Sut ydw i’n ychwanegu cyhoeddiad mewn cwrs?

Gallwch greu cyhoeddiad i rannu gwybodaeth bwysig â’r holl ddefnyddwyr ar eich cwrs, a gyda defnyddwyr mewn rhannau o gwrs. Yn eich dewisiadau hysbysiadau, gallwch ddewis derbyn hysbysiadau am gyhoeddiadau wedi’u creu gennych chi, yn ogystal ag ymatebion i'r cyhoeddiadau rydych chi wedi'u creu.

Nodiadau:

  • Rhaid i’ch cwrs fod wedi cael ei gyhoeddi er mwyn i fyfyrwyr gael hysbysiadau am gyhoeddiadau. Os byddwch chi’n mewngludo cyhoeddiad o gwrs Canvas arall, ni fydd hysbysiadau cyhoeddiad newydd yn cael eu hanfon at ddefnyddwyr y cwrs.
  • Os bydd cyhoeddiad yn cael ei greu cyn dyddiad dechrau’r cwrs a bod y gosodiad Dim ond rhwng y dyddiadau hyn y bydd modd i fyfyrwyr gymryd rhan yn y cwrs wedi’i alluogi, ni fydd myfyrwyr yn derbyn hysbysiadau cyhoeddiadau.
  • Nid yw hysbysiadau’n cael eu hanfon ar gyfer cyhoeddiadau sydd wedi’u creu cyn i’r cwrs gael ei gyhoeddi.
  • Dydy defnyddwyr yr ap sy’n fyfyrwyr ddim yn gallu gweld cyhoeddiadau ar y dudalen hafan. Ond, maen nhw’n gallu gweld cyhoeddiadau yn adran crwydro Cyhoeddiadau’r cwrs.

00:07: Sut ydw i’n ychwanegu cyhoeddiad mewn cwrs? 00:10: Yn y ddewislen crwydro’r cwrs, cliciwch y ddolen cyhoeddiadau 00:14: Cliciwch y botwm ychwanegu cyhoeddiad. 00:17: Teipiwch deitl ar gyfer y cyhoeddiad yn y maes teitl 00:21: Ychwanegwch gynnwys yn y golygydd cynnwys cyfoethog. 00:24: I ychwanegu atodiad i'ch cyhoeddiad, cliciwch y ddolen atodi yna 00:28: dewiswch ffeil. 00:30: Gweld enw’r ffeil a atodwyd. Gallwch chi ddileu neu 00:34: lwytho’r atodiad i lawr i lwytho’r ffeil wedi’i hatodi i lawr. 00:36: Cliciwch enw’r ffeil gysylltiedig i ddileu’r atodiad hofrwch 00:41: y cyrchwr dros y ddolen a chliciwch yr eicon dileu. 00:48: Yn y gwymplen hawliau defnydddio dewiswch un o bum hawl defnyddio. 00:53: Os ydych chi’n addysgwr ac nad ydych chi’n siŵr pa hawliau defnyddio sy’n berthnasol i’ch ffeil, 00:57: gofynnwch i weinyddwyr eich sefydliad am gyngor. 01:01: Fi sydd biau’r hawlfraint cynnwys gwreiddiol sydd wedi’i greu gennych chi. 01:05: Rydw i wedi cael caniatâd i ddefnyddio’r ffeil caniatâd awdurdodedig gan yr awdur. 01:11: Mae’r deunydd yn y parth cyhoeddus wedi’i neilltuo’n benodol i’r parth cyhoeddus 01:15: nid oes modd ei roi o dan hawlfraint, neu nid yw wedi’i ddiogelu gan hawlfraint mwyach. 01:21: Mae eithriad yn berthnasol i’r deunydd EE defnydd teg yr 01:25: hawl i ddyfynnu neu hawliau eraill o dan y cyfreithiau hawlfraint perthnasol dyfyniad 01:29: neu grynodeb yn cael eu defnyddio ar gyfer sylwadau adrodd y newyddion, ymchwil neu 01:33: ddadansoddiad mewn addysg 01:36: Mae’r deunydd wedi’i drwyddedu o dan Creative Commons. 01:39: Mae angen gosod trwydded Creative Commons benodol ar gyfer yr opsiwn hwn. 01:44: Os yw’n hysbys, rhowch wybodaeth perchennog yr hawlfraint yn y maes perchennog yr hawlfraint. 01:50: I gadw eich gosodiadau hawliau defnyddio, cliciwch y botwm cadw gallwch chi olygu 01:54: gosodiadau hawliau defnyddio drwy glicio’r eicon gosod hawliau defnyddio. 01:58: Bydd canvas yn anfon eich cyhoeddiad at bob adran yn eich cwrs yn ddiofyn. 02:02: I ddewis adrannau penodol ar gyfer eich cyhoeddiad cliciwch y gwymplen postio i 02:06: a dewis adrannau o'r rhestr. 02:11: Yn yr adran opsiynau, gallwch ddewis opsiynau amrywiol ar gyfer eich cyhoeddiad. 02:16: I adael i ddefnyddwyr eraill ymateb i’r cyhoeddiad, cliciwch y blwch ticio 02:20: gadael i ddefnyddwyr wneud sylwadau. 02:23: I beidio â chaniatau ymatebion mewn edeifion i gyhoeddiad cliciwch y blwch ticio 02:27: peidio â chaniatau ymatebion mewn edeifion 02:30: I ofyn i fyfyrwyr ymateb i bost cyn gallu gweld atebion eraill cliciwch y blwch ticio 02:34: rhaid i gyfranogwyr ymateb i’r pwnc cyn gweld ymatebion eraill. 02:40: I alluogi ffrwd podlediad cyhoeddiad cliciwch y blwch ticio 02:44: galluogi ffrwd podlediad. 02:46: I ganiatáu i ddefnyddwyr hoffi ymatebion cyhoeddiad 02:48: Cliciwch y blwch ticio caniatáu hoffi. 02:52: Bydd y cyhoeddiad yn ymddangos yn ddiofyn yn syth ar ôl i chi ei gyhoeddi ac 02:56: mae’n ymddangos drwy gydol y cwrs oni bai eich bod chi yn ei ddileu. 03:00: Fodd bynnag, gallwch chi osod dyddiadau arddangos ar gyfer y cyhoeddiad i nodi pryd y dylai’r cyhoeddiad gael ei arddangos, gosodwch ddyddiad ac amser yn y maes ar gael o. 03:09: I nodi pryd y dylai’r cyhoeddiad beidio â chael ei arddangos, gosodwch ddyddiad ac amser 03:13: yn y maes tan. Gallwch chi oedi cyn postio’ch cyhoeddiad drwy drefnu i wneud y cyhoeddiad ar ddyddiad yn y dyfodol. 03:21: Cliciwch y botwm cyhoeddi. 03:24: Gallwch weld y cyhoeddiad ar dudalen mynegai’r cyhoeddiadau. 03:27: Roedd y canllaw hwn yn trafod sut i ychwanegu cyhoeddiad mewn cwrs.

Agor Cyhoeddiadau

Agor Cyhoeddiadau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Cyhoeddiadau (Announcements).

Ychwanegu Cyhoeddiad

Cliciwch y botwm Ychwanegu Cyhoeddiad (Add Announcement).

Creu Cyhoeddiad

Teipiwch deitl ar gyfer y cyhoeddiad ym maes pwnc y teitl [1] ac ychwanegu cynnwys yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog [2]. Gallwch hefyd atodi ffeil [3].

Ychwanegu Atodiad

Ychwanegu Atodiad

I ychwanegu atodiad i'ch cyhoeddiad, cliciwch y ddolen Atodi (Attach) [1], yna dewiswch ffeil.

Gweld Atodiad

Gweld Atodiad

Gweld enw’r ffeil a atodwyd.

Gallwch lwytho’r atodiad i lawr neu ei ddileu. I lwytho’r ffeil a atodwyd i lawr, cliciwch ddolen enw’r ffeil (file name) [1]. I ddileu’r atodiad, hofrwch y cyrchwr dros y ddolen a chliciwch yr eicon Dileu (Delete) [2].

Gosod Hawliau Defnyddio

Gosod Hawliau Defnyddio

Os yw’n ofynnol yn eich sefydliad, bydd angen i chi ddewis gosodiadau hawliau defnyddio ar gyfer eich atodiad. I olygu gosodiadau hawliau defnyddio, cliciwch yr eicon Gosod hawliau defnyddio (Set usage rights) [1].

Yn y gwymplen Hawliau Defnydddio (Usage Right) [2], dewiswch un o bum hawl defnyddio. Os ydych chi’n addysgwr ac nad ydych chi’n siŵr pa hawliau defnyddio sy’n berthnasol i’ch ffeil, gofynnwch i weinyddwyr eich sefydliad am gyngor:

  • Fi sydd biau’r hawlfraint (cynnwys gwreiddiol sydd wedi’i greu gennych chi)
  • Rydw i wedi cael caniatâd i ddefnyddio’r ffeil (caniatâd awdurdodedig gan yr awdur)
  • Mae’r deunydd yn y parth cyhoeddus (wedi’i neilltuo’n benodol i’r parth cyhoeddus, nid oes modd ei ro o dan hawlfraint, neu nid yw wedi’i ddiogelu gan hawlfraint mwyach)
  • Mae’r eithriad yn berthnasol i'r deunydd - ee defnydd teg, yr hawl i ddyfynnu, neu hawliau eraill o dan y cyfreithiau hawlfraint perthnasol (dyfyniad neu grynodeb yn cael eu defnyddio ar gyfer sylwadau, adrodd y newyddion, ymchwil, neu ddadansoddiad mewn addysg)
  • Mae’r deunydd wedi'i drwyddedu o dan Creative Commons; mae’r opsiwn hwn yn golygu gosod trwydded Creative Commons benodol

Os yw’n hysbys, rhowch wybodaeth perchennog yr hawlfraint yn y maes Perchennog yr Hawlfraint (Copyright Holder) [3].

I gadw eich gosodiadau hawliau defnyddio, cliciwch y botwm Cadw (Save) [4]. Gallwch chi olygu gosodiadau hawliau defnyddio drwy glicio’r eicon Gosod hawliau defnyddio.

Dewis Adrannau

Dewis Adrannau

Bydd Canvas yn anfon eich cyhoeddiad at bob adran yn eich cwrs yn ddiofyn. I ddewis adrannau penodol ar gyfer eich cyhoeddiad, cliciwch y gwymplen Postio i (Post to) a dewis adrannau o'r rhestr.  

Nodiadau:

  • Os nad oes gan eich cwrs adrannau, bydd Canvas yn dal i ddangos yr opsiwn Pob Adran, a bydd holl ddefnyddwyr y cwrs yn gallu gweld y cyhoeddiad.
  • Mae athrawon a chynorthwywyr dysgu yn cael gwybod am bob Cyhoeddiad cwrs newydd, oni bai eu bod nhw wedi’u cyfyngu o ran Adrannau.

Dewis Opsiynau

Dewis Opsiynau Cyhoeddiad

Yn yr adran Opsiynau (Options), gallwch ddewis opsiynau amrywiol ar gyfer eich cyhoeddiad.

I adael i ddefnyddwyr eraill ymateb i’r cyhoeddiad, cliciwch y blwch ticio Gadael i Ddefnyddwyr Wneud Sylwadau [1].

I orfodi myfyrwyr i ymateb i neges cyn gweld yr ymatebion eraill, cliciwch y blwch ticio Rhaid i gyfranogwyr ymateb i’r testun cyn gweld yr ymatebion eraill (Participants must respond to the topic before viewing other replies) [2].

I alluogi ffrwd podlediad cyhoeddiad, cliciwch y blwch ticio Galluogi ffrwd podlediad (Enable podcast feed) [3].

I adael i fyfyrwyr hoffi ymatebion i gyhoeddiad, cliciwch y blwch ticio Caniatáu Hoffi (Allow liking) [4].

Sylwch:

  • Yn ddiofyn, dydy sylwadau ddim yn cael eu caniatáu mewn cyhoeddiadau oni bai fod tic yn y blwch Gadael i Ddefnyddwyr Wneud Sylw (Allow Participants to Comment).
  • Mae'r opsiwn Gadael i Ddefnyddwyr Wneud Sylwadau yn barhaus, sy’n golygu bod yr opsiwn y byddwch chi’n ei ddewis wrth greu neu olygu cyhoeddiad yn cael ei ddefnyddio bob amser wrth i chi greu cyhoeddiad newydd yn y cwrs. Serch hynny, dydy’r opsiwn Rhaid i gyfranogwyr ymateb i’r pwnc cyn gweld atebion eraill ddim yn barhaus.
  • Efallai na fydd opsiynau sylwadau ar gael i chi os yw sylwadau cyhoeddiad wedi’u hanalluogi yn eich cwrs. Edrychwch ar Osodiadau eich Cwrs os na allwch chi weld y blychau ticio hyn.

Gosod Dyddiadau Arddangos

Bydd y cyhoeddiad yn ymddangos yn ddiofyn yn syth ar ôl i chi ei gyhoeddi, ac mae’n ymddangos drwy gydol y cwrs oni bai eich bod chi yn ei ddileu. Fodd bynnag, gallwch chi osod dyddiadau arddangos ar gyfer y cyhoeddiad. I nodi pryd y dylai’r cyhoeddiad gael ei arddangos, gosodwch ddyddiad ac amser yn y maes Ar gael o (Available from) [1]. I nodi pryd y dylai’r cyhoeddiad beidio â chael ei arddangos, gosodwch ddyddiad ac amser yn y maes Tan (Until) [2].

Gallwch oedi cyn postio’ch cyhoeddiad, trefnu i wneud y cyhoeddiad ar ddyddiad yn y dyfodol.

Cyhoeddi Cyhoeddiad

Cyhoeddi Cyhoeddiad

Cliciwch y botwm Cyhoeddi (Publish).

Nodyn: Ond bai nad yw’r cyhoeddiad ar gael eto, unwaith y byddwch chi’n clicio ar y botwm Cyhoeddi (Publish), mae eich cyhoeddiad yn cael ei bosio ar unwaith yn eich cwrs.

Gweld Cyhoeddiad

Gweld Cyhoeddiad

Gallwch weld y cyhoeddiad ar Dudalen Mynegai’r Cyhoeddiadau.