Sut ydw i'n cynhyrchu cod paru ar gyfer arsyllwr fel addysgwr?
Os ydych chi wedi derbyn yr hawliau cywir gan eich gweinyddwr, mae'n bosib y bydd modd i chi gynhyrchu cod paru y gall arsyllwr ei ddefnyddio i gysylltu â myfyriwr. Am ragor o wybodaeth am y codau paru, edrychwch ar y ddogfen adnoddau Codau Paru – Cwestiynau Cyffredin.
Mae modd i arsyllwr roi'r cod paru hwn yn y tab Arsyllu yn eu Gosodiadau Defnyddiwr. Mae modd i arsyllwyr sydd wedi'u cysylltu weld a chymryd rhan yn rhai elfennau o gyrsiau Canvas y myfyriwr.
Yn dibynnu ar hawliau, mae'n bosib y byddwch chi'n gallu cysylltu myfyriwr ac arsyllwr o'r dudalen Pobl. Bydd cysylltu o'r dudalen Pobl yn caniatáu i'r arsyllwr weld gwybodaeth o'r cwrs sy'n gysylltiedig â nhw, ac o'r cwrs hwnnw'n unig.
Nodyn: Dim ond o fersiwn gwe Canvas y mae modd cynhyrchu codau paru. Does dim modd cynhyrchu codau paru o apiau symudol Canvas.
Agor yr adnodd Pobl
Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Pobl (People).
Agor Manylion Defnyddiwr
Cliciwch eicon Opsiynau (Options) y myfyriwr [1], yna dewiswch y ddolen Manylion Defnyddiwr (User Details) [2].
Paru ag Arsyllwr
Cliciwch y ddolen Paru ag Arsyllwr (Pair with Observer).
Nodyn: Os na allwch chi weld y ddolen Paru ag Arsyllwr, dydy'r hawl i gynhyrchu codau paru heb gael ei galluogi ar gyfer eich rôl, neu dydy hunan-ymrestru ddim wedi'i alluogi ar gyfer eich cwrs.
Copïo Cod Paru
Cadarnhewch enw’r myfyriwr [1].
Copïwch y cod paru chwe digid llythrennau a rhifau [2]. Bydd angen i chi rannu'r cod hwn gyda'r arsyllwr fydd yn cysylltu â chyfrif y myfyriwr. Daw’r cod paru i ben ar ôl saith diwrnod neu ar ôl ei ddefnyddio unwaith.
I gau’r ffenestr, cliciwch y botwm Iawn (OK) [3].
Nodyn: Mae codau paru yn gwahaniaethu rhwng llythrennau bach/mawr.
Allgludo Codau Paru
Gallwch hefyd allgludo rhestr o godau paru newydd ar gyfer yr holl fyfyrwyr ar eich cwrs. Cliciwch yr eicon Opsiynau (Options) [1], yna dewiswch y ddolen Allgludo Codau Paru (Export Pairing Codes) [2]. Mae Canvas yn allgludo ffeil CSV gydag un cod paru ar gyfer pob myfyriwr ar eich cwrs.
Gweld Codau Paru
Dewch o hyd i'r ffeil CSV codau paru ar eich cyfrifiadur a'i hagor. Mae'r ffeil CSV yn dangos enw cyntaf ac olaf pob myfyriwr, ID SIS y myfyriwr, cod paru'r myfyriwr, a'r dyddiad a'r amser y bydd y cod paru'n dod i ben.