Sut ydw i’n defnyddio’r Dangosfwrdd fel addysgwr?
Y Dangosfwrdd yw'r peth cyntaf y byddwch yn ei weld pan fyddwch chi’n mewngofnodi i Canvas. Mae’r Dangosfwrdd yn eich helpu i weld beth sy'n digwydd yn eich holl gyrsiau presennol.
Gallwch ddychwelyd i’ch Dangosfwrdd Defnyddiwr ar unrhyw adeg drwy glicio'r ddolen Dangosfwrdd yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan.
Nodyn: Os yw’ch sefydliad wedi galluogi’r Tiwtorial Creu Cwrs, bydd y Dangosfwrdd yn ymateb yn unol â lled y porwr i gyd.
Agor Dangosfwrdd
![Agor Dangosfwrdd](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/003/836/286/original/1b235576-09da-423f-92ed-592099755bea.png)
Yn y ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Dangosfwrdd (Dashboard).
Gweld Dangosfwrdd
Y Dangosfwrdd yw eich tudalen lanio yn Canvas. Yn dibynnu ar eich sefydliad, yn ddiofyn bydd gan eich Dangosfwrdd un o ddwy wedd: Gwedd Cardiau neu Wedd Gweithgarwch Diweddar.
- Gwedd Cardiau: yn dangos cardiau cwrs er mwyn cael mynediad cyflym at eich hoff gyrsiau (mae’r un cyrsiau i’w gweld yn y ddolen Cyrsiau yn y Ddewislen Crwydro’r Safle Cyfan)
- Gwedd Gweithgarwch Diweddar: yn dangos yr holl weithgarwch diweddar ar gyfer pob cwrs.
Gweld Rhestr Tasgau i’w Gwneud a Bar Ochr
![Gweld Rhestr Tasgau i’w Gwneud a Bar Ochr](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/004/601/592/original/7bebd4c8-a27b-456a-8187-1021c888f124.png)
Yn y Dangosfwrdd Gwedd Cardiau a'r Dangosfwrdd Gweithgarwch Diweddar, mae'r bar ochr yn cynnwys rhestr o Dasgau i'w Gwneud ac adrannau eraill sy’n eich helpu i wybod pa aseiniadau a digwyddiadau sydd ar y gweill ar gyfer pob un o’ch cyrsiau. Gallwch ddysgu mwy am far ochr y dangosfwrdd.
Gweld Cyhoeddiad Cyffredinol
![Gweld Cyhoeddiad Cyffredinol](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/003/655/365/original/54a9a760-8fc5-469b-a51e-5e5dc396dbcb.png)
Efallai y bydd y Dangosfwrdd hefyd yn cynnwys cyhoeddiadau cyffredinol, sef cyhoeddiadau sy’n cael eu creu gan eich sefydliad. I dynnu’r cyhoeddiad o’ch dangosfwrdd, cliciwch yr eicon Tynnu.
Gweld Cyhoeddiad wedi’i Ddiystyru
![Gweld Cyhoeddiad wedi’i Ddiystyru](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/003/655/345/original/10871b0c-8bc4-43a4-ae61-47179734346c.png)
Os byddwch chi’n diystyru cyhoeddiad cyffredinol, gallch chi wedi cyhoeddiadau wedi’u diystyru ar y dudalen Cyhoeddiadau Cyffredinol.
Newid Gwedd y Dangosfwrdd
![Newid Gwedd y Dangosfwrdd](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/004/615/083/original/01f54a38-eb8d-42c8-877c-894134c89aa0.png)
I newid eich Dangosfwrdd, cliciwch y ddewislen Opsiynau (Options) [1]. Gallwch chi weld y Dangosfwrdd yn Gwedd Cardiau (Card View) [2] neu Gwedd Gweithgarwch diweddar (Recent Activity View) [3]. Os ydy Canvas ar gyfer Cynradd wedi cael ei alluogi yn eich sefydliad, gallwch chi hefyd weld y Dangosfwrdd yn Gwedd Homeroom (Homeroom View) [4].