Sut ydw i’n creu tudalen newydd mewn cwrs?
Fel addysgwr, gallwch greu tudalen newydd i'w hychwanegu at eich cwrs.
Wrth greu tudalennau, gallwch osod hawliau tudalen ynglŷn â phwy sy’n cael golygu’r dudalen: addysgwyr (athrawon), addysgwyr a myfyrwyr, neu unrhyw un. Hefyd, gallwch ychwanegu tudalen at restrau Tasgau i'w Gwneud myfyrwyr.
00:06: How do I create a new page in a canvas course? 00:09: Select Pages in your course navigation. 00:12: If a front page is set in your course, it will display. Select "View All Pages" button to access the Pages Index Page in this case. 00:21: Select the Add Page option on the Pages Index Page. 00:25: Enter the desired title for the page. 00:28: Compose your page content in the RCE, or Rich Content Editor. 00:33: Set the desired options for your page. You can set which user roles are allowed to edit the page, add it to the student to-do list, delay publishing, and allow its use in Mastery Paths. 00:44: Save the changes made to the page. To keep the page unpublished to allow further edits, select Save. 00:51: If you are ready to publish your page, select the "Save and Publish" option. 00:55: If you need to make additional changes to the page, select the Edit option. 01:00: This guide covered how to create a new page in a course.
Agor Tudalennau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Tudalennau (Pages).
Gweld Tudalennau
Mae’r adran Tudalennau (Pages) wedi’i dylunio i agor i dudalen flaen y cwrs, os oes tudalen flaen wedi cael ei dewis. I ddewis tudalen o’r mynegai Tudalennau (Pages), cliciwch y botwm Gweld Pob Tudalen (View All Pages).
Ychwanegu Tudalen

Cliciwch y botwm Ychwanegu Tudalen (Add Page).
Ychwanegu Cynnwys
Rhowch enw i’ch tudalen [1].
Ychwanegu dolenni, ffeiliau, delweddau a chynnwys arall yn defnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog [2]. Mae’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn cynnwys cyfrif geiriau o dan gornel dde isaf y blwch testun.
Golygu Gosodiadau Tudalen
Gallwch benderfynu pwy sy'n cael golygu’r dudalen drwy glicio’r gwymplen Defnyddwyr sy’n cael golygu’r dudalen hon (Users allowed to edit this page) [1]. Mae’r opsiynau yn cynnwys dim ond athrawon, athrawon a myfyrwyr, neu unrhyw un. Dydy’r opsiwn Unrhyw un ddim ond yn berthnasol i ddefnyddwyr sydd wedi ymrestru ar y cwrs.
Gallwch chi ychwanegu'r dudalen at y tasgau sydd gan fyfyriwr i’w gwneud trwy glicio’r blwch Ychwanegu at y tasgau sydd gan fyfyriwr i’w gwneud (Add to student to-do) [2]. Pan fyddwch chi'n ychwanegu tudalen at y tasgau sydd gan fyfyriwr i’w gwneud, mae'r tasgau i'w gwneud i'w gweld yn rhestr tasgau i'w gwneud y myfyriwr ynghyd ag yng nghalendr y cwrs ac yn Rhestr tasgau i’w gwneud bar ochr cwrs y myfyriwr.
Gallwch chi drefnu pryd y bydd tudalen yn cael ei chyhoeddi. Rhowch ddyddiad ac amser yn y maes Cyhoeddi Am (Publish At) [3]. Rhaid i’ch tudalen fod heb ei chyhoeddi i drefnu dyddiad cyhoeddi.
I neilltuo adrannau neu ddefnyddwyr penodol i’ch tudalen, gosod Dyddiadau Ar Gael ar ei gyfer, neu ei neilltuo i Lwybrau Meistrolaeth, cliciwch y ddolen Rheoli Dyddiadau Erbyn a Neilltuo i (Manage Due Dates and Assign To) [4].
Hefyd, gallwch roi gwybod i ddefnyddwyr bod cynnwys wedi newid drwy glicio’r blwch ticio Rhoi gwybod i ddefnyddwyr bod y cynnwys hwn wedi newid (Notify users that this content has changed) [5].
Nodyn: Os yw hysbysiad Cynnwys Cwrs (Course Content) defnyddiwr wedi’i ddiffodd nid ydynt yn cael gwybod am ddiweddariadau i’r dudalen.
Rheoli Gosodiadau Aseiniad Tudalen
Yn ddiofyn, mae pob adran a myfyriwr o’ch cwrs yn gallu gweld y dudalen ar ôl iddi gael ei chyhoeddi.
I nodi adrannau neu ddefnyddwyr penodol ar gyfer eich tudalen, cliciwch y ddolen Rheoli Dyddiadau Erbyn a Neilltuo I (Manage Due Dates and Assign To) [1].
Ychwanegu myfyrwyr a neilltuwyd a dyddiadau ar gael [2].
Dewis Myfyrwyr a Neilltuwyd

I ychwanegu myfyriwr a neilltuwyd cliciwch ar y maes Rhoi I (Assign To) [1]. Yna, dewiswch un neu fwy o’r myfyrwyr a neilltuwyd. Gallwch neilltuo i bawb, pawb arall, adran o’r cwrs [2], neu fyfyriwr unigol [3].
Dod o hyd i Fyfyriwr neu Adran

I ddod o hyd i fyfyriwr neu adran yn haws, rhowch rai o lythrennau’r enw [1] a dewiswch yr enw o restr wedi’i hidlo [2].
I dynnu myfyriwr a neilltuwyd, cliciwch yr eicon Tynnu (Remove) [3].
Rhowch Ddyddiadau Ar Gael

Gall myfyrwyr weld y dudalen yn ddiofyn ar unrhyw amser yn ystod dyddiadau’r cwrs neu’r adran. Fodd bynnag, i roi dyddiadau ac amseroedd penodol pan fydd tudalen ar gael, rhowch ddyddiadau ac/neu amseroedd yn yr ardaloedd Ar gael o (Available from) [1] a Tan [2].
Sylwch:
- Cyn y dyddiad Ar gael o (Available from) ac ar ôl y dyddiad Tan (Until), dim ond teitl y dudalen y gall y myfyrwyr ei gweld. Bydd y cynnwys ar y dudalen wedi’i gloi ar gyfer myfyrwyr.
- Mae Canvas yn dangos dyddiad ac amser y gylchfa amser yn unol â’r cyd-destun [3]. Os ydych chi’n rheoli cyrsiau mewn cylchfa amser wahanol i’ch cylchfa amser leol ac yn creu neu’n golygu dyddiad ar gael tudalen, yna mae amser y cwrs a’r amser lleol yn cael eu dangos er gwybodaeth.
Gosod Dyddiadau ac Amseroedd

I osod dyddiadau, rhowch ddyddiad yn y maes Ar gael o (Available from) neu Tan (Until) [1]. Neu cliciwch y maes a dewis dyddiad o’r calendr [2].
I osod amseroedd, rhowch amser neu cliciwch ar y gwymplen Amser (Time) a dewis amser [3].
Sylwch:
- I dynnu dyddiadau ac amseroedd a ddewiswyd, cliciwch y ddolen Clirio (Clear) [4].
- Yn y calendr, mae’r dyddiad presennol yn cael ei ddangos mewn cylch glas [5].
Ychwanegu Manylion Aseiniad Ychwanegol

I neilltuo i fyfyrwyr neu adrannau eraill gyda gwahanol ddyddiadau ac amseroedd, cliciwch y botwm Ychwanegu (Add). Yna, neilltuwch fyfyrwyr eraill a dyddiadau ar gael.
Neilltuo i Lwybrau Meistroli

I neilltuo tudalen i Lwybrau Meistroli, dewiswch Lwybrau Meistroli yn lle Pawb yn y maes Neilltuo i.
Gweithredu Manylion

I gadw manylion eich tudalen aseiniad cliciwch y botwm Rhoi (Apply).
Cadw a Chyhoeddi

Os ydych chi’n barod i gyhoeddi eich tudalen, cliciwch y botwm Cadw a Chyhoeddi (Save and Publish) [1]. Os ydych chi am greu drafft o’ch tudalen, cliciwch y botwm Cadw (Save) [2].
Nodyn: Os byddwch chi’n ceisio gadael tudalen heb ei chadw, byddwch yn cynhyrchu rhybudd naid.

Pan fydd eich tudalen yn cael ei chadw ar ffurf drafft, gallwch fynd yn ôl i’r dudalen a'i chyhoeddi ar unrhyw adeg drwy glicio’r botwm Cyhoeddi (Publish) [1]. Bydd y botwm yn newid o lwyd i wyrdd [2]
Gweld Cyhoeddiad Tudalen wedi’i Drefnu

Pan fydd eich tudalen yn cael ei chadw i gael ei chyhoeddi ar amserlen, gallwch fynd yn ôl i’r dudalen a rheoli ei chyhoeddi ar unrhyw adeg drwy glicio’r botwm Cyhoeddi ar...(Will publish on...) [1].
Gallwch chi ddewis rhwng cyhoeddi’r dudalen, dadgyhoeddi’r dudalen, neu drefnu i’r dudalen gael ei chyhoeddi ac yna clicio’r botwm Iawn (OK) [2].
Gweld Tudalen

Gweld y dudalen rydych chi wedi'i chreu.