Sut ydw i'n ychwanegu grŵp aseiniadau mewn cwrs?
Mae defnyddio Grwpiau Aseiniadau yn gadael i chi drefnu’r aseiniadau yn eich cwrs.
Pan fydd Grwpiau Aseiniadau’n cael eu gosod gallwch chibwyso gradd derfynol y cwrs yn seiliedig ar grwpiau aseiniadau, a hidlo yn ôl grwpiau aseiniadau yn y Llyfr Graddau.
Agor Aseiniadau
![Agor Aseiniadau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/002/742/758/original/c70e594d-bf07-4759-a5e7-3af7cfaf99d2.png)
Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Aseiniadau (Assignments).
Ychwanegu Grŵp Aseiniadau
![Ychwanegu Grŵp Aseiniadau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/001/251/830/original/5b7187bc-ef4d-485b-ba5e-1bb605f0ad0b.png)
Cliciwch y botwm Ychwanegu Grŵp (Add Group).
Creu Grŵp Aseiniadau
![Creu Grŵp Aseiniadau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/751/310/original/9c44fe1b-911d-4583-9351-dde30a1741c8.png)
Teipiwch Enw’r Grŵp Aseiniadau yn y maes Enw’r Grŵp (Group Name) [1] Os ydych chi am bwysoli’r radd derfynol ar gyfer myfyrwyr sy’n defnyddio grwpiau aseiniadau, bydd y ganran yn ymddangos yn y maes % o’r radd gyflawn (% of total grade) [2].
Nodyn: Rhaid i chi greu grwpiau aseiniadau cyn y gallwch chi neilltuo canrannau i bob grŵp.
Cadw Grŵp Aseiniadau
![Cadw Grŵp Aseiniadau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/751/297/original/25c15385-86eb-4675-ac3e-4fc6aa99f865.png)
Cliciwch y botwm Cadw (Save).
Gweld Grŵp Aseiniadau
![Gweld Grŵp Aseiniadau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/003/173/733/original/708620ea-54bf-46e6-b5ee-d2b214e2dfb0.png)
Gweld eich Grŵp Aseiniadau
Gallwch ddysgu sut i greu cregyn aseiniadau ac aseiniadau ar gyfer eich Grŵp Aseiniadau.
Rheoli Grŵp Aseiniadau
![Rheoli Grŵp Aseiniadau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/003/173/731/original/6d9a1ccb-45ac-40aa-943e-ee0b550035fc.png)
I reoli grŵp aseiniadau, cliciwch gwymplen Opsiynau (Options) y grŵp [1].
I olygu’r Grŵp Aseiniadau, cliciwch y ddolen Golygu (Edit) [2]. Gallwch olygu enw’r Grŵp Aseiniadau a’r ganran wedi’i phwysoli (os yw’n berthnasol). Ar ôl i chi ychwanegu aseiniadau at eich Grŵp Aseiniadau, gallwch hefyd olygu’r Grŵp Aseiniadau er mwyn gosod rheolau Grŵp Aseiniadau.
I ddileu’r Grŵp Aseiniadau, cliciwch y ddolen Dileu (Delete) [3].
I symud yr holl gynnwys o un grŵp aseiniadau i grŵp arall, cliciwch y ddolen Symud Cynnwys (Move Contents) [4].
I symud neu aildrefnu grŵp aseiniadau ar y dudalen Aseiniadau, cliciwch y ddolen Symud Grwpiau (Move Groups) [5].
Dileu Grŵp
![Dileu Grŵp](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/751/304/original/2ef9b253-e749-496e-bf60-520c5b2cf43c.png)
Os ydych chi am ddileu grŵp aseiniadau sy’n cynnwys aseiniadau, bydd Canvas yn gofyn a ydych chi eisiau Dileu’r aseiniadau (diofyn) [1] neu symud yr aseiniadau i grŵp arall [2]. Ar ôl i chi orffen, cliciwch y botwm Dileu Grŵp (Delete Group) [3].