau.
Golygu Bywgraffiad

Teipiwch eich bywgraffiad yn y maes bywgraffiad. Gallwch ychwanegu diddordebau a ffeithiau diddorol amdanoch chi eich hun.
Golygu Dolenni

I ychwanegu dolenni personol at eich proffil, fel portffolios, blogiau neu wefannau personol, rhowch deitl y ddolen yn y maes teitl [1]. Teipiwch yr URL yn y maes URL [2]. Cliciwch yr eicon tynnu i ddileu'r ddolen [3]. Cliciwch y botwm Ychwanegu dolen arall (Add another link) i ychwanegu dolen arall [4].
Cadw proffil

Cliciwch y botwm Cadw Proffil (Save Profile).