Sut ydw i’n gosod gradd ddiofyn i aseiniad yn y Llyfr Graddau?
Os ydych chi eisiau gosod gradd ddiofyn ar gyfer aseiniad penodol, defnyddiwch gwymplen yr aseiniad. Mae modd godo graddau diofyn i bob myfyriwr neu dim ond i fyfyrwyd swydd heb gael gradd eto.
Sylwch:
- Pan mae Mwy nag un Cyfnod Graddio ar waith mewn cwrs, does dim modd i chi osod gradd ddiofyn ar gyfer unrhyw aseiniad sydd ag o leiaf un myfyriwr mewn cyfnod graddio sydd wedi dod i ben.
- Pan mae Graddau wedi’u Safoni wedi’u galluogi ar gyfer aseiniad, nid yw’r opsiwn Gosod Gradd Ddiofyn ar gael cyn i raddau gael eu rhyddhau.
- Nid yw statws cyflwyno wedi’u ffactora i mewn i roi graddau diofyn.
Agor Graddau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Graddau (Grades).
Agor y Ddewislen Aseiniadau

Hofrwch dros bennawd y golofn aseiniad a chlicio’r eicon Opsiynau.
Gosod Gradd Ddiofyn

Cliciwch y ddolen Gosod Gradd Ddiofyn (Set Default Grade).
Creu Graddau Diofyn

Teipiwch y gwerth gradd diofyn yn y maes Gwerth Gradd (Grade Value) [1]. Os hoffech chi ddisodli graddau sydd eisoes yn bodoli ar gyfer yr aseiniad, dewiswch y blwch ticio Disodli graddau sydd wedi’u rhoi’n barod (Overwrite already-entered grades) [2].
Cliciwch y botwm Gosod Gradd Ddiofyn (Set Default Grade) [3].
Sylwch:
- Os ydy’r maes Gwerth Gradd yn cael ei adael yn wag a bod y blwch ticio Disodli graddau sydd wedi’u rhoi’n barod wedi’i dicio, bydd pob gradd aseiniad yn cael eu tynnu.
- Bydd gradd ddiofyn yn cael ei neilltuo i fyfyrwyr beth bynnag fo’u statws cyflwyno.
- I osod gradd ddiofyn pob aseiniad i ‘ar goll’, rhowch ‘ar goll’ yn y maes gwerth gradd.
Gwirio Graddau Diofyn

Cliciwch y botwm Iawn (OK).
Gweld Graddau Newydd

Mae graddau diofyn yn cael eu cofnodi'n awtomatig ar gyfer yr holl fyfyrwyr nad oes ganddynt radd ac sydd erioed wedi cael gradd. Fodd bynnag, os oedd gan y myfyriwr radd a'i bod wedi'i dileu, ni chaiff y radd ddiofyn ei chymhwyso, oni bai eich bod wedi dewis y blwch gwirio Diystyru (Overwrite).
I newid gradd, cliciwch ar y radd ddiofyn a theipio sgôr wedi’i ddiweddaru.