Sut ydw i’n golygu’r Maes Llafur mewn cwrs?

Mae golygu'r Maes Llafur (Syllabus) yn gadael i ychwanegu testun a chysylltu ffeiliau, delweddau a chynnwys cwrs arall yn eich Disgrifiad o’r Maes Llafur. Gallwch chi hefyd ddewis analluogi’r Crynodeb Cwrs.

Mae’r Crynodeb Cwrs wedi’i alluogi’n ddiofyn. Mae’n cael ei gynhyrchu’n awtomatig yn seiliedig ar aseiniadau cwrs a digwyddiadau yng nghalendr y cwrs. Dim ond drwy olygu neu ddileu’r aseiniadau neu’r digwyddiadau mae modd newid eitemau yn y Crynodeb Cwrs. Mae pob aseiniad (heb ei gyhoeddi ac wedi’i gyhoeddi) wedi'i restru yn y maes llafur ar gyfer addysgwyr.

Note: Does gan ffeiliau delwedd ddim opsiwn gweld rhagolwg pan fyddan nhw wedi cael eu hychwanegu fel dolen ffeil drwy’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog.

Agor Maes Llafur

Agor Maes Llafur

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Maes Llafur (Syllabus).

Golygu Maes Llafur

Golygu Maes Llafur

Cliciwch y botwm Golygu (Edit).

Golygu Disgrifiad o’r Maes Llafur

Gallwch olygu’r disgrifiad o’r maes llafur gan ddefnyddio'r Golygydd Cynnwys Cyfoethog.

Gallwch bostio disgrifiad o'ch cwrs, cyflwyniad byr, canllawiau dosbarth, negeseuon atgoffa wythnosol, a gwybodaeth bwysig arall yn y Disgrifiad o’r Maes Llafur. Gallwch gopïo cynnwys yn syth o ddogfennau Word i'r Golygydd Cynnwys Cyfoethog, neu gallwch greu cynnwys gwreiddiol yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog. Hefyd, gallwch ddefnyddio'r Golygydd Cynnwys Cyfoethog i blannu fideos a mewnbynnu HTML.

Ychwanegu Ffeiliau

I blannu dogfen yn eich maes llafur, amlygwch y testun lle rydych chi eisiau gosod dolen y ffeil [1] a chliciwch y saeth Opsiynau Dogfennau (Documents Options) i ddewis dogfen y ffeil [2]. Yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog, bydd y testun yn troi’n las i nodi bod modd llwytho’r ddolen i lawr.

Note: I dynnu’r ddogfen, cliciwch ac amlygwch y testun yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog, ac yna pwyswch y fysell backspace neu ddileu ar MAC neu PC.

Rheoli Crynodeb Cwrs

Mae’r Crynodeb Cwrs wedi’i alluogi’n ddiofyn. Mae’n cael ei gynhyrchu’n awtomatig yn seiliedig ar aseiniadau cwrs a digwyddiadau yng nghalendr y cwrs. Dim ond drwy olygu neu ddileu’r aseiniadau neu’r digwyddiadau mae modd newid eitemau yn y Crynodeb Cwrs. Mae pob aseiniad (heb ei gyhoeddi ac wedi’i gyhoeddi) wedi'i restru yn y maes llafur ar gyfer addysgwyr.

I analluogi’r Crynodeb Cwrs, dad diciwch y blwch ticio Dangos Crynodeb Cwrs (Show Course Summary).

Diweddaru Maes Llafur

Diweddaru Maes Llafur

Cliciwch y botwm Diweddaru Maes Llafur (Update Syllabus).

Gweld Maes Llafur

Gweld Maes Llafur

Gweld y maes llafur