Sut ydw i’n gosod Tudalen Flaen mewn cwrs?
Tudalen Hafan y Cwrs yw’r peth cyntaf y bydd eich myfyrwyr yn ei weld pan fyddan nhw’n cyrraedd eich cwrs. Ar gyfer Tudalen Hafan y Cwrs, gallwch addasu tudalen o Dudalennau’ch cwrs a’i defnyddio fel Tudalen Hafan y Cwrs.
Os ydych chi am newid Tudalen Hafan y Cwrs am dudalen bersonol, rhaid i chi osod y dudalen fel y Dudalen Flaen i ddechrau. Mae’r Dudalen Flaen yn dangos i Canvas pa dudalen sy’n gallu cael ei defnyddio fel Tudalen Hafan y Cwrs. Defnyddiwch y dudalen hon i ddangos neges o groeso, dolenni, delweddau, neu wybodaeth arall ar gyfer myfyrwyr.
Nodiadau:
- Cyn gosod y Dudalen Flaen, rhaid i’r dudalen gael ei chyhoeddi.
- Gallwch olygu’r Dudalen Flaen, gosod tudalen wahanol fel y Dudalen Flaen, neu dynnu’r Dudalen Flaen.
- Cyn gosod Tudalen Flaen, bydd y ddolen Tudalennau (Pages) yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs yn agor ar y Mynegai Tudalennau. Ond, ar ôl i chi ddewis Tudalen Flaen, bydd y ddolen Tudalennau (Pages) wastad yn agor ar y Dudalen Flaen. I ddychwelyd at y Mynegai Tudalennau, cliciwch y botwm Gweld Pob Tudalen (View All Pages).
- Hefyd, mae modd gosod Tudalen Flaen yr adran Tudalennau i ddangos cyhoeddiadau diweddar y cwrs.
Agor Tudalennau
Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Tudalennau (Pages).
Gweld Pob Tudalen
Os yw’r dudalen flaen wedi cael ei dewis o’r blaen, bydd yn ymddangos.
I weld rhestr o holl dudalennau’r cwrs, cliciwch y botwm Gweld Pob Tudalen (View All Pages).
Gosod Tudalen Flaen yn y Rhestr Tudalennau
Dewch o hyd i’r dudalen rydych chi wedi'i chyhoeddi ac rydych am ei gosod fel eich Tudalen Flaen [1]. Cliciwch yr eicon Opsiynau [2] a dewiswch y ddolen Defnyddio fel Tudalen Flaen (Use as Front Page) [3].
Gosod Tudalen Flaen o Dudalen Unigol
Hefyd, gallwch osod tudalen fel y Dudalen Flaen o unrhyw dudalen ar eich cwrs. Cliciwch enw unrhyw dudalen sydd wedi cael ei chyhoeddi ac rydych chi am ei gosod fel eich tudalen flaen.