Sut ydw i’n gweld cwrs fel myfyriwr prawf gan ddefnyddio’r Wedd Myfyrwyr?

Gallwch weld cwrs fel y bydd eich myfyrwyr yn gweld eich cwrs drwy’r Wedd Myfyrwyr. Wrth alluogi’r Wedd Myfyrwyr, bydd Myfyriwr Prawf yn cael ei greu yn eich cwrs. Gallwch hefyd roi’r Wedd Myfyrwyr ar waith yng Ngosodiadau’r Cwrs.

I weld persbectif y myfyriwr ar Canvas, defnyddiwch y Wedd Myfyrwyr i weld y cwrs, postio trafodaethau ac ymateb iddyn nhw, cyflwyno aseiniadau, gweld graddau, gweld pobl, gweld tudalennau, gweld y maes llafur, gweld cwisiau, gweld y calendr a gweld y trefnydd (os yw wedi’i alluogi).

Gallwch ailosod data Myfyriwr Prawf ar unrhyw adeg; ond, does dim modd tynnu achosion o ryngweithio rhwng y Myfyriwr Prawf a myfyrwyr eraill, fel ymateb i drafodaeth. Mae data Myfyriwr Prawf sy’n ymwneud â rhyngweithio â myfyrwyr eraill yn cael ei gadw hyd yn oed os ydy’r myfyriwr prawf yn cael ei dynnu o ymrestriadau’r adran.

Dydy’r nodweddion presenoldeb, cynadleddau, blwch derbyn sgyrsiau, cydweithrediadau, aseiniadau wedi’u gwahaniaethu, apiau allanol, grwpiau, adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr na phroffiliau ddim yn gweithio i’r Myfyriwr Prawf. Dim ond yr hyn rydych chi, fel addysgwr, yn gadael i’ch myfyrwyr ei weld y byddwch chi’n gallu ei weld.

Nodiadau:

  • Mae gan bob cwrs Canvas gyfrif Myfyriwr Prawf ar wahân. Pryd bynnag y byddwch chi’n symud i gwrs newydd, bydd angen i chi alluogi’r Wedd Myfyrwyr ar gyfer y cwrs hwnnw.
  • Dydy’r gwaith mae Myfyriwr Prawf wedi’i gyflwyno na’i sgorau ddim yn effeithio ar y dadansoddiad o’r cwrs.
  • I brofi neu weld rhagolwg o aseiniadau a thrafodaethau fel Myfyriwr Prawf (Test Student), rhaid i eitemau gael eu cyhoeddi ar y cwrs.
  • Byddwch chi’n gweld cynllun y cwrs fel y mae’n ymddangos i'ch myfyrwyr. Does dim modd i chi weld gwybodaeth sy’n benodol i’r myfyriwr, fel sgyrsiau rhwng myfyrwyr.
  • Ni ddylai'r Wedd Myfyriwr gael ei defnyddio i brofi Llwybrau Meistroli yn yr amgylchedd beta neu'r amgylchedd prawf.
  • Ar ôl i chi roi’r Wedd Myfyrwyr ar waith, bydd y Myfyriwr Prawf i’w weld ar ddiwedd y Llyfr Graddau a SpeedGrader, a bydd yn cael ei ychwanegu’n awtomatig at bob adran yn eich cwrs. Os ydych chi am dynnu’r myfyriwr prawf yn llwyr, bydd yn rhaid i chi dynnu’r myfyriwr prawf o’ch ymrestriadau ar gyfer adran.
  • Dylid rhagweld asesiadau Cwisiau Newydd yn Cwisiau Newydd ac ni ddylid eu cymryd fel y myfyriwr prawf. Ni ellir ailosod ymdrechion Myfyriwr Prawf a bydd yn effeithio ar adroddiadau dadansoddi.

Agor y Wedd Myfyrwyr

Gallwch chi gael mynediad at y Wedd Myfyriwr o ran fwyaf o adrannau’r cwrs gan gynnwys: Hafan, Modiwlau, Aseiniadau, Cyhoeddiadau, Trafodaethau, Cwisiau, Tudalennau, Maes Llafur, a Deilliannau.

I weld y dudalen fel myfyriwr prawf, cliciwch y botwm Gweld fel Myfyriwr (View as Student).

Gweld Cwrs

Byddwch chi nawr yn gallu gweld y cwrs fel y byddai myfyriwr yn ei weld. Er enghraifft, dydy myfyrwyr ddim yn gallu gweld y ddolen crwydro’r Gosodiadau fel y gall addysgwyr.

Byddwch chi’n gwybod os ydych chi yn y Wedd Myfyrwyr, gan y bydd y blwch cyson ar waelod y sgrin yn dangos eich bod wedi mewngofnodi i’r Wedd Myfyrwyr.

Ailosod Myfyriwr

Gallwch hefyd ailosod y Myfyriwr Prawf drwy glicio Ailosod Myfyriwr (Reset Student). Bydd hyn yn clirio’r holl weithgarwch sydd ddim yn cynnwys unrhyw ryngweithio gan y myfyriwr.

Er enghraifft, os ydych chi wedi creu aseiniad a’i gyflwyno fel y Myfyriwr Prawf, ond wedi anghofio ychwanegu math penodol o gyflwyniad, gallwch glicio’r botwm Ailosod Myfyriwr a chyflwyno’r aseiniad eto fel y Myfyriwr Prawf.

Gadael y Wedd Myfyrwyr

I fynd yn ôl i’ch cwrs yn y wedd addysgwr, cliciwch y botwm Gadael y Wedd Myfyrwyr (Leave Student View).