Sut ydw i’n allgludo graddau yn y Llyfr Graddau?
Gallwch chi allgludo sgorau o’r Llyfr Graddau a’u llwytho i lawr i’ch cyfrifiadur ar ffurf ffeil CSV. Mae colofnau aseiniad CSV y Llyfr Graddau yn dangos yn yr un drefn ag sydd i’w weld yn y Llyfr Graddau ar gyfer defnyddwyr unigol.
Nodiadau am ffeiliau CSV:
- Mae rhai colofnau sy'n ymddangos yn y ffeil CSV yn golofnau darllen-yn-unig sy’n cael eu cyfrifo gan reolau neu ganrannau sydd wedi'u pennu yn Canvas. Bydd unrhyw newidiadau a wneir i’r colofnau hyn yn cael eu hanwybyddu pan fyddwch chi'n llwytho'r ffeil i fyny eto i’ch cwrs.
- Pan mae hidlydd cyfnod graddio yn cael ei osod yn y Llyfr Graddau, mae’r ffeil wedi’i hallgludo yn dangos canlyniadau cyfnod graddio wedi’i hidlo. Ond, bydd colofnau cyfanswm grwpiau aseiniadau i’w gweld ar draws pob cyfnod graddio.
- O ran colofnau grŵp o aseiniadau, bydd newidiadau a wnaed i sgorau aseiniad yn cael eu cynnwys yn awtomatig yng nghyfrifiad y grŵp o aseiniadau yn y Llyfr Graddau.
- Mae’r golofn Cyfanswm yn y Llyfr Graddau yn dangos cyfanswm yr holl aseiniadau sydd wedi’u graddio yn y cwrs, gan gynnwys aseiniadau gyda graddau wedi’u cuddio. Mae'r ffeiliau CSV wedi’u llwytho i lawr yn cynnwys ffeiliau darllen-yn-unig ar gyfer sgorau presennol a therfynol. Mae'r sgôr bresennol yn adlewyrchu'r cyfanswm ond yn anwybyddu aseiniadau heb eu cyflwyno, ac mae'r sgôr derfynol yn cyfrif aseiniadau heb eu cyflwyno fel sero. Graddau heb eu postio yw aseiniadau wedi gyda sgorau wedi’u cuddio, ac maen nhw i’w gweld mewn colofnau ar wahân ar gyfer sgôr bresennol heb ei phostio a sgôr derfynol heb ei phostio, yn y drefn honno.
- Os yw myfyriwr wedi cyflwyno aseiniad sawl gwaith, dim ond y cyflwyniad mwyaf diweddar y bydd y ffeil CSV yn ei ystyried.
- Dydy ymrestriadau anweithredol ac ymrestriadau sydd wedi’u dirwyn i ben ddim yn cael eu cynnwys yn y ffeil CSV oni bai fod eu hopsiwn priodol, Dangos ymrestriadau sydd wedi’u dirwyn i ben neu Dangos ymrestriadau anweithredol, wedi'i alluogi yn newislen Gosodiadau’r Llyfr Graddau.
- Mae aseiniadau wedi’u cwblhau/heb eu cwblhau’n cael eu dangos fel credyd llawn neu ddim credyd (e.e. ar gyfer aseiniad 10-pwynt, 10 neu 0).
- Os oes gennych chi’n opsiwn Disodli Gradd Derfynol wedi’i alluogi ar eich cwrs, bydd trefn allgludo’r Llyfr Graddau yn cynnwys y radd ddisodli. Mae newidiadau i Ddisodli Gradd Derfynol yn ymddangos yn y dudalen cadarnhau mewngludo.
- Mae ffeiliau allgludo Llyfr Graddau yn cael eu cadw’n awtomatig yn eich ffeiliau defnyddiwr mewn ffolder Heb ei Ffeilio (Unfiled).
- Os ydych chi wedi gosod polisïau postio graddau eich hun ar gyfer aseiniadau penodol, bydd yr aseiniadau hynny yn dangos y polisi postio yn y ffeil CSV. Ond, does dim modd addasu’r polisi postio graddau drwy’r ffeil CSV.
00:00:Sut ydw i’n allgludo graddau yn y Llyfr Graddau? 00:03:Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Graddau. 00:07:Cliciwch y botwm Allgludo. 00:10:Cliciwch y ddolen Allgludo Gwedd Bresennol y Llyfr Graddau. 00:13:Os ydych chi’n defnyddio cyfnodau graddio ac am gynnwys yr holl gyfnodau graddio yn eich ffeil CSV, cliciwch y ddolen Allgludo’r Llyfr Graddau Cyfan. 00:21:Os byddwch chi’n symud i ffwrdd o’r dudalen yn ystod y broses allgludo, bydd y ffeil CSV yn ymddangos fel ffeil sydd wedi’i llwytho i lawr o’r blaen yn y ddewislen Allgludo er mwyn gallu ei llwytho i lawr eto. Mae’r Llyfr Graddau’n gadael i chi weld ffeil sydd wedi’i hallgludo’n flaenorol. Os ydych chi wedi gwneud newidiadau i'r Llyfr Graddau ar ôl allgludo ffeil ac am allgludo ffeil newydd, cliciwch ddolen Allgludo eto. 00:42:Ewch ati i olygu'r sgorau yn Microsoft Excel. Cofiwch gadw’r ffeil ar ffurf ffeil CSV. Ar ôl i chi wneud y newidiadau, gallwch ei llwytho i fyny i’ch cwrs. 00:53:Roedd y canllaw hwn yn trafod sut i allgludo graddau yn y Llyfr Graddau.
Agor Graddau
Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Graddau (Grades).
Allgludo Sgorau
Cliciwch y botwm Allgludo (Export) [1], wedyn clicio’r ddolen Allgludo Gwedd Bresennol y Llyfr Graddau (Export Current Gradebook View) [2].
Os ydych chi’n defnyddio cyfnodau graddio ac am gynnwys yr holl gyfnodau graddio yn eich ffeil CSV, cliciwch y ddolen Allgludo’r Llyfr Graddau Cyfan (Export Entire Gradebook) [3].
Ar ôl gorffen allgludo, bydd Canvas yn llwytho'r ffeil CSV i lawr yn awtomatig i'ch cyfrifiadur.
Gweld Sgorau wedi’u Hallgludo
Os byddwch chi’n symud i ffwrdd o’r dudalen yn ystod y broses allgludo, bydd y ffeil CSV yn ymddangos fel ffeil sydd wedi’i llwytho i lawr o’r blaen yn y ddewislen Allgludo er mwyn gallu ei llwytho i lawr eto. Mae’r Llyfr Graddau’n gadael i chi weld ffeil sydd wedi’i hallgludo’n flaenorol.
Os ydych chi wedi gwneud newidiadau i'r Llyfr Graddau ar ôl allgludo ffeil ac am allgludo ffeil newydd, cliciwch ddolen Allgludo eto.
Nodiadau:
- Mae ffeiliau Llyfr Graddau sydd wedi’u hallgludo yn cynnwys dyddiad ac amser y llwytho i lawr er mwyn gwahaniaethu rhwng y gwahanol brosesau allgludo. Mae enw’r ffeil allgludo yn dilyn y fformat BBBB-MM-DDTAAMM, ac wedyn enw’r cwrs.
- Mae ffeiliau allgludo Llyfr Graddau yn cael eu cadw’n awtomatig yn eich ffeiliau defnyddiwr mewn ffolder Heb ei Ffeilio (Unfiled).
Golygu’r Sgorau
Ewch ati i olygu'r sgorau yn Microsoft Excel. Cofiwch gadw’r ffeil ar ffurf ffeil CSV.
Ar ôl i chi wneud y newidiadau, gallwch ei llwytho i fyny i’ch cwrs.
Gweld Colofnau Darllen-yn-unig
Mae'r ffeiliau CSV wedi’u llwytho i lawr yn cynnwys ffeiliau darllen-yn-unig sy'n dangos y sgorau presennol a therfynol. Mae'r colofnau hyn i'w gweld ar gyfer pob grŵp aseiniad mewn cwrs ac ar gyfer graddau terfynol cwrs.
- Pwyntiau Presennol [1]: Yn adlewyrchu’r pwyntiau ar gyfer aseiniadau sydd wedi’u graddio
- Pwyntiau Terfynol [2]: Yn adlewyrchu’r pwyntiau ar gyfer pob aseiniad
- Sgôr Bresennol [3]: Yn adlewyrchu’r sgorau ar gyfer aseiniadau sydd wedi’u graddio a’’u postio.
- Sgôr Bresennol heb ei Phostio [4]: Yn adlewyrchu’r sgorau ar gyfer aseiniadau sydd wedi’u graddio ac yn cynnwys aseiniad sydd wedi’u cuddio
- Sgôr Derfynol [5]: Yn adlewyrchu'r sgôr derfynol gan gynnwys aseiniadau heb eu cyflwyno fel sero ond yn diystyru aseiniadau wedi'u cuddio
- Sgôr Derfynol heb ei Phostio [6]: Yn adlewyrchu'r sgôr gyflawn, gan gynnwys aseiniadau heb eu cyflwyno fel sero ac aseiniadau wedi'u cuddio
- Gradd Bresennol [7]: Yn adlewyrchu gradd cwrs yn seiliedig ar aseiniadau sydd wedi’u graddio a’u postio.
- Gradd Bresennol heb ei Phostio [8]: Yn adlewyrchu gradd cwrs yn seiliedig ar aseiniadau sydd wedi'u graddio, yn cynnwys aseiniadau sydd wedi’u cuddio, ond yn diystyru aseiniadau sydd heb eu cyflwyno
- Gradd Derfynol [9]: Yn adlewyrchu gradd gyflawn y cwrs gan gynnwys aseiniadau heb eu cyflwyno fel sero ond yn diystyru aseiniadau wedi'u cuddio
- Gradd Derfynol heb ei Phostio [10]: Yn adlewyrchu gradd gyflawn y cwrs, gan gynnwys aseiniadau heb eu cyflwyno fel sero ac aseiniadau wedi'u cuddio