Sut ydw i’n rhoi trafodaeth wedi’i graddio i un myfyriwr?
Wrth greu neu olygu trafodaeth wedi’i graddio, gallwch roi trafodaeth wedi’i graddio i fyfyriwr penodol. Mae’r swyddogaeth dyddiadau ar gael yn dal ar gael ar gyfer pob trafodaeth wedi’i graddio.
Dim ond y myfyrwyr sydd wedi’u nodi ym manylion y drafodaeth sy’n cael gweld y drafodaeth wedi’i graddio.
Wrth ddefnyddio aseiniadau wedi’u gwahaniaethu gyda’r Llyfr Graddau, mae’r drafodaeth wedi’i graddio yn ymddangos fel colofn i’r holl fyfyrwyr, ond mae celloedd gradd yn llwyd ar gyfer myfyrwyr sydd heb eu cynnwys yn y drafodaeth. Does dim modd rhoi graddau i fyfyrwyr sydd heb eu cynnwys yn y drafodaeth wedi’i graddio, a dydy trafodaethau wedi’u graddio sydd heb eu rhoi i fyfyriwr ddim yn cael eu cynnwys mewn graddau cyffredinol.
Pan fydd Mwy nag un Cyfnod Graddio ar waith mewn cwrs, mae’r trafodaethau wedi’u graddio hefyd yn cael eu dilysu yn erbyn cyfnodau graddio sydd wedi dod i ben.
Sylwch:
- Does dim modd graddio’n ddienw mewn trafodaeth wedi’i graddio.
- Mwy o wybodaeth am raddio trafodaeth wedi’i graddio yn SpeedGrader.
- Os yw eich cwrs yn defnyddio Llwybrau Meistroli (Mastery Paths) ar gyfer aseiniadau amodol, does dim rhaid i chi roi aseiniadau i fyfyrwyr unigol eich hun. Gallwch ddysgu sut i roi Llwybrau Meistroli i drafodaeth wedi’i graddio.
Agor Trafodaethau
Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Trafodaethau (Discussions).
Rhoi Manylion Trafodaeth
Rhowch deitl pwnc [1] a manylion trafodaeth [2]. Gallwch hefyd atodi ffeiliau [3].
Mwy o wybodaeth am greu trafodaeth.
Gosod Trafodaeth wedi’i Graddio
Cliciwch y blwch ticio Wedi Graddio (Graded).
Nodyn: Does dim modd i drafodaethau wedi’u graddio fod yn ddienw. Os nad oes modd gweld y blwch ticio Wedi Graddio (Graded), efallai y bydd angen i chi ddiffodd y drafodaeth ddienw.
Rhoi Manylion Graddio
Rhowch gyfanswm y pwyntiau sy’n bosibl yn y maes Pwyntiau Posibl (Points Possible) [1].
I newid y math o raddio, cliciwch y gwymplen Dangos Gradd Fel (Display Grade As) [2]. Yna, dewiswch y math o raddio. Gallwch chi arddangos graddau fel pwyntiau, canrannau, cyflawn/anghyflawn, gradd llythyren, neu raddfa GPA.
I reoli grŵp aseiniadau, cliciwch Grŵp Aseiniadau (Assignment Group) yn y gwymplen [3]. Yna, dewiswch grŵp.
Dewiswch Gynllun Graddau Llythyren
Os ydych chi’n dangos graddau fel graddau llythyren, mae’r cynllun graddio’n mynd yn ddiofyn i Gynllun Graddio Diofyn Canvas (Default Canvas Grading Scheme). I ddewis cynllun graddio arall, cliciwch ar Cynllun Graddio (Grading Scheme) ar y gwymplen [1] a dewiswch gynllun arall.
Gallwch weld [2] neu gopïo [3] y cynllun graddio presennol. Gallwch hefyd greu cynllun graddio newydd [4] neu reoli pob cynllun graddio [5].
Mwy o wybodaeth am ychwanegu cynlluniau graddio i aseiniad fel trafodaeth wedi’i graddio.
Rheoli Adolygiadau gan Gyd-fyfyrwyr
Nid yw adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr yn cael eu neilltuo’n ddiofyn.
I roi adolygiadau i gyd-fyfyrwyr eich hun, cliciwch ar y botwm radio Rhoi Eich Hun (Assign Manually) [1].
I roi adolygiadau i gyd-fyfyrwyr yn awtomatig, cliciwch ar y botwm radio Rhoi’n awtomatig (Automatically assign) [2].
Rhoi i Fyfyriwr
I reoli myfyrwyr a neilltuwyd, dyddiad erbyn y drafodaeth, neu ddyddiadau ar gael, ewch i’r adran Gosodiadau Aseiniadau (Assignment Settings) [1].
Yn ddiofyn, mae Canvas yn rhoi eich trafodaeth wedi’i graddio i bawb ar eich cwrs. Tynnwch bawb i ffwrdd drwy glicio ar yr eicon Tynnu [2].
Dewis Myfyriwr
I ychwanegu myfyriwr unigol cliciwch ar y maes Rhoi I (Assign To) [1]. Yna, dewiswch enw myfyriwr [2].
Nodyn: Gallwch gynnwys mwy nag un myfyriwr yn y maes Rhoi I (Assign To), cyn belled â’ch bod y rhoi’r un dyddiadau erbyn a dyddiadau ar gael i’r myfyrwyr.
Dod o hyd i Fyfyriwr
I ddod o hyd i fyfyriwr yn haws, rhowch rai o lythrennau’r enw [1] a dewiswch yr enw o restr wedi’i hidlo [2].
I dynnu myfyriwr a neilltuwyd, cliciwch yr eicon Tynnu (Remove) [3].
Golygu Dyddiadau Erbyn a Dyddiadau Ar Gael
Yn y meysydd dyddiad, rhowch y dyddiad(au) rydych chi’n eu ffafrio ar gyfer y canlynol:
- Dyddiad Erbyn (Due Date) [1]: Gosodwch ddyddiad ac amser cyflwyno’r drafodaeth.
- Ar gael o (Available From) [2]: Gosodwch y dyddiad a’r amser pan fydd y drafodaeth ar gael.
- Tan (Until) [3]. Gosodwch y dyddiad a’r amser pan na fydd y drafodaeth ar gael bellach.
Sylwch:
- Os ydych chi wedi gosod dyddiadau diystyru manylion adran yn eich cwrs, mae'n bosib y bydd angen i chi ddewis adran cwrs a gosod dyddiadau erbyn a dyddiadau ar gael sy'n syrthio o fewn y dyddiadau diystyru manylion adran.
- Os nad yw’r cwrs yn cynnwys dyddiadau dechrau a gorffen penodol, yna bydd Canvas yn dilysu’r drafodaeth yn erbyn y dyddiad tymor sydd wedi cael ei osod ar gyfer y cwrs.
- Os nad yw eich cwrs yn defnyddio Mwy nag Un Cyfnod Graddio, yna mae’r dyddiad erbyn yn cael ei ddilysu yn erbyn y cyfnod graddio sydd wedi dod i ben, ac mae gofyn i ddyddiad erbyn y drafodaeth fod ar ôl dyddiad y cyfnod graddio sydd wedi dod i ben.
Ychwanegu Dyddiadau Ychwanegol
I ychwanegu un neu ragor o fyfyrwyr gyda dyddiad erbyn a dyddiad ar gael gwahanol, cliciwch y botwm Rhoi i (Assign To).
Tynnu Dyddiadau
Hefyd, gallwch ddileu dyddiadau ychwanegol drwy glicio’r eicon tynnu yn yr adran dyddiad perthnasol.
Gweld Gwall Dyddiad
Os wnewch chi gyflwyno llinyn annilys o ddyddiadau erbyn, yna bydd Canvas yn cynhyrchu hysbysiad gwall. Mae cofnodion annilys yn cynnwys peidio datgloi’r drafodaeth mewn pryd, peidio gosod y dyddiad erbyn o fewn yr ystod o ddyddiadau sydd ar gael, neu osod dyddiad sydd y tu allan i ddyddiadau’r cwrs neu’r tymor.
Cywirwch y dyddiad ac yna diweddarwch y drafodaeth eto.
Sylwch:
- Os nad yw’r cwrs yn cynnwys dyddiadau dechrau a gorffen penodol, yna bydd Canvas yn dilysu’r drafodaeth wedi’i graddio yn erbyn y dyddiad tymor sydd wedi cael ei osod ar gyfer y cwrs.
- Os yw eich cwrs yn defnyddio Mwy nag Un Cyfnod Graddio, yna mae’r maes Rhoi (Assign) yn dilysu’r dyddiad erbyn yn erbyn y cyfnod graddio sydd wedi dod i ben, ac mae gofyn i ddyddiad erbyn y drafodaeth fod ar ôl dyddiad y cyfnod graddio sydd wedi dod i ben.
Gwneud Newidiadau
Mae Canvas yn dangos dyddiad ac amser y gylchfa amser yn unol â’r cyd-destun [1]. Os ydych chi’n rheoli cyrsiau mewn cylchfa amser wahanol i’ch cylchfa amser leol ac yn creu neu’n golygu dyddiad erbyn trafodaeth wedi’i graddio, yna mae amser y cwrs a’r amser lleol yn cael eu dangos er gwybodaeth.
I gadw manylion yr aseiniad trafod, cliciwch y botwm Cadw (Save) [2].
Cadw a Chyhoeddi
Os ydych chi’n barod i gyhoeddi eich trafodaeth, cliciwch y botwm Cadw a Chyhoeddi (Save and Publish) [1]. Os ydych chi am greu drafft o’ch trafodaeth a’i chyhoeddi rywbryd eto, cliciwch y botwm Cadw (Save) [2].
Gweld Rhybudd Dyddiad Erbyn
Os nad ydych chi’n ychwanegu adrannau cwrs at yr aseiniad, bydd neges rhybudd yn gofyn a ydych chi am ychwanegu’r adrannau hynny.
Os nad ydych chi am ychwanegu unrhyw adrannau at yr aseiniad, cliciwch ar y botwm Bwrw Ymlaen (Continue) [1], neu i fynd yn ôl ac ychwanegu adrannau neu fyfyrwyr ychwanegol, cliciwch ar y botwm Mynd yn ôl (Go Back) [2].
Nodyn: Ni fydd y neges rhybudd hon yn ymddangos os yw Pawb (Everyone), Pawb Arall (Everyone Else) neu bob adran o’r cwrs wedi’u hychwanegu at yr aseiniad.
Gweld Dyddiadau Trafodaeth
Os mai dim ond un set o ddyddiadau aseiniad sydd yna, gallwch chi weld y myfyrwyr a neilltuwyd [1], y dyddiad erbyn [2], a nifer y pwyntiau y mae’n bosibl eu cael [3].
Gweld Mwy Nag Un Dyddiad Erbyn
Os oes mwy nag un aseiniad, gallwch weld y defnyddwyr a’r dyddiad erbyn ar gyfer y drafodaeth drwy glicio ar y ddolen Gweld Dyddiadau Erbyn (View Due Dates).
Gweld y dyddiadau sydd wedi’u rhoi i’r drafodaeth wedi’i graddio [1].
I gau'r ffenestr Dyddiadau Erbyn, cliciwch yr eicon Cau (Close) [2].