Sut ydw i’n creu cwis gyda grŵp cwestiynau er mwyn trefnu cwestiynau cwis ar hap?
Gallwch greu cwis drwy ddefnyddio grŵp cwestiynau. Mae grwpiau cwestiynau'n eich galluogi chi i osod nifer o gwestiynau mewn grŵp i’r myfyrwyr eu hateb. Gallwch ddewis nifer y cwestiynau y dylid eu hateb o’r grŵp yn ogystal â dewis faint o bwyntiau sydd i gael eu neilltuo ar gyfer pob cwestiwn. Pan fyddwch chi’n creu grŵp cwestiynau, bydd y cwestiynau’n cael eu trefnu ar hap mewn cwis.
Mae sawl ffordd y gallwch chi ychwanegu cwestiynau at eich grŵp cwestiynau:
- Cysylltu â banc cwestiynau i gynnwys yr holl gwestiynau mewn banc cwestiynau
- Ychwanegu cwestiwn unigol i greu eich cwestiynau eich hun o’r dechrau
- Dod o hyd i gwestiynau i gynnwys cwestiynau penodol o fanc cwestiynau
Nodiadau:
- Os ydych chi am i'ch cwestiynau ymddangos mewn trefn benodol, peidiwch â gosod cwestiynau cwis mewn grŵp cwestiynau.
- Pan mae’r opsiwn nodwedd Analluogi Creu Cwisiau Clasurol wedi’i alluogi, does dim modd i chi greu Cwisiau Clasurol newydd. Ond, gallwch chi barhau i olygu, mewngludo a mudo Cwisiau Clasurol sy’n bodoli’n barod i Gwisiau Newydd.
Agor Cwisiau
![Agor Cwisiau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/002/758/566/original/1b5d1518-7dd9-4a84-a2d7-385bcd3773cb.png)
Yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs (Course Navigation), cliciwch y ddolen Cwisiau (Quizzes).
Ychwanegu Cwis
![Ychwanegu Cwis](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/001/247/507/original/303b4ede-6cf1-4b7a-8ca6-0e2b2ca93154.png)
Cliciwch y botwm Ychwanegu Cwis (Add Quiz).
Dewis Peiriant Cwis
![Dewis Peiriant Cwis](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/008/737/902/original/6a4e0165-3dc3-445d-9de8-2818f0af392b.png)
Os oes gan eich cwrs New Quizzes wedi’u galluogi, rhaid i chi ddewis peiriant cwis.
Cliciwch yr opsiwn Cwisiau Clasurol (Classic Quizzes) [1].
Yna cliciwch y botwm Cyflwyno (Submit) [2].
Nodyn:
- Dysgu mwy am greu cwis yn defnyddio New Quizzes.
- Gallwch chi ailosod eich dewis o beiriant cwis o’r ddewislen Opsiynau Cwis ar unrhyw adeg.
Golygu Manylion Cwis
Yn y tab Manylion, rhowch enw eich cwis [1]. Yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog [2], cyflwynwch eich cwis gyda delweddau, fideo, samplau o hafaliadau mathemategol, neu destun wedi’i fformatio. Gallwch hyd yn oed ddefnyddio’r adnodd gwneud sylw ar gyfryngau i recordio rhagarweiniad i'r cwis.
Llenwch weddill manylion y cwis [3].
Ychwanegu Grŵp Cwestiynau Newydd
![Ychwanegu Grŵp Cwestiynau Newydd](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/761/493/original/b1fc050f-0b74-4f17-a8a8-f1e0d706481b.png)
Cliciwch y tab Cwestiynau [1]. Cliciwch y botwm Grŵp Cwestiynau Newydd [2].
Creu Manylion Grŵp
![Creu Manylion Grŵp](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/761/486/original/567700d3-e8e8-4281-a889-57d8d7ab99bf.png)
Rhowch enw i’ch grŵp cwestiynau [1]. Nid yw grwpiau cwestiynau cwis yn cael eu henwi’n awtomatig ar gyfer addysgwyr. I ychwanegu enw personol i grŵp cwestiynau eich cwis, rhowch yr enw ym maes testun y grŵp. Gall enwau personol eich helpu chi i ganfod grwpiau cwestiynau’r cwis yn haws.
Ni waeth beth yw enw’r grŵp cwestiynau, bydd y myfyrwyr bob amser yn gweld cwestiynau’r cwis mewn trefn rifol (hy Cwestiwn 1, Cwestiwn 2).
Penderfynwch faint o gwestiynau rydych chi am i Canvas eu dewis ar hap o’r grŵp [2] a nifer y pwyntiau sy'n cael eu neilltuo ar gyfer pob cwestiwn [3].
Nodyn: Mae gwerthoedd pwynt cwis yn gallu delio â hyd at ddau le degol. Os byddwch chi’n rhoi mwy na dau le degol, bydd gwerth y pwynt yn cael ei dalgrynnu i’r canfed agosaf.
Cysylltu â Banc Cwestiynau
![Cysylltu â Banc Cwestiynau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/761/470/original/04a87459-0f70-44c9-bba6-7ac3fe8a0870.png)
Os ydych chi am gysylltu banc cwestiynau â'r grŵp cwestiynau, cliciwch y ddolen Cysylltu â Banc Cwestiynau (Link to a Question Bank).
Nodyn: Os ydych chi’n gofyn i grŵp cwestiynau ddewis cwestiynau ar hap o’r banc cwestiynau, ni fydd y banc cwestiynau na'r cwestiynau’n cael eu cynnwys ym mhrosesau allgludo'r cwis. Bydd ffeil QTI yn llwytho manylion y cwis hwn i lawr, ond ni fydd unrhyw gwestiynau’n cael eu cynnwys.
Creu Grŵp
![Creu Grŵp](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/761/484/original/780fb40c-53f7-4c9f-b9a3-61afed586d73.png)
Cliciwch y botwm Creu Grŵp (Create Group).
Ychwanegu Cwestiwn Unigol at Grŵp
![Ychwanegu Cwestiwn Unigol at Grŵp](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/761/472/original/333cb320-2fce-4a7d-8d9f-c4bc108a1926.png)
I ychwanegu cwestiynau unigol at y grŵp, cliciwch yr eicon Ychwanegu.
Dod o Hyd i Gwestiynau o Fanc Cwestiynau
![Dod o Hyd i Gwestiynau o Fanc Cwestiynau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/761/474/original/2aeb850b-4f4d-4436-b945-266b18ad840d.png)
Hefyd, gallwch ddod o hyd i gwestiynau o fanc cwestiynau sydd eisoes yn bodoli a’u hychwangu at y grŵp cwestiynau.
Addasu Grŵp Cwestiynau
![Addasu Grŵp Cwestiynau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/761/482/original/859c5755-6c14-48b1-90fd-475b0293751e.png)
I newid nifer y cwestiynau a fydd yn cael eu dewis o’r grŵp neu i newid y pwyntiau sydd wedi’u neilltuo, cliciwch yr eicon Golygu [1]. I ddileu’r grŵp cwestiynau, cliciwch yr eicon Dileu [2].
Nodyn: Nid yw newidiadau i grwpiau cwestiynau yn cael eu cadw nes bod y cwis yn cael ei gadw.
Gweld Neges Rhybudd Grŵp Cwestiynau
Wrth greu grŵp cwestiynau o fewn y cwis, efallai y byddwch chi’n gweld neges rhybudd yn nodi bod y grŵp cwestiynau yn mynd i ddewis mwy o gwestiynau nac sydd ar gael. Gallwch chi ychwanegu rhagor o gwestiynau at y banc cwestiynau rydych chi’n tynnu cwestiynau ohono neu ychwanegu cwestiynau unigol nes bod nifer y cwestiynau yn fwy neu’n hafal â nifer y cwestiynau sy’n cael eu dewis.
Nodyn: Bydd y neges hon yn aros ar y sgrin nes eich bod chi wedi cadw’r cwis.
Cadw Cwis
![Cadw Cwis](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/761/480/original/ba648858-6328-425c-bda6-439cf2081e68.png)
Cliciwch y botwm Cadw i gadw eich gwaith ac i weld rhagolwg o’r cwis.
Nodyn: Ni ddylech gyhoeddi eich cwis nes eich bod wedi’i gwblhau’n derfynol. Os ydych chi’n barod i gyhoeddi eich cwis a’i ddarparu i fyfyrwyr, cliciwch y botwm Cadw a Chyhoeddi (Save & Publish).
Cyhoeddi Cwis
![Cyhoeddi Cwis](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/008/621/747/original/171b2ef1-d5a3-43d0-8044-86bf06402dfc.png)
I gyhoeddi’r cwis, cliciwch y botwm Cyhoeddi (Publish) [1].
I neilltuo’r cwis i bawb, adran o gwrs, neu fyfyriwr unigol, cliciwch y botwm Rhoi I (Assign To) [2].
Nodyn: Er y gallwch wneud newidiadau i’r cwis ar ôl ei gyhoeddi, ni fydd y myfyrwyr sydd eisoes wedi agor neu gwblhau’r cwis yn gweld y newidiadau, a gallai hynny effeithio ar eu graddau.