Sut ydw i’n defnyddio cynlluniau graddau mewn cwrs?
Mae cynllun graddau yn set o feini prawf sy'n mesur lefelau amrywiol o gyflawniad mewn cwrs. Mae cynlluniau graddau lefel cwrs yn gynlluniau graddau y gellir eu creu a’u galluogi ar gyfer cwrs neu aseiniad. Mae cynlluniau graddau lefel cyfrif yn gynlluniau graddau sydd wedi’u creu gan eich sefydliad ac y gellir eu defnyddio mewn cwrs neu aseiniad. Heb gynllun graddau, nid yw’r sgorau’n cael eu mesur yn erbyn unrhyw safon benodol.
Gallwch chi alluogi cynllun graddau sydd wedi’i greu gan eich sefydliad, gallwch chi ychwanegu cynllun graddau newydd sy’n benodol i’ch cwrs, a gallwch chi weld a rheoli cynlluniau graddau.
Cynlluniau Graddio Cyffredin
Caiff cynlluniau graddau eu llunio ar sail ystodau o bwyntiau a chanrannau ac mae pob ystod o ganrannau yn cael gwerth enw. Mae modd creu unrhyw fath o gynllun graddau drwy olygu'r enw a'r ystod o ganrannau ar gyfer pob eitem. Wrth alluogi cynllun graddau ar gyfer cwrs, bydd y cynllun graddau’n cael ei ddefnyddio i roi graddau terfynol myfyrwyr yn ogystal â’r ganran gyffredinol.
Sylwch:
- Ni all cynlluniau graddau ddelio â mwy na dau le degol.
- Dim ond sgorau sydd wedi’u diffinio yn y cynllun graddau sy’n cael eu caniatáu yn y Llyfr Graddau (Gradebook).
- Bydd cofnodion yn y Llyfr Graddau (Gradebook), nad ydynt wedi’u diffinio'n benodol yn y cynllun graddau, yn newid yn ôl i’r eicon sy’n dangos bod angen graddio'r cyflwyniad. Yn dibynnu ar radd sy’n cael ei dangos ar gyfer aseiniad, does dim modd i rai cofnodion yn y Llyfr Graddau newid i’r cynllun graddau.
Graddau Llythyren
Graddau Llythyren yw’r math mwyaf traddodiadol o gynllun graddio a dyma’r fformat diofyn ar gyfer cynlluniau graddio newydd. Dim ond sgorau y mae modd delio â nhw sy’n cael eu caniatáu yn y Llyfr Graddau felly, os ydych chi’n llunio cynllun gradd llythyren gyda gwerthoedd enw ar gyfer A, B ac C yn unig, ni allwch roi sgôr sy'n trosi'n A- neu'n B+.
Perfformiad
Mae cynlluniau graddau perfformiad yn seiliedig ar safon perfformiadau unigol. Dim ond sgorau y mae modd delio â nhw sy’n cael eu caniatáu yn y Llyfr Graddau felly, os ydych chi’n llunio cynllun perfformiad gyda’r gwerthoedd enw Ardderchog (Excellent) a Gwael (Poor), yn unig, fydd dim modd rhoi sgôr ar gyfer Da (Good).
Pwynt
Mae cynlluniau graddau pwyntiau yn seiliedig ar set o bwyntiau mewn ystod. Pan mae’r cynllun graddau cwrs yn seiliedig ar bwyntiau, mae Sgôr Derfynol a chyfanswm Grŵp Aseiniadau yn dangos tooltip o bwyntiau crai sydd wedi’u hennill a chyfanswm pwyntiau. Yn y gell llyfr graddau, mae pwyntiau’n dangos pwyntiau wedi’u graddio fel ffracsiynau.
Sylwch: Pan mae’r opsiwn nodwedd Disodli Gradd Derfynol (Final Grade Override) wedi’i alluogi ar gyfer sefydliad a chwrs gan ddefnyddio cynllun graddau’n seiliedig ar bwyntiau, gall addysgwyr ddisodli’r radd gyda gradd llythyren yn unig.
Cynlluniau Graddau ar gyfer Cwrs
Wrth alluogi cynllun graddau ar gyfer cwrs, bydd y cynllun graddau’n cael ei ddefnyddio i roi graddau terfynol myfyrwyr yn ogystal â’r ganran gyffredinol. Gallwch ddysgu sut mae galluogi cynllun graddau ar gyfer cwrs.
Gwedd Myfyriwr
Mae myfyrwyr yn gallu gwell canlyniadau'r cynllun graddio ar eu tudalen Graddau.
Cynlluniau Graddau ar gyfer Aseiniad
Mae modd defnyddio cynlluniau graddau’n benodol gydag aseiniadau unigol. Mae pob aseiniad yn cynnwys maes sy’n gadael i chi ddewis sut mae’r radd yn cael ei dangos yn y Llyfr Graddau ac ar dudalen Graddau’r myfyriwr. Gallwch ddysgu sut mae galluogi cynllun graddau ar gyfer aseiniad.
Ar gyfer Cynllun Gradd Llythyren (Letter Grade Schemes), gallwch roi sgorau yn y Llyfr Graddau yn dibynnu ar y math o ddull o ddangos ar gyfer yr aseiniad:
- Ar gyfer unrhyw fath o aseiniad, gallwch chi roi graddau fel pwyntiau neu fel canran. Er enghraifft, os yw aseiniad yn werth 10 pwynt a bod y myfyriwr yn ennill 9 pwynt, gallwch roi 9 neu 90% (a fydd yn dangos y radd sydd wedi'i diffinio yn yr ystod o ganrannau).
- Pan fydd y dull o ddangos gradd aseiniad wedi’i osod yn benodol ar Radd Llythyren, gallwch chi hefyd roi gradd llythyren yn syth, fel A-.
Ar gyfer Cynlluniau Perfformiad (Performance schemes), gallwch roi sgorau yn y Llyfr Graddau yn ôl pwyntiau, canran, neu werth perfformiad. Er enghraifft, os yw aseiniad yn werth 10 pwynt a bod y myfyriwr yn ennill 9 pwynt, gallwch roi 9 neu 90% (a fydd yn dangos y perfformiad sydd wedi'i ddiffinio yn yr ystod o ganrannau). Mae modd rhoi gwerth perfformiad yn uniongyrchol hefyd.
Sylwch: Dydy cynlluniau graddau ddim yn berthnasol i golofnau Grŵp Aseiniadau (Assignment Group) yn y Llyfr Graddau (Gradebook).