Pa fathau o ffeiliau cyfryngau y mae modd i mi eu llwytho i fyny yn Canvas?
Gall Canvas lwytho ffeiliau delwedd, fideo a sain penodol i fyny fel cynnwys defnyddiwr.
Pan fyddwch chi'n llwytho ffeiliau sain a chyfryngau i fyny gan ddefnyddio'r adnodd cyfryngau yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog, mae Canvas yn newid ffeiliau hyd at 500 MB. Os bydd ffeil yn fwy na'r cyfyngiad o 500 MB, gallwch letya'r ffeil trwy ffynhonnell allanol fel YouTube a'i phlannu gan ddefnyddio'r Golygydd Cynnwys Cyfoethog. I ddysgu mwy am yr opsiynau sydd ar gael i ddefnyddio ffeiliau cyfryngau yn Canvas, edrychwch ar y ddogfen adnoddau Cymharu Cyfryngau Canvas.
Pan fyddwch chi'n llwytho ffeil i fyny i'ch cwrs, grŵp, neu ffeiliau defnyddiwr, bydd Canvas yn newid y ffeil i fformat sy'n gydnaws â'ch porwr. Fodd bynnag, dydy Canvas ddim yn gallu delio â llwytho ffeiliau i fyny sy’n fwy na 5 GB. Mae chwarae cyfryngau yn cael ei benderfynu yn ôl y porwr, felly os nad oes modd i chi weld y ffeil, mae'n bosib y bydd angen i chi geisio gweld y ffeil mewn porwr arall.
Mae gan ffeiliau Canfas gyfyngiadau cwota ar gyfer pob maes defnyddiwr: ffeiliau (personol) defnyddiwr, ffeiliau cwrs, a ffeiliau grŵp. Mae ffeiliau sy'n cael eu llwytho i fyny yn uniongyrchol i'ch ffeiliau defnyddiwr neu ffeiliau grŵp yn cyfrif tuag at y cwotâu penodol, heblaw am lwytho llun proffil i fyny. Mae pob ffeil sy'n cael ei llwytho i fyny i gwrs yn cyfrif tuag at gwota'r cwrs. I fyfyrwyr, bydd unrhyw atodiadau sy’n cael eu hychwanegu fel rhan o’r broses o gyflwyno'r aseiniad wedi'i raddio yn cael eu llwytho i fyny i ffeiliau defnyddiwr ond fyddan nhw ddim yn cyfrif tuag at y cwota defnyddiwr.
Nodyn: Os byddwch chi'n llwytho ffeil i fyny na all chwaraewr cyfryngau Canvas ddelio â hi, gallwch drefnu bod defnyddwyr yn llwytho'r ffeil i lawr er mwyn ei gweld tu allan i Canvas.
Fformatau Delwedd Cydnaws
Bydd Canvas yn derbyn y mathau canlynol o ddelwedd:
- BMP - Map Didau Windows (Windows Bitmap)
- GIF - Fformat Rhyngnewid Graffigion (Graphics Interchange Format)
- JPEG - Joint Photographic Experts Group
- SVG - Scalable Vector Graphics
- TIFF - Adobe Systems
- PNG - Graffigion Rhwydwaith Cludadwy (Portable Network Graphics)
Nodyn: Dydy rhagolygon ffeiliau TIF a TIFF ddim yn gynhenid i'r rhan fwyaf o borwyr ac efallai na fyddan nhw’n cael rhagolwg yn Canvas.
Fformatau Fideo Cydnaws
Mae chwaraewr cyfryngau Canvas yn gallu delio â chwarae fideo H.264.Bydd Canvas yn derbyn y mathau canlynol o ffeiliau fideo i'w chwarae:
- FLV – Fideo Flash (Flash Video)
- ASF – Windows Media
- QT – Apple QuickTime
- MOV – Apple QuickTime
- MPG – Fformat Fideo Digidol (Digital Video Format)
- MPEG – Fformat Fideo Digidol (Digital Video Format)
- AVI – Fformat Fideo Digidol (Digital Video Format)
- M4V – Fformat Fideo Digidol (Digital Video Format)
- WMV – Windows Media
- MP4 – Fformat Fideo Digidol (Digital Video Format)
- 3GP – Fformat Symudol Amlgyfrwng (Multimedia Mobile Format)
I gael awgrymiadau ynglŷn â chywasgu cyfryngau ac ansawdd chwarae, darllenwch Ganllawiau Cywasgu Fideo Vimeo.
Fformatau Sain Cydnaws
Bydd Canvas yn derbyn y mathau canlynol o ffeiliau sain i'w chwarae:
- MP3 – Fformat Sain Digidol (Digital Audio Format)
- WAV - Ffeil Sain Waveform
- WMA – Sain Windows media (Windows media audio)
- WMV – Windows Media