Sut ydw i’n defnyddio’r eiconau a’r lliwiau yn y Llyfr Graddau?

Mae’r Llyfr Graddau yn cynnwys nifer o eiconau a lliwiau fydd yn ymddangos yn y colofnau aseiniadau, grwpiau aseiniadau, a’r golofn Cyfanswm.

Dangosyddion mewn llyfrau graddau yw eiconau a lliwiau, ac maent yn eich helpu i raddio’r cwrs. Mae pob aseiniad sydd wedi’i gyhoeddi yn cyfrif tuag at radd gyflawn myfyriwr, oni bai eu bod yn aseiniadau sydd wedi’u hesgusodi.

Eiconau Math o Gyflwyniad

Mae’r Llyfr Graddau yn dangos un Eicon Aseiniad (Assignment Icon) [1], ni waeth be fo’r math o aseiniad, er mwyn nodi cyflwyniad sydd angen ei raddio. Nodir bod angen i gyflwyniad gael ei raddio yn yr amodau canlynol:

  • Mae cyflwyniad wedi cael ei dderbyn ond heb gael ei raddio
  • Roedd cyflwyniad wedi cael ei raddio ond cafodd y radd ei thynnu gan yr addysgwr
  • Cafodd aseiniad neu gwis ei ailgyflwyno
  • Cafodd cwis ei gyflwyno yn Classic Quizzes, ond heb ei raddio’n llawn (mae’n cynnwys cwestiynau y mae’n rhaid i rywun fynd ati i’w graddio, neu mae sgôr cwis a gyflwynwyd yn awtomatig wedi cael ei dileu ac mae angen ei hail-neilltuo); gall hefyd ymddangos os yw cwis wedi cael ei olygu a’i fod yn cynnwys newidiadau mawr sy’n cael effaith ar sgôr y cwis, er enghraifft dileu cwestiynau neu ddileu atebion cwis, a bod angen i raddiwr ei wirio ei hun

Mae aseiniad gyda graddau wedi’u cuddio rhag myfyrwyr wedi’i nodi gan yr eicon Gweladwy [2]. Sefyllfaoedd perthnasol eraill:

  • Os na fydd y nodwedd ar gyfer pwysoli grwpiau aseiniadau wedi'i galluogi, bydd y golofn cyfanswm hefyd yn cynnwys eicon rhybudd a fydd yn rhoi gwybod i chi bod y radd rydych chi’n ei gweld yn wahanol i’r radd mae’r myfyrwyr yn ei gweld oherwydd bod graddau myfyrwyr ar un neu ragor o aseiniadau wedi’u graddio wedi cael eu cuddio.
  • Os yw colofn aseiniad yn dangos yr eicon gweladwy a bod y celloedd wedi’u lliwio’n llwyd, mae'r aseiniad wedi'i safoni.

Nodyn: Dydy’r eicon Aseiniad ddim yn ymddangos ar gyfer trafodaethau wedi’u hailgyflwyno.

Mathau o Ddull Graddio

Mae pob math o raddio yn edrych yn wahanol yn y Llyfr Graddio. Dyma sut mae pob math o raddio yn cael ei gynrychioli:

  • Dash [1]: Dim cyflwyniad
  • Nifer [2]: Gradd pwyntiau
  • Eicon Tic [3]: Gradd gyflawn
  • Eicon X [4]: Gradd anghyflawn
  • Llythyren [5]: Gradd llythyren
  • Canran [6]: Gradd canran
  • GPA [7]: Graddfa GPA
  • Wedi’i esgusodi [8]: Aseiniad wedi’i esgusodi

Eiconau Rhybudd Colofn

Eiconau Rhybudd

Mae’r Eicon Rhybudd Du [1] yn eich hysbysu nad yw’r sgôr derfynol yn cynnwys un o’r grwpiau o aseiniadau oherwydd nad oes pwyntiau posib ar gyfer y grŵp (bydd y rhybudd yn nodi pa grŵp o aseiniadau yr effeithir arno). Bydd yr eicon hwn yn ymddangos yn y golofn cyfanswm sy’n gysylltiedig â gwallau mewn grŵp o aseiniadau yn unig. 

Gallwch gywiro'r rhybuddion ynghylch grŵp o aseiniadau drwy sicrhau grŵp o aseiniadau sydd wedi’i bwysoli yn cynnwys aseiniad sydd â mwy na sero pwynt, neu, os yw aseiniad yn fod i gael sero pwynt, dylech ychwanegu aseiniad arall sydd â mwy na sero pwynt at y grŵp o aseiniadau.

Mae’r Eicon Rhybudd Coch [2] yn eich hysbysu nad yw’r cynllun graddau yn gallu delio â’r radd a roddwyd. Bydd Canvas hefyd yn dangos neges rhybudd gradd annilys pan fydd gradd annilys yn cael ei rhoi.

Eicon Rhybudd Ardal Manylion y Radd

Eicon Rhybudd Ardal Manylion y Radd

Mae’r Eicon Rhybudd Ardal Manylion y Radd yn dangos eicon rhybudd ar gyfer aseiniad sydd ddim yn cael eu cyfrif fel rhan o’r radd derfynol. Mae’r eicon hwn yn ymddangos os yw’r opsiwn Peidio â chynnwys yr aseiniad hwn yn y radd derfynol (Do not count this assignment towards the final grade) wedi’i ddewis, neu os ydy’r aseiniad mewn grŵp aseiniadau wedi’u pwysoli heb ganran wedi’i bwysoli.

Mae Ardal Manylion y Radd hefyd yn adlewyrchu os ydy graddau aseiniad wedi’u cuddio.

Eiconau Gweladwy

Os ydych chi wedi gosod polisi postio eich hun mewn cwrs neu mewn aseiniad unigol, bydd y label Eich Hun yn ymddangos yn y Llyfr Graddau.

Mae’r label Eich Hun (Manual) [1] yn nodi bod polisi postio eich hun ar waith ac y bydd graddau wedi’u cuddio rhag myfyrwyr yn y dyfodol neu fod polisi postio eich hun wedi cael ei ddefnyddio yn y gorffennol i guddio graddau mewn aseiniad. Os ydych chi wedi dewis polisi postio eich hun ar gyfer cwrs, bydd pob aseiniad sydd â graddau wedi’u cuddio yn dangos yr eicon Gweladwy.

Mae’r eicon Gweladwy [2] yn nodi bod graddau o fewn yr aseiniad y mae’n rhaid eu postio cyn y gallan nhw gael eu gweld gan fyfyrwyr.

Pan mae graddau wedi’u cuddio rhag myfyrwyr, mae’r golofn Cyfanswm hefyd yn dangos yr eicon Gweladwy [3] i nodi bod y radd gyflawn yn y Llyfr Graddau yn wahanol i’r radd gyflawn sy’n cael ei gweld gan y myfyriwr.

Lliwiau

Lliwiau

Mae’r Llyfr Graddau yn cynnwys set ddiofyn o liwiau sy’n nodi statws gwahanol aseiniadau:

  • Glas [1]: Cyflwyniad hwyr
  • Coch [2]: Cyflwyniad ar goll
  • Gwyrdd [3]: Aseiniad neu gwis wedi’i ailgyflwyno
  • Oren [4]: Gradd wedi’i gollwng
  • Melyn [5]: Aseiniad wedi’i esgusodi

Mae’r lliwiau statws yn eich Llyfr Graddau yn gallu amrywio, a gallwch newid y lliwiau statws ar gyfer pob statws yn y Llyfr Graddau. Ond, does dim modd i chi newis enwau’r statws.

Mae rhesi’r Llyfr Graddio yn newid rhwng graddliwio gwyn a llwyd. Felly bydd rhai lliwiau’n ymddangos yn dywyllach os ydyn nhw’n ymddangos mewn rhes sydd â graddliwio llwyd.

Sylwch:

  • Yn dibynnu ar eich sefydliad, efallai y byddwch chi’n gallu defnydddio statysau llyfr graddio personol.
  • Dydy’r lliw aseiniad wedi’i ailgyflwyno ddim yn berthnasol i drafodaethau wedi’u hailgyflwyno.

Aseiniadau wedi’u Gwahaniaethu

Aseiniadau wedi’u Gwahaniaethu

Wrth ddefnyddio aseiniadau wedi’u gwahaniaethu, mae’r aseiniad yn ymddangos fel colofn i’r holl fyfyrwyr, ond mae celloedd gradd yn ymddangos yn llwyd i fyfyrwyr sydd ddim yn rhan o’r aseiniad ond nid ydynt yn cynnwys dash. Does dim modd neilltuo graddau i fyfyrwyr sydd ddim yn rhan o’r aseiniad; dydy’r aseiniadau hynny ddim yn cael eu cynnwys yn y graddau cyffredinol.

Yn y dudalen graddau myfyrwyr, dim ond aseiniadau sydd wedi cael eu neilltuo iddyn nhw all myfyrwyr eu gweld.

Mae aseiniadau wedi'u gwahaniaethu hefyd yn cael eu defnyddio yn Llwybrau Meistroli.

Cyfnodau Graddio wedi Dod i Ben

Cyfnodau Graddio wedi Dod i Ben

Os yw eich cwrs yn defnyddio mwy nag un cyfnod graddio, bydd y celloedd cyflwyno ar gyfer aseiniad cyfan yn cael ei liwio’n llwyd yn y Llyfr Graddau pan fydd y cyfnod graddio wedi dod i ben. Does dim modd golygu aseiniadau mewn cyfnod graddio sydd wedi dod i ben.

Colofnau wedi’u Hanalluogi

Mae rhai colofnau wedi’u hanalluogi’n llwyr nes bod statws yr aseiniad yn cael ei newid. Dydy colofnau wedi’u hanalluogi ddim yn cynnwys dashys yng nghelloedd y Llyfr Graddau, sy’n nodi nad oes modd rhoi graddau, ac mae ganddyn nhw gefndir llwyd.

Mae colofnau wedi’u hanalluogi wedi’u labelu ar gyfer aseiniadau heb eu cyhoeddi [1] ac aseiniadau dienw [2]. Does dim modd rhoi graddau ar gyfer aseiniadau heb eu cyhoeddi nes bod yr aseiniadau yn cael ei gyhoeddi. Ar gyfer aseiniadau dienw, dydy’r celloedd graddau ddim yn dangos unrhyw gynnwys, gan gynnwys yr eiconau Angen ei Raddio, nes bod graddau’r aseiniad yn cael eu dad-guddio.

Nodyn: Mae aseiniadau sy’n ddienw ac wedi’u safoni yn ymddangos yn ddienw, ond mae Ardal Manylion y Radd yn dangos yr aseiniad fel ei fod wedi’i guddio. Mae modd diweddaru aseiniadau sydd wedi’u cuddio a’u safoni yn y Llyfr Graddau, ond bydd unrhyw radd sy’n cael ei rhoi yn cael ei diystyru ar ôl i’r graddau terfynol gael eu postio.

Eiconau Turnitin

Eiconau Turnitin

Os ydych chi’n creu aseiniad Turnitin, bydd y Llyfr Graddau’n dangos eiconau sgôr Turnitin yn y Llyfr Graddau. I weld manylion y sgôr, cliciwch yr eicon i weld rhagor o fanylion yn SpeedGrader:

  • Eicon llwyd [1]: Nid yw’r Adroddiad Tebygrwydd wedi’i greu eto
  • Eicon lliw [2]: Mae'r Adroddiad Tebygrwydd wedi cyflwyno sgôr ac mae’r lliw yn seiliedig ar sgôr canran yr Adroddiad Tebygrwydd.
  • Mae eicon Cloc yn nod bod yr Adroddiad Tebygrwydd yn dal i gael ei greu
  • Mae’r eicon Ebychnod yn nodi bod gwall wrth greu’r Adroddiad Tebygrwydd

Dysgu mwy am Adroddiad Tebygrwydd Turnitin.