Sut ydw i’n cyhoeddi neu ddatgyhoeddi modiwl fel addysgwr?
Fel addysgwr, gallwch chi gyhoeddi neu ddatgyhoeddi modiwl mewn cwrs. Mae modiwlau sydd heb eu cyhoeddi yn anweladwy i fyfyrwyr.
Mae Modiwlau yn rheoli holl lif eich cwrs a’i gynnwys. Pan fyddwch chi’n ychwanegu eitemau at Fodiwl, cofiwch fod modiwl sydd heb ei gyhoeddi yn diystyru cyflwr eitemau modiwl unigol.
Er enghraifft, os byddwch chi’n ychwanegu Trafodaeth wedi’i chyhoeddi at Fodiwl heb ei gyhoeddi, ni fydd myfyrwyr yn gallu gweld y Drafodaeth ar y dudalen Modiwlau. Ond, byddan nhw’n dal i allu gweld y Drafodaeth mewn rhannau eraill o Canvas, fel y Maes Llafur a’r Calendr, ond ni fyddan nhw’n gallu agor na chymryd rhan yn y Drafodaeth. Byddwch yn ymwybodol o'r senarios posib hyn wrth ychwanegu cynnwys cwrs at Fodiwl.
Mae modiwlau hefyd yn gallu delio â chyhoeddi neu ddatgyhoeddi ffeiliau, yn ogystal â gosod ffeil wedi’i chyfyngu. Mae’r statws cyfyngedig yn berthnasol i ffeiliau’n unig a gall guddio ffeiliau oddi wrth fyfyrwyr. Ond, byddwch yn ymwybodol y gall myfyrwyr weld ffeiliau cyfyngedig pan fyddan nhw’n cael eu hychwanegu at fodiwlau. Gallwch ddysgu mwy am gyfyngu ar ffeiliau yn Canvas.
Agor Modiwlau
Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Modiwlau (Modules).
Gweld Statws Pob Modiwl
Gallwch chi weld cyflwr pob modiwl ar y dudalen Mynegai. Mae eiconau gwyrdd yn nodi bod y modiwl wedi’i gyhoeddi [1]. Mae eiconau llwyd yn nodi modiwlau heb eu cyhoeddi [2]. Gallwch chi newid statws y modiwl trwy ddefnyddio cwymplen gyhoeddi’r modiwl.
Cyhoeddi Modiwl
I gyhoeddi modiwl, cliciwch gwymplen gyhoeddi’r modiwl [2]. I gyhoeddi’r modiwl cyfan a’i holl eitemau mewn swp, cliciwch yr opsiwn Cyhoeddi modiwl a’r holl eitemau (Publish module and all items) [2]. I gyhoeddi’r modiwl yn unig heb yr eitemau modiwl, cliciwch yr opsiwn Cyhoeddi modiwl yn unig (Publish module only) [3].
Nodyn: Dim ond pan fo Hawlfraint Ffeil wedi’i alluogi a bod hawliau defnydd wedi’u gosod neu eu hanalluogi ar gwrs mae cyhoeddi ffeiliau mewn swp mewn modiwl ar gael.
Datgyhoeddi Modiwl
I ddatgyhoeddi modiwl a’i holl eitemau, cliciwch gwymplen gyhoeddi’r modiwl [1] a chlicio’r opsiwn Datgyhoeddi modiwl a’r holl eitemau (Unpublish module and all items) [2]. I ddatgyhoeddi’r modiwl yn unig heb yr eitemau modiwl, cliciwch yr opsiwn Datgyhoeddi modiwl yn unig (Unpublish module only) [3].
Nodyn: Nid yw datgyhoeddi mewn swp ar gael ar gyfer unrhyw ffeiliau mewn modiwl.
Newid Statws Eitemau Cynnwys Modiwl
Gallwch chi weld a newid statws eitemau cynnwys modiwl unigol hefyd. Er y bydd cyhoeddi modiwl yn cyhoeddi holl eitemau’r modiwl hefyd, gallwch chi ddatgyhoeddi eitemau modiwl unigol eich hun yn nes ymlaen. Nid yw myfyrwyr yn gallu gweld eitemau modiwl sydd heb eu cyhoeddi fel rhan o fodiwl sydd wedi’i gyhoeddi. Dysgu rhagor am reoli aseiniadau, cwisiau, trafodaethau, tudalenau, a ffeiliau.
Os byddwch chi’n ychwanegu ffeil gyfyngedig fel eitem cynnwys modiwl, bydd y ffeiliau cyfyngedig yn ymddangos gydag eicon clo. Mae ffeiliau cyfyngedig yn gweithredu fel ffeiliau wedi’u cyhoeddi ac mae modd i fyfyrwyr eu gweld (yn dibynnu ar y gosodiadau cyfyngu). Gallwch ddysgu mwy am gyfyngu ar ffeiliau yn Canvas.
Nodyn: Cofiwch fod modiwl sydd heb ei gyhoeddi yn diystyru cyflwr eitemau modiwl unigol. Os yw eitem wedi’i gyhoeddi o fewn modiwl sydd heb ei gyhoeddo, nid yw myfyrwyr yn gallu gweld yr eitem ar y dudalen Modiwlau ond maen nhw’n gallu gweld yr eitemau sydd wedi’u cyhoeddi mewn rhannau eraill o Canvas. Ond, fyddan nhw ddim yn gallu rhyngweithio â’r eitem nes bod y modiwl wedi cael ei gyhoeddi.
Gwedd Myfyrwyr Modiwlau
Nid yw myfyrwyr yn gallu gweld unrhyw un o’r camau gweithredu sy’n gysylltiedig â’r statws cyhoeddi, fel eiconau wedi cyhoeddi a heb gyhoeddi ac eiconau gosodiadau. Dim ond modiwlau wedi’u cyhoeddi ac eitemau cynnwys modiwl sydd ar gael, sydd mewn testun llwyd, y mae myfyrwyr yn gallu eu gweld.