Sut ydw i’n creu hyperddolenni i ffeiliau defnyddwyr, grŵp a chwrs yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog fel addysgwr?
Gallwch chi ddefnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog i fewnosod hyperddolenni i ffeiliau cyfryngau, delweddau a dogfennau sydd wedi’u storio yn eich cwrs, grŵp, neu ffeiliau defnyddiwr. Os ydych chi’n defnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog mewn cwrs, gallwch chi gael gafael ar ffeiliau yn y ffolderi Ffeiliau’r Cwrs a Ffeiliau’r Defnyddiwr. Os ydych chi’n defnyddio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog mewn grŵp, gallwch chi gael gafael ar ffeiliau yn y ffolderi Ffeiliau’r Grŵp a Ffeiliau’r Defnyddiwr.
Nodiadau:
- Os byddwch chi’n gosod ffeil fel ddim i'w weld gan fyfyrwyr yn Ffeiliau’r Cwrs ac yn cysylltu â’r ffeil honno yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog, bydd myfyrwyr yn gallu gweld y ffeil honno gan ddefnyddio’r ddolen yn Golygydd Cynnwys Cyfoethog.
- I greu hyperddolenni i ffeiliau grŵp, rhaid i chi agor y Golygydd Cynnwys Cyfoethog mewn grŵp.
Agor Golygydd Cynnwys Cyfoethog
Agorwch y Golygydd Cynnwys Cyfoethog wrth greu neu olygu cyhoeddiad, aseiniad, trafodaeth, tudalen, cwis, neu faes llafur.
Nodwch: Mae’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog yn cefnogi bysellau hwylus. I weld y ddewislen Bysellau Hwylus, cliciwch yr eicon Bysellfwrdd neu bwyso ALT+F8 (Bysellfwrdd PC) neu Option+F8 (Bysellfwrdd Mac).
Dewis Lleoliad Dolen
I fewnosod dolen sy’n dangos enw’r ffeil (ee Aseiniad-Darllen.pdf), cliciwch i osod eich cyrchwr yn y fan yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog lle rydych chi eisiau i’r ddolen ymddangos [1].
I fewnosod dolen i ffeil ar bwynt penodol yn y testun, dewiswch y testun ar gyfer eich hyperddolen [2].
Agor y Ddewislen Ddolenni
I weld yr holl ddolenni a’r ffeiliau sydd ar gael yn ffeiliau’r defnyddiwr a’r cwrs, cliciwch y saeth Opsiynau Dolenni [1] a dewiswch yr opsiwn Dolenni Cyrsiau (Course Links) [2].
Os ydych chi’n cael mynediad at y Golygydd Cynnwys Cyfoethog o gwrs, dewiswch yr opsiwn Dolenni Grwpiau (Group Links) [3].
Nodwch: I weld yr eicon Dolenni, efallai y bydd angen i chi glicio’r eicon Opsiynau (Options) [4].
Gweld y Bar Ochr Ychwanegu
Yn ddiofyn, mae’r bar ochr Ychwanegu’n dangos dolenni cyrsiau. I weld pob cwrs, grŵp, neu ffeiliau defnyddwyr sydd ar gael, cliciwch y gwymplen Ychwanegu (Add) [1] a dewiswch yr opsiwn Ffeiliau (Files) [2].
Gweld Ffeiliau
I weld ffeiliau cwrs, cliciwch y ddolen Ffeiliau Cwrs (Course Files) [1].
I weld eich ffeiliau defnyddiwr, cliciwch y ddolen Fy Ffeiliau (My Files) [2].
Os ydych chi’n defnyddio’r Golygydd cynnwys Cyfoethog mewn grŵp, gallwch chi ddewis ffeil grŵp drwy glicio’r ddolen Ffeiliau Grŵp (Group Files) [3].
Trefnu Ffeiliau
I drefnu’r ffeiliau sydd i’w gweld yn ôl math o ddelwedd, dogfen neu gyfryngau, cliciwch y gwymplen Pob Un (All) [1] a dewiswch y math o ffeil i drefnu ffeiliau [2].
I drefnu’r ffeiliau sydd i’w gweld yn ôl dyddiad ychwanegu neu yn nhrefn yr wyddor, cliciwch y gwymplen Dyddiad Ychwanegu (Date Added) [1].
I chwilio am ffeil, rhowch enw’r ffeil yn y maes Chwilio (Search) [2]. Rhaid i chi roi o leiaf tri nod er mwyn i ganlyniadau chwilio ymddangos.
Dewis Ffeil
Cliciwch enw’r ffeil rydych chi eisiau ei chysylltu â’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog.
Nodwch: Bydd y testun yn fflachio cyn troi’n hyperddolen.
Gweld Dolen
Gweld y ddolen sy’n dangos enw’r ffeil [1] neu’r testun hyperddolen [2].
Cadw Newidiadau
Cliciwch y botwm Cadw (Save).
Nodiadau:
- Mae’r tudalennau manylion cwisiau, tudalennau, trafodaethau, ac aseiniadau yn cynnwys botwm Cadw a Chyhoeddi (Save & Publish).
- Mae’r dudalen maes llafur yn cynnwys botwm Diweddaru Maes Llafur (Update Syllabus).
- Mae ymatebion i drafodaethau yn cynnwys botwm Postio Ymateb (Post Reply).
Gweld Cynnwys
Gweld y cynnwys I weld y ffeil sydd wedi’i chysylltu, cliciwch y ddolen [1].
I lwytho’r ffeil i lawr, cliciwch yr eicon Llwytho i Lawr [2].
Nodwch: Mae dolenni i URL allanol yn dangos eicon Agored [3].