Sut ydw i’n gweld hanes tudalen mewn cwrs?
Pan rydych chi’n gallu golygu tudalennau cwrs, rydych chi’n gallu gweld hanes y dudalen a gweld y dyddiad, amser, ac awdur unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud i’r dudalen. Mae golygwyr tudalen hefyd yn gallu rholio cynnwys tudalen yn ôl i fersiwn flaenorol o’r dudalen.
Mae’r delweddau sydd i’w gweld yr y wers hon ar gyfer y wedd addysgwr, ond mae’r un camau’n berthnasol ar gyfer myfyrwyr sydd â mynediad at dudalennau golygu cwrs.
Nodiadau:
- Hyd yn oed pan fo ganddyn nhw fynediad golygu i osodiadau tudalen, nid yw myfyrwyr yn gallu rholio’n ôl i fersiwn flaenorol o dudalen mewn cwrs. Dim ond cynnwys tudalen ar gyfer tudalennau mewn grwpiau myfyrwyr y gallan nhw eu rholio’n ôl.
- Nid yw newidiadau i ddarnau cod HTML a CSS yn cael eu storio yn hanes y dudalen.
Agor Tudalennau
Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Tudalennau (Pages).
Gweld Tudalennau
Mae’r adran Tudalennau (Pages) wedi’i dylunio i agor i dudalen flaen y cwrs, os oes tudalen flaen wedi cael ei dewis. I ddewis tudalen o’r mynegai Tudalennau (Pages), cliciwch y botwm Gweld Pob Tudalen (View All Pages).
Gweld Hanes Tudalen
Cliciwch yr eicon Opsiynau [1], a chlicio’r ddolen Gweld Hanes Tudalen (View Page History) [2].
Gweld Diwygiad Diweddaraf
Yn ddiofyn, bydd hanes y dudalen yn dangos y fersiwn ddiweddaraf.
Gweld neu Adfer Fersiwn Flaenorol
I agor fersiwn flaenorol o’ch tudalen, cliciwch y dyddiad rydych chi eisiau ei weld [1] ac yna clicio’r ddolen Adfer y diwygiad hwn (Restore this revision) [2].
Nodwch: Nid yw myfyrwyr yn gallu adfer fersiwn flaenorol o dudalen mewn cwrs.
Bydd Canvas yn adfer y fersiwn flaenorol i’r diwygiad mwyaf diweddar [1]. Os ydych chi eisiau newid eich tudalen gyfredol am gynnwys gwahanol, cliciwch ddiwygiad tudalen a dyddiad gwahanol. Sylwch y bydd adfer diwygiad tudalen hefyd yn cysylltu eich enw â hanes y dudalen.
I ddychwelyd i'r diwygiad tudalen cyfredol cliciwch yr eicon cau [2]. Gallwch chi hefyd ddefnyddio llywio briwsion [3] i ddychwelyd i’r dudalen gyfredol neu i’r mynegai tudalennau.