Sut ydw i’n creu arolwg yn fy nghwrs i?
Gallwch ddefnyddio arolygon i gael adborth gan eich myfyrwyr, neu roi pwyntiau ychwanegol iddyn nhw wrth ymateb i arolwg. Mae arolygon wedi’u graddio i’w gweld yn y Maes Llafur, Llyfr Graddau, Calendr a’r Rhestr o Dasgau i’w Gwneud.
Nodiadau:
- Rhaid i adroddiad Dadansoddi Myfyrwyr ar gyfer arolygon gael ei lwytho i lawr fel ffeil CSV. Dydy’r swyddogaeth Dadansoddi Eitem ddim ar gael ar gyfer arolygon.
- Nid yw arolygon sydd wedi’u graddio yn cefnogi’r defnydd o bwyntiau ystumio i ychwanegu neu dynnu marciau oddi ar sgôr myfyrwyr mewn cwis.
- Mae modd galluogi neu analluogi'r opsiwn dienw cyn neu ar ôl cyflwyno gwybodaeth ar gyfer arolwg, sy’n golygu bod defnyddiwr â hawliau digonol yn gallu gweld pwy yw’r myfyrwyr a’i ymatebion. I gasglu ymatebion cwbl ddienw i’r arolwg, efallai y byddwch chi am ddefnyddio adnodd trydydd parti ar gyfer arolygon.
Agor Cwisiau
![Agor Cwisiau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/002/758/809/original/8b391b6c-2968-4eeb-99a0-150edeb25983.png)
Yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs (Course Navigation), cliciwch y ddolen Cwisiau (Quizzes).
Ychwanegu Cwis
![Ychwanegu Cwis](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/001/247/898/original/725dbc24-efcc-4eca-838f-31b8fb1e108c.png)
Cliciwch y botwm Ychwanegu Cwis (Add Quiz).
Dewis Peiriant Cwis
![Dewis Peiriant Cwis](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/007/787/566/original/9c556014-a79a-4e51-8deb-251cb9f97481.png)
Os oes gan eich cwrs New Quizzes wedi’u galluogi, rhaid i chi ddewis peiriant cwis.
Rhaid i arolygol gael eu creu’n defnyddio cwisiau clasurol. I greu arolwg yn defnyddio cwisiau clasurol, cliciwch yr opsiwn Classic Quizzes [1].
Yna cliciwch y botwm Cyflwyno (Submit) [2].
Ychwanegu Manylion Arolwg
Rhowch enw i’ch arolwg (survey) [1], a nodi unrhyw gyfarwyddiadau ar gyfer yr arolwg yn y blwch testun [2].
Dewis Math o Arolwg
Cliciwch y gwymplen Math o Gwis (Type of Quiz) [1] a dewiswch y math o arolwg rydych chi am ei greu [2].
Dewis Opsiynau Arolwg
![Dewis Opsiynau Arolwg](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/766/411/original/5c290f6e-17fc-4c23-88ac-6d0b6f8b55b9.png)
Bydd angen i chi roi’ch arolwg mewn grŵp aseiniadau (assignment group) [1], rhoi sgôr i’ch arolwg [2] a nodi opsiynau’r arolwg [3].
Mewn arolygon, mae gennych chi’r holl opsiynau cwis, arferol, ond gallwch hefyd sicrhau bod yr wybodaeth a gyflwynir yn aros yn ddienw [4]. Mae’r opsiwn dienw hwn yn berthnasol i arolygon wedi’u graddio a rhai heb eu graddio, ac mae modd ei alluogi a’i analluogi cyn neu ar ôl cyflwyno gwybodaeth ar gyfer arolwg.
Dewis Dyddiadau Ar Gael
![Dewis Dyddiadau Ar Gael](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/766/424/original/7345c694-07d3-46a6-8f9a-f9f0a48f55d4.png)
Gallwch hefyd osod dyddiad erbyn a’r dyddiadau y bydd eich arolwg ar gael.
Ychwanegu Cwestiwn
![Ychwanegu Cwestiwn](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/766/388/original/0a0fa34d-02ca-4ce4-98dd-e3748d9b1eb6.png)
Cliciwch y tab Cwestiynau (Questions) [1]. Gallwch fynd ati i greu cwestiwn newydd ar gyfer yr arolwg drwy glicio’r botwm Cwestiwn Newydd (New Question) [2]. I gael gwybod pa fath o opsiynau sydd ar gael ar gyfer cwestiynau, edrychwch ar y wers math o gwestiwn yn y Canllaw i Addysgwyr.
Nodyn: Os byddwch chi’n cynnwys cwestiwn lle mae angen llwytho ffeil i fyny mewn arolwg dienw, bydd y ffeiliau wedi’u llwytho i lawr yn cynnwys enw’r myfyriwr yn enw’r ffeil. I sicrhau ei bod yn bosib aros yn ddienw mewn arolwg, peidiwch â chynnwys cwestiynau llwytho ffeil i fyny.
Enw Cwestiwn Arolwg
Dydy cwestiynau arolwg ddim yn cael eu rhifo’n awtomatig ar gyfer addysgwyr. I ychwanegu enw personol at gwestiwn yn eich arolwg, rhowch yr enw ym maes testun y cwestiwn. Gall enwau personol eich helpu chi i adnabod cwestiynau arolwg yn haws.
Beth bynnag yw enw’r cwestiwn, bydd y myfyrwyr bob amser yn gweld cwestiynau’r arolwg mewn trefn rifol (h.y. Cwestiwn 1, Cwestiwn 2).
Creu Cwestiynau Graddfa Likert (Meintiol)
Os ydych chi’n awyddus i greu cwestiynau sy’n cynnwys graddfa feintiol, gallwch greu cwestiwn graddfa Likert gan ddefnyddio math o gwestiwn sydd â mwy nag un gwymplen. Edrychwch ar y wers graddfa Likert i gael rhagor o wybodaeth.
Cadw Arolwg
![Cadw Arolwg](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/766/404/original/ec8ab498-49b4-4984-aa91-e3ff75b0f4d9.png)
Cliciwch y botwm Cadw i gadw eich gwaith ac i weld rhagolwg o’r arolwg.
Nodyn: Ni ddylech gyhoeddi eich arolwg nes eich bod wedi’i gwblhau’n derfynol. Os ydych chi’n barod i gyhoeddi eich arolwg a’i roi i fyfyrwyr, cliciwch y botwm Cadw a Chyhoeddi (Save & Publish).
Gweld Rhagolwg a Chyhoeddi Cwis
![Gweld Rhagolwg a Chyhoeddi Cwis](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/001/247/896/original/7c2279d4-95a3-4d6f-bbc5-58b4626e0ff3.png)
I weld rhagolwg o’r arolwg, cliciwch y botwm Rhagolwg (Preview) [1]. Pan fyddwch chi’n barod i fyfyrwyr weld yr arolwg yn y cwrs, cliciwch y botwm Cyhoeddi (Publish) [2].