Sut ydw i'n ychwanegu modiwl?
Mae modiwlau’n cael eu defnyddio i drefnu cynnwys cwrs yn ôl wythnosau, unedau neu pa bynnag strwythur trefnu sy’n gweithio ar gyfer eich cwrs. Gyda modiwlau, rydych chi i bob pwrpas yn creu llif un cyfeiriad o’r hyn rydych chi am i’ch myfyrwyr ei wneud. Ar ôl i chi greu modiwlau, gallwch ychwanegu eitemau cynnwys, rhoi’r modiwl, neu ychwanegu gofynion.
Nodyn: Os yw Tudalen Hafan y Cwrs wedi’i gosod i fodiwlau, gellir ychwanegu a rheoli modiwlau o Dudalen Hafan y Cwrs.
Agor Modiwlau
Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Modiwlau (Modules).
Ychwanegu Modiwl
Cliciwch y botwm Ychwanegu Modiwl (Add Module).
Ychwanegu Enw Modiwl
Teipiwch enw yn y maes Enw Modiwl (Module Name).
Cloi Dyddiad Modiwl
Os ydych chi am gyfyngu ar y modiwl tan ddyddiad penodol, gallwch gloi’r modiwl.
Ychwanegu Rhagofynion Modiwl
Os ydych chi wedi ychwanegu o leiaf un modiwl at eich cwrs, yna gallwch ofyn am fodiwl rhagofynnol. Mae modiwl rhagofynnol yn golygu bod yn rhaid i fyfyrwyr gwblhau’r modiwlau ychwanegol cyn y cawn nhw weld y modiwl newydd.
Ychwanegu Modiwl
Cliciwch y botwm Ychwanegu Modiwl (Add Module).
Gweld Modiwl
Gweld y modiwl rydych chi wedi’i greu.
I ychwanegu eitemau at eich modiwl, cliciwch yr eicon Ychwanegu (Add) [1] neu lusgo a gollwng i ychwanegu ffeiliau at fodiwl gwag [2].
Gallwch chi hefyd olygu’r modiwl, ei roi, ei symud, ei ddyblygu, ei ddileu, ei anfon i addysgwr arall, neu ei gopïo i gwrs arall.