Sut ydw i’n ychwanegu delwedd at gerdyn cwrs yn y Dangosfwrdd?
Os yw eich sefydliad yn ei ganiatáu, gallwch chi lwytho delwedd i fyny i ymddangos y tu ôl i gerdyn y cwrs yn Nangosfwrdd Canvas. Mae’r delweddau derbynion yn cynnwys ffeiliau JPG, JPEG, GIF, a PNG.
Pan fyddant yn cael eu hychwanegu at gwrs, bydd y delweddau’n ymddangos tu ôl i orchudd lliw yng ngherdyn y cwrs. Mae’r gorchudd lliw yn osodiad defnyddiwr sy’n cael ei ddiffinio’n unigol gan bob defnyddiwr yn y Dangosfwrdd. Er bod modd i'r defnyddiwr dynnu’r gorchudd lliw yn gyfan gwbl, yn arfer gorau yw defnyddio delwedd sydd i’w gweld yn dda tu ôl i amrywiaeth o liwiau.
Nodyn: Mae delweddau cerdyn cwrs yn cael eu categoreiddio fel delweddau addurniadol ar gyfer darllenwyr sgrin.
Agor Gosodiadau Cwrs
Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings).
Agor Manylion y Cwrs
Cliciwch y tab Manylion y Cwrs (Course Details).
Dewis Delwedd
Cliciwch y botwm Dewis Delwedd (Choose Image).
Llwytho Ffeil i Fyny
I lwytho eich delwedd eich hun i fyny, llusgwch a gollwng eich delwedd i’r adran Llwytho Delwedd i Fyny (Upload Image). Neu, i bori eich cyfrifiadur a dod o hyn i ddelwedd, cliciwch yr adran Llwytho Delwedd i Fyny (Upload Image).
Bydd delweddau’n cael eu llwytho i fyny’n awtomatig, ond mae’n bosib y bydd delweddau mwy yn cymryd ychydig o eiliadau i’w prosesu. Bydd y ddelwedd yn cael ei chanol a bydd ei maint yn cael ei newid i ffitio cerdyn y cwrs.
Gweld Delwedd
Gweld y ddelwedd fel y bydd yn cael ei dangos yng ngherdyn y cwrs yn y Dangosfwrdd.
Rheoli Delwedd
I reoli’r ddelwedd, cliciwch yr eicon Opsiynau [1]. I newid y ddelwedd a dewis un newydd, cliciwch yr opsiwn Newid delwedd (Change image) [2]. I ddileu'r ddelwedd yn gyfan gwbl, cliciwch yr opsiwn Dileu delwedd (Remove image) [3].
Diweddaru Manylion Cwrs
Cliciwch y botwm Diweddaru Manylion Cwrs (Update Course Details).