Sut ydw i’n graddio cwestiwn cwis Cwisiau Newydd un ar y tro yn SpeedGrader?
Gallwch chi raddio cwestiynau Cwisiau Newydd unigol yn defnyddio SpeedGrader. Mae’r rhan fwyaf o eitemau cwis yn cael eu graddio’n awtomatig ar ôl i fyfyriwr gyflwyno’r cwis. Ond rhaid i gwestiynnau llwytho ffeil i fyny a thraethodau gael eu graddio gennych chi.
Nodiadau:
- Bydd cwisiau sy’n tynnu cwestiynau o fanc eitemau yn newid trefn y cwestiynau ar gyfer pob myfyriwr. Bydd trefn y cwestiynau ar gyfer pob cyflwyniad yn amrywio yn SpeedGrader.
- Os ydych chi’n defnyddio Cwisiau Clasurol, dysgwch sut i raddio un cwestiwn cwis ar y tro.
Agor Graddau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Graddau (Grades).
Agor SpeedGrader
Dod o hyd i’r cwis rydych chi eisiau ei raddio [1]. Yn cliciwch unrhyw gell gradd ar gyfer y cwis [2].
I agor yr Adran Manylion Gradd, cliciwch yr eicon Adran Manylion Gradd [3]. Yna cliciwch y ddolen SpeedGrader yn yr Adran Manylion Gradd [4].
Agor Opsiynau SpeedGrader

I alluogi graddio un cwestiwn ar y tro, cliciwch yr eiconGosodiadau SpeedGrader [1] a chlicio’r ddolenOpsiynau (Options) [2].
Dewis Gradd yn ôl Cwestiwn

Cliciwch y blwch ticioGraddio yn ôl cwestiwn (Grade by question) [1]. Yna cliciwch y botwm Cadw Gosodiadau (Save Settings) [2].
Gweld y Bar Rhifau

Pan fo graddio yn ôl un cwestiwn cwis ar y tro wedi’i alluogi, bydd Canvas yn dangos bar rhifau wrth y panel gwedd cwis i gynrychioli pob cwestiwn yn eich cwis [1].
Mae rhifau gyda dangosydd yn cynrychioli cwestiynau sydd angen eu grraddio eich hun [2]. Mae Canvas hefyd yn dangos bar hysbysu gyda’r cwestiynau cwis sydd angen eu hadolygu a’u graddio eich hun [3].
Neilltu Gradd
Mae cwestiynau sydd angen eu graddio eich hun yn dangos border a thestun Yn aros am radd [1].
I adael sylwadau ychwanegol ar y cwestiwn, cliciwch yr eicon Sylw [2]. I roi pwyntiau llawn i fyfyriwr am ateb, cliciwch y botwm Cywir (Correct) [3]. I roi dim pwyntiau i fyryriwr am ateb, cliciwch y botwm Anghywir (Incorrect) [4]. Gallwch chi hefyd ddefnyddio’r botymau Saeth i gynyddu neu leihau’r sgôr [5].
I gadw'r sgôr ar gyfer y cwestiwn, cliciwch y botwm Diwddaru (Update) [6].
Symud Ymlaen at y Myfyriwr Nesaf

I raddio cyflwyniad myfyriwr ar gyfer yr un cwestiwn, cliciwch y botwm Myfyriwr Nesaf (Next Student) [1].
I fynd i fyfyriwr blaenorol, cliciwch y botwm Myfyriwr Blaenorol (Previous Student) [2].
Nodyn: Mae SpeedGrader yr un cwestiwn cwis ar gyfer y myfyriwr nesaf.