Sut ydw i'n ychwanegu gofynion at fodiwl?

Pan fyddwch chi’n ychwanegu gofynion at fodiwl, bydd yn rhaid i fyfyrwyr gwblhau’r gofynion sydd wedi’u diffinio o fewn y modiwl cyn y gellir marcio fod modiwl wedi’i gwblhau. Gallwch chi ofyn i fyfyrwyr gwblhau holl ofynion y modiwl, neu ofyn iddyn nhw ddewis un eitem i gwblhau gofyniad penodol.

Nodwch na allwch chi ychwanegu gofynion nes eich bod chi wedi ychwanegu eitemau modiwl: gallwch chi ychwanegu eitemau cynnwys fel mathau o aseiniadau, tudalennau, a ffeiliau; penawdau testun; adnoddau allanol; ac URLs allanol.

Gallwch chi ddewis gadael i fyfyrwyr gwblhau gofynion mewn unrhyw drefn, neu gallwch chi ofyn iddyn nhw symud trwy’r modiwl mewn trefn. Mae gofyniad i symud trwy eitemau modiwl mewn trefn yn ymwneud â’r drefn y mae eitemau wedi’u rhestru ar y dudalen Modiwlau, nid y drefn sydd yng Ngosodiadau’r Modiwl. Os oes gennych chi fwy nag un fersiwn o eitemau modiwl, gallwch chi osod gofynion gwahanol ar gyfer pob eitem.

Mae gofynion modiwl yn cael eu dangos yn y drefn y maen nhw’n bodoli fel eitemau modiwl. Mae’n bosib y bydd angen i chi aildrefnu eitemau modiwl fol bod y gofynion wedi’u gosod yn gywir.

Gallwch chi osod modiwlau rhagofynnol a gofyn i fyfyrwyr gwblhau pob modiwl mewn trefn.

Sylwch:

  • Os byddwch chi’n dewis gosod y math o ofyniad fel cwblhau un opsiwn yn unig, a’ch bod chi eisiau ei ddefnyddio gydag eitemau wedi’u graddio, nodwch fod pob aseiniad gyda’u graddau presennol yn cael eu nodi yn y Llyfr Graddau. Er enghraifft, os ydych chi eisiau i fodiwl ofyn bod myfyriwr yn cyflwyno un o dri aseiniad, bydd y ddau aseiniad fydd ddim yn cael eu cyflwyno yn dal i gael eu hystyried yn y Llyfr Graddau fel rhai heb eu cyflwyno. Gallwch chi ddewis ffurfweddu’r aseiniadau heb eu cyflwyno eich hun mewn modd priodol, naill ai trwy ddefnyddio'r nodwedd aseiniadau wedi’u gwahaniaethu neu trwy esgusodi'r aseiniadau yn y Llyfr Graddau.
  • Wrth ddefnyddio gofynion mewn modiwl nid yw’r polisi gwaith hwyr yn effeithio ar allu myfyrwyr i symud ymlaen yn y modiwl.

Agor Modiwlau

Agor Modiwlau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Modiwlau (Modules).

Golygu Modiwl

Dewch o hyd i enw’r modiwl a chlicio’r eicon Opsiynau (Options) [1]. Dewiswch y ddolen Golygu (Edit) [2].

Ychwanegu Gofyniad

Ychwanegu Gofyniad

Cliciwch y botwm Ychwanegu Gofyniad (Add Requirement).

Gosod Math o Ofyniad

Gosod Math o Ofyniad

I fynnu bod myfyrwyr yn cwblhau’r holl ofynion sydd wedi’u rhestru ar y dudalen Golygu Gofynion Modiwl, cliciwch y botwm radio Cwblhau pob un (Complete all) [1]. I ofyn bod myfyrwyr yn cwblhau’r holl ofynion mewn trefn, cliciwch y blwch ticio Rhaid i fyfyrwyr symud trwy’r gofynion mewn trefn (Students must move through requirements in sequential order) [2].

I fynnu bod myfyrwyr yn cwblhau unrhyw un o’r gofynion sydd wedi’u rhestru yn yr adran Cynnwys, cliciwch y botwm radio Cwblhau un (Complete one) [3].

Nodyn: Dydy’r gosodiad gofyniad ddim ond yn berthnasol i’r eitemau gofynnol sydd wedi’u rhestru [4].

Rheoli Eitemau Gofynnol

Rheoli Eitemau Gofynnol

Mae’r gosodiad gofyniad sydd wedi’i ddewis yn berthnasol i’r eitemau gofynnol sydd wedi’u rhestru.

Mae’r eitem gyntaf yn y modiwl yn cael ei rhestru’n ddiofyn fel eitem ofynnol [1]. I ddewis eitem modiwl gwahanol, cliciwch y gwymplen eitemau [2].

I reoli sut mae’n rhaid cwblhau eitem a ddewiswyd, cliciwch y gwymplen gofynion cwblhau [3]. Yn dibynnu ar y math o eitem modiwl, gallwch chi ddewis un o’r opsiynau canlynol:

  • Gweld yr eitem: Rhaid i fyfyrwyr weld yr eitem.
  • Marcio ei bod wedi’i gwneud: Rhaid i fyfyrwyr farcio’r aseiniad neu’r dudalen wedi’i gwneud cyn symud ymlaen i’r eitem nesaf. Mae’r opsiwn yma hefyd yn cysoni gyda Dangosfwrdd Gwedd Rhestr y myfyriwr ac yn cwblhau’r eitem i’r myfyriwr. Ond, dim ond pan fo’r eitem gyda’r gofyniad hwn wedi’i leoli mewn un modiwl y mae’r ymddygiad hwn yn bosib. Nid oes modd ychwanegu’r un eitem at fwy nag un modiwl.
  • Cyfrannu at y dudalen: Rhaid i fyfyrwyr bostio ymateb i drafodaeth sydd heb ei graddio neu gyfrannu cynnwys at dudalen (gwnewch yn siŵr fod myfyrwyr yn cael golygu tudalennau yn y cwrs).
  • Cyflwyno’r aseiniad: Rhaid i fyfyrwyr gyflwyno aseiniad, postio ymateb i drafodaeth wedi’i graddio, neu gyflwyno cwis. (Nid yw Canvas yn gadael i chi roi gradd eich hun i fodloni’r gofyniad hwn; rhaid i gyflwyniad gael ei wneud gan y myfyriwr.)
  • Sgorio o leiaf: Rhaid i fyfyrwyr gyrraedd sgôr cyflwyno isaf. Gyda’r opsiwn hwn, mae maes ychwanegol yn ymddangos lle gallwch chi roi’r sgôr isaf y mae’n rhaid i fyfyrwyr ei ennill. Mae’r opsiwn hwn ar gael ar gyfer pob math o aseiniad wedi’i raddio, a rhaid i’r radd gael ei phostio er mwyn i’r myfyriwr symud ymlaen i’r modiwl nesaf.

I ychwanegu eitemau gofynnol ychwanegol, cliciwch y botwm Ychwanegu gofyniad (Add requirement) [4].

Sylwch:

  • Os ydych chi wedi dewis gofyn i fyfyrwyr gwblhau’r holl ofynion ac yr hoffech chi iddyn nhw gwblhau pob eitem yn y modiwl, rhaid i chi ychwanegu pob eitem modiwl fel gofyniad.
  • Os ydych chi wedi cynnwys eitem cynnwys yn yr un modiwl fwy nag unwaith, gallwch chi osod gofynion gwahanol ar gyfer pob eitem.

Dileu Gofynion

Dileu Gofynion

I gael gwared â phob gofyniad o fodiwl, cliciwch yr eicon Dileu (Delete).

Cadw’r Modiwl

Cadw’r Modiwl

I gadw gofynion, cliciwch y botwm Cadw (Save).

Ail-gloi Modiwl

Ail-gloi Modiwl

Os byddwch chi’n newid gofynion modiwl y mae myfyrwyr eisoes wedi’u bodloni, bydd Canvas yn gofyn a ydych chi eisiau gadael i fyfyrwyr symud ymlaen trwy’r cwrs neu ail-gloi’r modiwlau a gofyn i’r myfyrwyr gwblhau’r gofynion eto.

I ail-gloi’r modiwlau, cliciwch y botwm Ail-gloi Modiwlau (Re-Lock Modules) [1]. I adael i fyfyrwyr fwrw ymlaen heb unrhyw newidiadau cliciwch y botwm Bwrw Ymlaen (Continue) [2].

Gweld Gofynion

Gweld math o ofyniad y modiwl [1] a’r eitemau gofynnol ar gyfer y modiwl [2].