Sut ydw i’n golygu cyhoeddiad mewn cwrs?
Os gwnaethoch chi anghofio ychwanegu rhywbeth at eich cyhoeddiad, gallwch chi olygu ac ychwanegu rhagor o wybodaeth yn hawdd.
Sylwch:
- Gallwch chi naill ai gadw’r cyhoeddiad wedi’i olygu heb hysbysu defnyddwyr neu anfon hysbysiad at ddefnyddwyr.
- Rhaid i’ch cwrs fod wedi cael ei gyhoeddi er mwyn i fyfyrwyr gael hysbysiadau am gyhoeddiadau. Nid yw myfyrwyr yn derbyn hysbysiadau cyhoeddiadau newydd ar gyfer cyhoeddiadau sydd wedi’u mewngludo o gwrs Canvas arall.
Agor Cyhoeddiadau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Cyhoeddiadau (Announcements).
Hysbysu Defnyddwyr

I gadw’r cyhoeddiad ar ei newydd wedd heb hysbysu defnyddwyr, cliciwch ar y botwm Cadw a Pheidio Anfon (Save & Don't Send) [1].
I gadw’r cyhoeddiad ar ei newydd wedd a hysbysu’r defnyddwyr hefyd, cliciwch ar y botwm Anfon (Send) [2].
Nodyn: Fydd yr is-ffenestr ddim yn ymddangos wrth olygu cyhoeddiad gyda dyddiad postio wedi’i ohirio.