Sut ydw i’n gweld a threfnu atebion mewn trafodaeth fel addysgwr?

Gallwch chi weld yr holl ymatebion mewn trafodaeth drwy sgrolio neu chwilio cynnwys.

Mae ymatebion i drafodaeth yn cael eu sortio mewn trefn (y mwyaf newydd i’r hynaf) yn ddiofyn. Mae rhoi ymatebion i drafodaeth yn eu trefn yn berthnasol i’r ymatebion gwreiddiol. Mae modd crebachu ac ehangu ymatebion mewn edefion.

Gallwch chi hefyd chwilio am ymatebion i drafodaeth yn ôl awdur a geiriau allweddol a hidlo ymatebion i drafodaethau yn rhai sydd wedi’u darllen a heb eu darllen.

Agor Trafodaethau

Agor Trafodaethau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Trafodaethau (Discussions).

Agor Trafodaeth

Cliciwch enw’r drafodaeth.

Gweld Trafodaeth

Mae trafodaethau’n cynnwys testun trafod [1] ac ymatebion i drafodaeth [2]. Yn y maes testun, gallwch weld nifer y negeseuon heb eu darllen ac ymatebion mewn trafodaeth [3].

Gallwch chi hefyd gael hysbysiadau ar gyfer gweithgarwch trafod drwy danysgrifio i’r drafodaeth. I danysgrifio i drafodaeth, cliciwch yr eicon Tanysgrifio (Subscribe) [4]. Rydych chi’n cael eich tanysgrifio’n awtomatig i unrhyw drafodaethau rydych chi’n eu creu neu’n ymateb iddynt. I ddad-danysgrifio, cliciwch yr eicon Dad-danysgrifio (Unsubscribe).

Nodyn: Mae hysbysiadau gan drafodaethau y tanysgrifiwyd iddynt yn seiliedig ar eich gosodiadau hysbysiadau.

Gweld Bar Offer

I chwilio am ymatebion neu awduron penodol, rhowch eich termau yn y maes chwilio (search) [1].

I hidlo ymatebion, cliciwch y gwymplen Hidlo (Filer) [2]. Gallwch chi hidlo yn ôl yr holl ymatebion neu ymatebion heb eu darllen. 

I drefnu’r ymatebion yn ôl y rhai mwyaf newydd neu hynaf, cliciwch y botwm Sortio (Sort) [3].

I weld yr ymatebion mewn edeifion drwy rannu sgrin, cliciwch y botwm Gweld Rhannu Sgrin (View Split Screen) [4].

I weld yr ymatebion mewn edeifion i gyd ar yr un pryd, cliciwch y botwm Ehangu edeifion (Expand Threads) [5]. Gallwch chi grebachu’r ymatebion mewn edeifion drwy glicio’r botwm Crebachu edeifion (Collapse Threads) [6].

I weld yr ymatebion mewn edefion mewn-llinell, cliciwch y botwm Gweld Mewn-llinell (View Inline) [7].

I weld sawl ymateb sydd heb eu darllen ar gyfer pob trafodaeth grŵp, cliciwch y botwm Rhestr Grŵp (Group List) [8]. Cliciwch y ddolen grŵp i weld yr ymatebion grŵp [9].

Nodyn: Os yw Crynodebau o Drafodaethau wedi’u galluogi ar gyfer eich sefydliad, mae’r botwm Crynhoi (Summarize) yn eich caniatáu chi i weld crynodeb o’r drafodaeth wedi’i chynhyrchu â deallusrwydd artiffisial.

Gweld Neges Trafodaeth Ddienw

Os yw’r dewis trafodaeth ddienw wedi’i alluogi ar gyfer y drafodaeth, mae neges yn ymddangos yn nodi fod enwau a lluniau proffil myfyrwyr wedi eu cuddio, fodd bynnag mae modd i holl aelodau’r cwrs weld eich enw a’ch llun proffil.

Nodyn: Os nad oes unrhyw drafodaethau wedi’u cyflwyno, gallwch olygu’r manylion cyfrinachedd.

Gweld Atebion

Gweld Atebion

Mewn ymatebion i drafodaeth, gallwch chi weld enw’r defnyddiwr a anfonodd yr ymateb [1], y dyddiad a’r amser yr anfonwyd eu hymateb [2], y dyddiad a’r amser yr anfonwyd yr ymateb diwethaf mewn edefyn [3].

Yr eicon Heb eu darllen (Unread) [4] sy’n dangos yr ymatebion heb eu darllen.

Os ydych chi’n gadael i fyfyrwyr hoffi atebion mewn trafodaeth, bydd eicon Hoffi (Like) yn ymddangos wrth ymyl pob ymateb yn y drafodaeth [5].

Nodyn: Os yw’r opsiwn trafodaeth ddienw wedi’i alluogi ar gyfer y drafodaeth, nid yw enwau a lluniau proffil y myfyrwyr i’w gweld. Fodd bynnag, fel addysgwr, mae’n dal yn bosibl i holl aelodau’r cwrs weld eich enw a’ch llun proffil.

Gweld Ymatebion i Drafodaeth Mewn Edeifion Mewn-llinell

Wrth weld ymatebion i drafodaeth mewn edeifion mewn-llinell, gallwch grebachu ac ehangu’r edeifion trafod drwy glicio ar y botymau Ehangu edeifion (Expand Threads) a Chrebachu edeifion (Collapse Threads). Pan fydd ymateb mewn edefyn trafod wedi’i grebachu, gallwch chi weld y dangosyddion ymateb sy’n dangos cyfanswm yr ymatebion heb eu darllen a chyfanswm yr holl ymatebion.

I ehangu’r ymatebion i edeifion trafod mewn-llinell, cliciwch y ddolen # yr ymatebion (# of replies) [1].

Gweld a darllen ymatebion a ddarllenwyd a heb eu darllen [2].

I weld opsiynau golygu ymatebion mewn edeifion, cliciwch yr eicon Opsiynau (Options) [3]. Gallwch chi farcio bod ymatebion wedi’u darllen/heb eu darllen, marcio fod ymatebion mewn edefion wedi’u darllen / heb eu darllen, dychwelyd at y testun, golygu’r ymateb, dileu’r ymateb, agor yr ymateb yn SpeedGrader, neu riportio’r ymateb.

Gweld Ymatebion i Drafodaeth Mewn Edeifion Drwy Rannu Sgrin

I weld yr ymatebion mewn edeifion drwy rannu sgrin, cliciwch y botwm Gweld Rhannu Sgrin (View Split Screen) [1].

Wrth weld ymatebion i drafodaeth mewn edeifion drwy rannu sgrin, gallwch chi grebachu ac ehangu’r bar ochr ymatebion i edefyn trafod. Pan fydd ymateb mewn edefyn trafod wedi’i grebachu, gallwch chi weld y dangosyddion ymateb sy’n dangos cyfanswm yr ymatebion heb eu darllen a chyfanswm yr holl ymatebion.

I ehangu’r ymatebion i edefyn trafod mewn bar ochr, cliciwch y ddolen # yr ymatebion (# of replies) [2].

Gweld a darllen ymatebion a ddarllenwyd a heb eu darllen [3].

I weld opsiynau golygu ymatebion mewn edeifion, cliciwch yr eicon Opsiynau (Options) [4]. Gallwch chi farcio bod ymatebion wedi’u darllen/heb eu darllen, marcio fod ymatebion mewn edefion wedi’u darllen / heb eu darllen, dychwelyd at y testun, golygu’r ymateb, dileu’r ymateb, agor yr ymateb yn SpeedGrader, neu riportio’r ymateb.

I grebachu’r ymatebion i edefyn trafod mewn bar ochr, cliciwch y ddolen Cau (Close) [5].

Ymateb i Drafodaeth

I ymateb i’r testun trafod, cliciwch y botwm Ateb (Reply) [1]. I ymateb i ymateb i drafodaeth, ciciwch y ddolen Ymateb (Reply) [2].

Gweld Opsiynau Ymateb

Gweld Opsiynau Ymateb

I weld y ddewislen Opsiynau, cliciwch yr eicon Opsiynau (Options) [1].

I nodi bod ymateb heb ei ddarllen, cliciwch y botwm Nodi fod y Neges Heb ei Ddarllen (Mark Post as Unread) [2].

I ddychwelyd i’r prif destun trafod, cliciwch yr opsiwn Mynd i’r Testun (Go To Topic) [3].

I olygu ymateb, cliciwch yr eicon Golygu (Edit) [4].

I ddileu ymateb, cliciwch yr opsiwn Dileu (Delete) [5].

I weld ymateb i drafodaeth raddedig yn SpeedGrader, cliciwch yr opsiwn Agor yn SpeedGrader (Open in SpeedGrader) [6].

I roi adroddiad ar ymateb, cliciwch yr opsiwn Adroddiad (Report) [7].

 

Gweld Ymateb wedi’i Ddileu

Gweld Ymateb wedi’i Ddileu

Gallwch weld enw'r defnyddiwr sydd wedi dileu’r ymateb a’r dyddiad a’r amser y cafodd yr adroddiad ei ddileu.

Gweld Hanes Ymateb

Gweld Hanes Ymateb

Os yw myfyrwyr yn cael eu caniatáu i olygu negeseuon trafod, gallwch weld hanes golygu eu neges.

I weld yr hanes, cliciwch y ddolen Gweld Hanes (View History) [1].

Yn y ffenestr Hanes Golygu, gallwch chi weld unrhyw fersiwn gyda stamp dyddiad ac amser ar gyfer neges y myfyriwr [2]. I ehangu’r holl fersiynau, cliciwch y botwm Ehangu’r cyfan (Expand all) [3].

I ddychwelyd i'r drafodaeth, cliciwch y botwm Cau [4].

Gweld Opsiynau Ymatebion Mewn Edefion

I weld y ddewislen Opsiynau ar gyfer ymateb mewn edefyn, cliciwch yr eicon Opsiynau (Options) [1].

I weld y neges wreiddiol mewn ymateb mewn edefyn, cliciwch yr eicon Mynd i’r Rhiant (Go to Parent) [2].

I roi adroddiad ar ymateb, cliciwch yr opsiwn Adroddiad (Report) [3].