Sut ydw i'n rheoli dolenni dewislen Crwydro'r Cwrs?
Fel addysgwr, gallwch chi reoli pa ddolenni sy'n ymddangos yn newislen Crwydro'r Cwrs (Course Navigation). Mae Canvas yn cynnwys set o ddolenni Crwydro'r Cwrs sy’n ymddangos yn ddiofyn, a does dim modd eu hailenwi. Yn dibynnu ar ffurfweddiad eich cwrs, mae’n bosib y bydd dolenni eraill ar gael ac y bydd modd eu haddasu.
Bydd dolenni i adrannau heb unrhyw gynnwys ac nad yw myfyrwyr yn gallu creu cynnwys ar eu cyfer yn cael eu cuddio'n awtomatig rhag myfyrwyr, a bydd addysgwyr yn gallu gweld yr eicon Gweladwy (Visibilty). Er enghraifft, os nad oes deilliannau dysgu wedi’u pennu ar gyfer y cwrs, byddwch yn gweld y ddolen Deilliannau (Outcomes) gyda'r eicon Gweladwy, ond fydd myfyrwyr ddim yn gweld y ddolen o gwbl. Mae’n bosib i Apiau Allanol sydd wedi’u Ffurfweddu (Configured External Apps) greu dolenni ychwanegol ar gyfer Crwydro'r Cwrs (Course Navigation).
Mae analluogi dolen crwydro'r cwrs yn creu'r ailgyfeiriad canlynol:
- Cudd yn unig (dim modd analluogi ond yn dal yn hygyrch drwy URL uniongyrchol): Trafodaethau a Graddau
- Mae’r dudalen wedi’i hanalluogi; bydd yn ailgyfeirio at y dudalen Hafan (Home page): Cyhoeddiadau (Announcements), Aseiniadau (Assignments), Cynadleddau (Conferences), Cydweithrediadau (Collaborations), Ffeiliau (Files), Modiwlau (Modules), Deilliannau (Outcomes), Cwisiau (Quizzes), Tudalennau (Pages), Pobl (People), Cyfarwyddiadau Sgorio (Rubrics), a Maes Llafur (Syllabus)
- Mae’r dudalen wedi’i hanalluogi; fydd hi ddim yn ymddangos yn y ddewislen crwydro: Unrhyw ddolenni LTI, fel Presenoldeb (Attendance), Sgwrs (Chat), Lucid, a SCORM
Mae aildrefnu a chuddio dolenni Crwydro'r Cwrs (Course Navigation) ar gyfer Cyhoeddiadau (Announcements), Aseiniadau (Assignments), Trafodaethau (Discussions), a Ffeiliau (Files) hefyd yn effeithio ar dabiau’r cwrs yng ngwedd cwrs y Dangosfwrdd (Dashboard) ar gyfer pob defnyddiwr. Ar ben hynny, bydd analluogi’r ddolen Ffeiliau (Files) yn cuddio’r tab Ffeiliau yn y Dewisydd Cynnwys (Content Selector) yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog (Rich Content Editor) ar gyfer myfyrwyr.
Bydd addysgwyr yn parhau i allu gweld y dolenni crwydro’r cwrs canlynol hyd yn oed os ydyn nhw wedi cael eu cuddio neu eu hanalluogi: Hafan, Cyhoeddiadau, Aseiniadau, Cydweithrediadau, Cynadleddau, Trafodaethau, Ffeiliau, Graddau, Modiwlau, Deilliannau, Tudalennau, Pobl, Cwisiau, Cyfarwyddiadau Sgorio, Gosodiadau, a Maes Llafur.
Nodiadau:
- Ar gyfer dolenni dewislen crwydro nad oes modd eu hanalluogi, mae angen mynediad i’r URL i ddangos y data cysylltiedig mewn rhannau eraill o Canvas. Efallai y bydd modd cyfyngu mwy ar fynediad i dudalennau cudd drwy newid hawliau myfyrwyr penodol yn Canvas. Cysylltwch â'ch gweinyddwr Canvas am gymorth.
- Os ydych chi’n analluogi’r ddolen Crwydro’r Cwrs ar gyfer adnodd allanol, ni fydd y ddolen yn dangos yn eich rhestr Crwydro’r Cwrs mwyach.
- Os ydy’r ddolen crwydro’r cwrs ar gyfer y dudalen wedi’i hanalluogi ac wedi’i chuddio rhag myfyrwyr, ni fydd y botwm Gwedd Myfyriwr yn ymddangos.
- Cyn i chi allu rheoli lleoliad rhai dolenni apiau LTI, fel Lucid a Dadansoddiadau Newydd, rhaid i weinyddwr roi’r ap allanol LTI yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs ar gyfer y cyfrif.
Agor Gosodiadau
Yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs (Course Navigation), cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings).
Agor dewislen Crwydro
Cliciwch y tab Crwydro (Navigation).
Gweld Dolenni Crwydro'r Cwrs
Mae dolenni dewislen crwydro sy’n weladwy i bob defnyddiwr yn ymddangos ar frig y dudalen. Maen nhw’n ymddangos yn y rhestr yn y drefn maen nhw’n ymddangos yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs.
Mae dolenni crwydro sydd wedi’u cuddio rhag myfyrwyr yn ymddangos yn yr adran Llusgo eitemau yma i’w cuddio rhag y myfyrwyr (Drag items here to hide them from students) [2].
Symud Dolenni Dewislen Crwydro Gan Ddefnyddio Llusgo a Gollwng
I aildrefnu dolenni dewislen crwydro, cliciwch y ddolen dewislen crwydro rydych chi am ei symud [1]. Llusgwch a gollwng y ddolen dewislen crwydro i’r lleoliad a ddymunir.
Symud Dolenni Dewislen Crwydro gan Ddefnyddio Opsiwn Symud
Gallwch hefyd ddefnyddio'r opsiwn Symud i aildrefnu dolen dewislen crwydro o fewn ei adran bresennol (gweladwy neu gudd). Cliciwch yr eicon Opsiynau [1] a dewis y ddolen Symud (Move) [2].
Gosod Lleoliad Dolen Dewislen Crwydro
Ym mar ochr Symud Eitem dewislen Crwydro, cliciwch y gwymplen Gosod (Place) [1]. Dewiswch leoliad y ddolen dewislen crwydro rydych chi’n ei symud [2]. Gallwch symud y ddolen fel ei bod ar frig y rhestr, cyn dolen crwydro benodol, ar ôl dolen crwydro benodol, neu ar waelod y rhestr.
Nodyn: Dim ond o fewn ei hadran bresennol (cudd neu weladwy) y mae’r opsiwn Symud yn symud dolen dewislen crwydro.
Gosod Cyn neu Ar Ôl
Os ydych chi’n dewis yr opsiwn Cyn (Before) neu Ar Ôl (After), cliciwch yr ail gwymplen [1]. Dewiswch y ddolen dewislen crwydro a ddylai fod cyn neu ar ôl y ddolen rydych chi’n ei symud, gan ddilyn yr opsiwn sydd wedi’i ddewis yn y ddewislen flaenorol [2].
Os ydych chi am symud y ddolen dewislen crwydro i rywle arall, newidiwch opsiynau gosod y bar ochr yn ôl yr angen.
Symud Eitem Dewislen Crwydro
Cliciwch y botwm Symud (Move).
Cuddio Dolenni Dewislen Crwydro
I guddio dolen dewislen crwydro rhag y myfyrwyr, cliciwch eicon Opsiynau y ddolen [1] a dewis yr opsiwn Analluogi (Disable) [2]. Mae’r ddolen dewislen crwydro yn symud i’r adran Llusgo eitemau ma i’w cuddio rhag y myfyrwyr (Drag items here to hide them from students) [3].
Gallwch hefyd lusgo a gollwng y ddolen i'r adran Llusgo eitemau yma i'w cuddio rhag y myfyrwyr (Drag items here to hide them from students).
Galluogi Dolenni Dewislen Crwydro
I alluogi dolen yn yr adran gudd [1], cliciwch yr eicon Opsiynau [2] a chlicio'r botwm Galluogi (Enable) [3].
Hefyd, gallwch lusgo a gollwng y ddolen o’r adran gudd.
Cadw Dewislen Crwydro
Cliciwch y botwm Cadw (Save).
Gweld Dolenni Crwydro'r Cwrs
Gweld y Ddewislen Crwydro'r Cwrs Bydd dolenni dewislen crwydro yn ymddangos yn y drefn rydych chi wedi’i neilltuo yng Ngosodiadau’r Cwrs.
Mae unrhyw ddolen Crwydro’r Cwrs sydd wedi’i chuddio rhag myfyrwyr yn dangos yr eicon Gweladwy (Visibility) [1]. Gall fod dolen wedi’i chuddio i fyfyrwyr oherwydd nad oes cynnwys yn yr ardal nodwedd [2] neu oherwydd bod y ddolen wedi’i hanalluogi [3]. Mae dolenni sy’n cael eu hanalluogi gan addysgwr cwrs yn ymddangos ar waelod y Ddewislen Crwydro'r Cwrs uwchben y ddolen Gosodiadau [4].
Os ydych chi’n analluogi dolen Crwydro’r Cwrs i adnodd allanol, ni fydd y ddolen honno’n ymddangos yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs a bydd wedi’i chuddio rhag pob defnyddiwr y cwrs, gan gynnwys addysgwyr.