Sut ydw i’n defnyddio’r Dudalen Mynegai Trafodaethau (Discussions Index Page)?

Mae’r dudalen Mynegai Trafodaethau (Discussion Index) yn caniatáu i chi weld pob trafodaeth mewn cwrs. Fel addysgwr, gallwch ychwanegu trafodaethau ac addasu gosodiadau trafodaethau.

Dysgu mwy am Drafodaethau.

Agor Trafodaethau

Agor Trafodaethau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Trafodaethau (Discussions).

Gweld Tudalen Mynegai Trafodaethau

Mae’r dudalen Mynegai Trafodaethau (Discussions Index) wedi’i dylunio gyda gosodiadau cyffredinol ar frig y dudalen [1], yna grwpiau’r Drafodaeth [2]. Mae trafodaethau unigol wedi’u gosod ym mhob grŵp Trafod [3].

Gweld Gosodiadau Cyffredinol Trafodaethau

Gweld Gosodiadau Cyffredinol Trafodaethau

Mae gosodiadau cyffredinol yn cynnwys cwymplen i hidlo pob trafodaeth neu rai heb eu darllen [1] a maes chwilio ar gyfer chwilio am drafodaethau yn ôl teitl neu awdur trafodaeth. [2]. Gallwch hefyd ychwanegu trafodaeth newydd [3] a golygu gosodiadau trafodaeth [4].

Gweld Grwpiau Trafod

Mae modd ehangu a chrebachu grwpiau Trafod drwy glicio'r saeth wrth yr enw.

Caiff trafodaethau eu gosod mewn tri phrif faes:

1. Trafodaethau. Mae’r rhain yn drafodaethau cyfredol yn y cwrs. Gall trafodaethau aros yn agored am gyfnod amhenodol, neu gallwch nodi ystod dyddiad (fel y nodir gan y dyddiad ar gael o/tan). Caiff trafodaethau sydd ag ymatebion iddynt eu trefnu yn ôl y gweithgarwch mwyaf diweddar. Caiff trafodaethau heb ymatebion iddynt eu trefnu yn ôl dyddiad creu. Ni fydd myfyrwyr yn gweld pennawd yr adran hon oni bai fod trafodaethau yn yr adran.  

2. Trafodaethau wedi’u Pinio. Mae’r rhain yn drafodaethau rydych chi am i’ch myfyrwyr eu gweld ar frig eu tudalen. Gellir rhoi trafodaethau wedi’u pinio mewn unrhyw drefn. Ni fydd myfyrwyr yn gweld pennawd yr adran hon oni bai fod trafodaethau yn yr adran.    

3. Wedi Cau ar gyfer Sylwadau. Mae’r trafodaethau hyn wedi cael eu cau â llaw ar gyfer sylwadau, neu mae'r drafodaeth wedi mynd heibio i’r dyddiad ar gael o/tan. Dyma'r trafodaethau sydd ond ar gael ar ffurf darllen-yn-unig. Caiff trafodaethau sydd wedi cau ar gyfer sylwadau eu trefnu hefyd yn ôl y gweithgarwch mwyaf diweddar. Bydd myfyrwyr bob amser yn gweld pennawd yr adran hon, hyd yn oed os nad oes trafodaethau yn yr adran.

Gweld Trafodaeth Unigol

Mae pob trafodaeth yn dangos a yw'r drafodaeth wedi’i graddio [1], enw’r drafodaeth [2], dyddiad y neges ymateb ddiwethaf yn y drafodaeth [3], nifer y negeseuon sydd heb eu darllen/cyfanswm y negeseuon yn y drafodaeth[4], statws y drafodaeth (wedi cyhoeddi neu heb gyhoeddi) [5], ac a ydych chi wedi tanysgrifio i’r drafodaeth [6]. Gallwch hefyd weld dyddiadau ar gael ar gyfer trafodaethau sydd wedi'u graddio a rhai sydd heb eu graddio [7].

Mae eicon heb ei ddarllen y drws nesaf i drafodaeth yn nodi trafodaeth sydd heb ei darllen [8]. Gallwch hefyd weld pa adrannau sydd wedi'u neilltuo i drafodaeth [9]. Ni fydd nifer y negeseuon sydd heb eu darllen/cyfanswm y negeseuon yn cael ei gynnwys ar gyfer trafodaethau grŵp a thrafodaethau sydd heb atebion [10]. Mae'r eicon adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr [11] hefyd yn dangos a yw trafodaeth wedi’i graddio wedi cael adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr.

Gallwch chi hefyd osod dyddiadau erbyn amrywiol ar gyfer trafodaeth a chreu dyddiadau erbyn yn unol ag adran y cwrs. Mae trafodaethau sydd â dyddiadau erbyn amrywiol yn dangos y dyddiad erbyn diweddaraf.

Sylwch:

  • Does dim rhaid cael dyddiadau erbyn ar gyfer trafodaethau.
  • Does dim modd dad-gyhoeddi trafodaethau wedi’u graddio sydd ag atebion i'r drafodaeth. Mae hyn yn cael ei nodi gan eicon cyhoeddi goleuach.

Gweld Dyddiadau Ar Gael

Mae trafodaethau hefyd yn gallu cynnwys dyddiadau ar gael. Mae dyddiadau ar gael yn gallu golygu nad yw trafodaeth ond ar gael am gyfnod penodol.

Rheoli Trafodaeth Unigol

I reoli trafodaeth unigol, cliciwch yr eicon Opsiynau (Options) [1].

O’r gwymplen opsiynau gallwch chi gau’r drafodaeth i sylwadau [2], pinio neu ddadbinio’r drafodaeth [3], agor SpeedGrader [4], dyblygu’r drafodaeth [5], anfon y drafodaeth at addysgwr arall [6], copïo’r drafodaeth i gwrs arall [7], ychwanegu’r drafodaeth at Lwybr Meistroli [8], neu ddileu’r drafodaeth [9].

Nodyn: Dydy’r opsiwn Llwybrau Meistroli ddim ond ar gael os ydy’r opsiwn nodwedd Llwybrau Meistroli wedi’i alluogi ar eich cwrs.

Gweld Trafodaeth

I weld manylion trafodaeth ac ymatebion,, cliciwch enw'r drafodaeth.

Gweld MasteryPaths

Os ydych chi’n defnyddio MasteryPaths ar eich cwrs, gallwch weld pa eitemau sydd wedi cael eu gosod yn yr adran Modiwlau fel MasteryPaths neu fel eitemau cynnwys amodol.

Gweld Cwrs Glasbrint

Os yw eich cwrs yn cynnwys eiconau Glasbrint (Blueprint), yna mae eich cwrs yn gysylltiedig â chwrs glasbrint. Mae cyrsiau Glasbrint yn gyrsiau sy’n cael eu rheoli fel templed a gallant gynnwys gwrthrychau wedi’u cloi ac wedi’u rheoli gan weinyddwr, dylunydd cyrsiau, neu addysgwr arall yn Canvas.

Bydd y tab Manylion Cwrs yng Ngosodiadau’r Cwrs yn rhoi gwybod i chi os yw eich cwrs yn gwrs glasbrint. Fel arfer, ni fydd eich cwrs yn gwrs glasbrint a dim ond cynnwys wedi’i ddatgloi fyddwch chi’n gallu ei reoli yn eich cwrs. Os yw eich cwrs yn gwrs glasbrint, gallwch gloi a chysoni cynnwys cwrs â chyrsiau cysylltiedig.

Gweld y Wedd Myfyrwyr

I weld y dudalen mynegai trafodaethau fel myfyriwr, cliciwch y botwm Gweld fel Myfyriwr (View as Student).

Nodyn: Os ydy’r ddolen crwydro’r cwrs ar gyfer y dudalen wedi’i hanalluogi ac wedi’i chuddio rhag myfyrwyr, ni fydd y botwm Gweld fel Myfyriwr yn ymddangos.