Sut ydw i’n defnyddio SpeedGrader?

Mae SpeedGrader yn ei gwneud yn hawdd gwerthuso aseiniadau myfyrwyr unigol ac aseiniadau grŵp yn gyflym.

Mae SpeedGrader yn dangos aseiniadau sydd wedi’u cyflwyno ar gyfer myfyrwyr gweithredol ar eich cwrs. Ond, mae SpeedGrader yn dangos aseiniadau sydd wedi’u cyflwyno yn ôl gosodiadau presennol Llyfr Graddau ar gyfer ymrestriadau anweithredol ac ymrestriadau sydd wedi’u dirwyn i ben. Er enghraifft, os yw gosodiadau’r Llyfr Graddau yn dangos ymrestriadau anweithredol, bydd cyflwyniadau gan fyfyrwyr anweithredol hefyd yn ymddangos yn SpeedGrader.

Cael gafael ar SpeedGrader

Gallwch ddefnyddio SpeedGrader drwy: Aseiniadau, Cwisiau, Trafodaethau wedi’u Graddio, a’r Llyfr Graddau.

Perfformiad SpeedGrader

Yn SpeedGrader, bydd yr holl werthoedd ar gyfer aseiniad yn cael eu llwytho a’u cadw yn y porwr, gan gynnwys data cyflwyniadau myfyrwyr, unrhyw raddau (gan gynnwys graddau gwreiddiol ar gyfer aseiniadau sydd wedi’u hailgyflwyno), cyfarwyddiadau sgorio a sylwadau. Mae hyn yn lleihau amser llwytho wrth ddefnyddio SpeedGrader, ac yn caniatáu i addysgwyr raddio pob cyflwyniad yn gyflym heb orfod adnewyddu'r porwr drwy'r amser. Dydy symud o un cyflwyniad i’r nesaf ddim yn llwytho unrhyw gynnwys wedi'i ddiweddaru yn ddeinamig.

Mewn cyrsiau mawr, mae trothwy pwyntiau data y gellir eu llwytho mewn 60 eiliad yn effeithio ar amseroedd llwytho SpeedGrader. Mae’r trothwy hwn yn seiliedig ar un cyflwyniad fesul myfyriwr. Mae mwy nag un cyflwyniad gan yr un myfyriwr yn cynyddu trothwy’r cyflwyniad. Mae aseiniadau sydd â mwy na 1500 o gyflwyniadau'n gallu arwain at oedi o ran amseroedd llwytho SpeedGrader, ac efallai y bydd aseiniadau sydd â mwy na 2500 o gyflwyniadau yn methu â llwytho o gwbl.

I wella perfformiad SpeedGrader, dylid rhannu cyrsiau mawr yn adrannau, sy'n caniatáu i SpeedGrader ddangos cyflwyniadau ar gyfer adran benodol ac yn lleihau’r amser llwytho cyffredinol ar gyfer data aseiniad.

Defnyddwyr SpeedGrader

Mae'r SpeedGrader wedi’i gynllunio gyda’r bwriad mai un addysgwr fydd yn graddio cyflwyniadau ar y tro. Wrth feddwl am sut mae data SpeedGrader yn cael ei lwytho a’i storio yn y porwr, ni ddylai mwy nag un defnyddiwr raddio aseiniadau ar yr un pryd gan nad oes modd i bob graddiwr weld yr wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyniad. Mae graddau sydd wedi'u diweddaru’n effeithio ar y Llyfr Graddau hefyd.

Os yw eich cwrs yn cynnwys mwy nag un graddiwr, mae modd cyfyngu ar raddwyr sydd wedi'u hychwanegu at gwrs i ryngweithio â defnyddwyr mewn adran yn unig, a dim ond graddio cyflwyniadau yn yr adran lle roedden nhw wedi’u hymrestru. Mae'r opsiwn ymrestru hwn yn atal cyd-daro wrth raddio aseiniadau fel nad oes modd i fwy nag un addysgwr raddio’r un aseiniad.

Graddau wedi'u Safoni

Os ydych chi’n graddio aseiniad wedi’i safoni a bod uchafswm nifer y graddwyr wedi’i gyrraedd, yna bydd SpeedGrader yn cael ei ddangos mewn modd darllen-yn-unig er mwyn cuddio enwau myfyrwyr a manylion y cyflwyniad.

Nodyn: Does dim modd i addysgwyr ddileu cyflwyniadau aseiniadau. Os oes angen i chi ddileu cyflwyniad aseiniad amhriodol, cysylltwch â’ch gweinyddwr.

Gweld SpeedGrader

Mae Speedgrader yn cynnwys sawl maes i'ch helpu i ddod o hyd i gyflwyniadau myfyrwyr a’u gweld, graddio cyflwyniadau, ac ychwanegu sylwadau i gyflwyniadau.

Gweld Eiconau Dewislen SpeedGrader

Gweld Eiconau Dewislen SpeedGrader

Mae dewislen SpeedGrader yn cynnwys sawl adnodd ac offer i helpu i raddio aseiniadau.

Mae ochr chwith y ddewislen yn cynnwys opsiynau a gosodiadau cyffredinol.

I ddychwelyd i'r Llyfr Graddau (Gradebook), cliciwch yr eicon Llyfr Graddau [1].

I bostio neu guddio'r aseiniad, cliciwch yr eicon Gweladwy [2].

I weld gosodiadau SpeedGrader, cliciwch yr eicon Gosodiadau [3]. Mae gosodiadau SpeedGrader yn cynnwys:

Nodyn: Pan fydd y broses graddau wedi'u safoni wedi’i galluogi ar gyfer aseiniad, bydd graddwyr terfynol (safonwyr) hefyd yn gallu gweld botwm Safoni Tudalen (Moderation Page), fydd yn gadael iddyn nhw weld y Dudalen Crynodeb o’r Radd ar gyfer yr aseiniad wedi’i safoni.

Gweld Manylion Aseiniad

Mae canol y bar dewislenni yn cynnwys gwybodaeth am aseiniad a gwybodaeth gyffredinol am raddau. Mae gwybodaeth am yr aseiniad yn cynnwys enw’r aseiniad [1], dyddiad erbyn yr aseiniad [2], ac enw’r cwrs [3].

I weld manylion yr aseiniad, cliciwch enw’r aseiniad. Hefyd, mae tudalen manylion yr aseiniad yn gadael i chi lwytho pob cyflwyniad myfyriwr i lawr ar gyfer yr aseiniad.  

I fynd yn ôl i Dudalen Hafan y Cwrs, cliciwch enw’r cwrs.

Mae gwybodaeth am raddau yn cynnwys ystadegau aseiniad, gan gynnwys nifer yr aseiniadau sydd wedi cael eu graddio o gyfanswm y myfyrwyr ar y cwrs [4] a'r ganran a’r sgôr gyfartalog [5]. Gallwch ddefnyddio'r wybodaeth hon i gadw golwg ar y cynnydd o ran graddio.

Gweld Rhestr Myfyrwyr

Gweld Rhestr Myfyrwyr

Mae ochr dde'r bar dewislenni yn cynnwys rhestr o fyfyrwyr ar gyfer yr aseiniad. Bydd SpeedGrader yn agor yr aseiniad ar gyfer y myfyriwr cyntaf sydd wedi'i restru ar y rhestr myfyrwyr, wedi'u trefnu yn nhrefn yr wyddor yn ôl yr enw olaf. Os ydych chi wedi ysgogi gwedd myfyrwyr, bydd y Myfyriwr Prawf i’w weld ar ddiwedd y rhestr o fyfyrwyr. Mae’r rhestr o fyfyrwyr hefyd yn dangos statws cyflwyniad pob myfyriwr. Hefyd, gallwch ddefnyddio’r rhestr o fyfyrwyr i ddod o hyd i gyflwyniadau myfyrwyr.

Gweld Cyflwyniad Myfyrwyr

Ar ôl i chi ddewis myfyriwr, mae cyflwyniad y myfyriwr i’w weld yn y ffenestr rhagolwg.

Yn dibynnu ar yr aseiniad a'r math o gyflwyniad, bydd ffenestr rhagolwg SpeedGrader yn amrywio. Er enghraifft, bydd math o gyflwyniad URL gwefan yn ymddangos ym mhrif gorff SpeedGrader gyda'r opsiwn i agor yr URL mewn tab newydd. Does dim modd gweld rhai cyflwyniadau URL gwefan yn Canvas, a rhaid eu gweld mewn tab newydd. Mae’n bosib y bydd cyflwyniadau ar gyfryngau yn ymddangos fel ffeil wedi'i phlannu yn SpeedGrader neu ond yn ymddangos fel ffeil mae modd ei llwytho i lawr.

I roi sylwadau am gyflwyniadau mewn dogfennau, gallwch chi wneud y canlynol:

  • Defnyddio Canvas DocViewer i farcio aseiniadau .pdf, .doc/.docx, a .ppt/.pptx yn uniongyrchol yn SpeedGrader. Ar ôl i aseiniad gael ei gyflwyno, gall SpeedGrader gymryd hyd at ddeg munud i ddangos dogfen sy'n gydnaws â DocViewer.
  • Llwytho’r cyflwyniad i lawr, rhoi adborth am y ddogfen, a llwytho’r cyflwyniad i fyny eto.

Nodyn: Pan fo Caniatáu Mwy nag un cyflwyniad AGS ffeil yn cyfrif fel un cyflwyniad wedi’i alluogi, mae myfyrwyr yn gallu dewis mwy nag un ffeil i gael eu llwytho i fyny i aseiniad trydydd parti yn Canvas. Ond, mae’n bosib na fydd rhai adnoddau trydydd parti yn gallu delio â’r nodwedd hon.

Gweld Cyflwyniadau a lwythwyd i fyny

Os oes ffeil aseiniad Google Drive neu Microsoft Office 365 wedi’i chiwio i’w chyflwyno, bydd delwedd Llwytho i fyny (Uploading) yn ymddangos yn lle cyflwyniad y myfyriwr [1]. Mae eicon Llwytho i fyny (Uploading) hefyd yn ymddangos wrth ddolen yr aseiniad [2].

Gweld Cyflwyniadau a fethwyd eu llwytho i fyny

Pan fydd ffeil aseiniad Google Drive neu Microsoft Office 365 y methu llwytho i fyny, neu pan fyddwch yn edrych ar ffeil nad oes modd delio â hi yn SpeedGrader, bydd delwedd Wedi methu llwytho i fyny (Upload Failed) yn ymddangos [1]. Mae cyflwyniadau a fethwyd eu llwytho i fyny yn dangos eicon Wedi methu llwytho i fyny (Upload Failed) wrth ddolen yr aseiniad [2].

Gweld Hysbysiad am Ymrestriad

Gweld Hysbysiad am Fyfyriwr Anweithredol

Mae SpeedGrader yn dangos aseiniadau sydd wedi’u cyflwyno yn ôl gosodiadau presennol Llyfr Graddau ar gyfer ymrestriadau anweithredol ac ymrestriadau sydd wedi’u dirwyn i ben. Os yw aseiniad yn cynnwys cyflwyniad gan fyfyriwr anweithredol neu fyfyriwr â’i ymrestriad wedi’i ddirwyn i ben, bydd hysbysiad yn ymddangos ar frig ffenestr SpeedGrader.

Ar gyfer aseiniadau grŵp lle mae myfyrwyr yn cael eu graddio fel grŵp, bydd y grŵp i’w weld ar yr amod bod o leiaf un myfyriwr gweithredol yn y grŵp. Os does dim myfyrwyr gweithredol yn y grŵp, bydd y grŵp i’w weld os bydd un aelod o’r grŵp yn cysoni â gosodiadau’r ymrestriad yn y Llyfr Graddau. Ar gyfer aseiniadau grŵp lle mae myfyrwyr yn cael eu graddio'n unigol, bydd cyflwyniadau gan fyfyrwyr unigol i’w gweld yn unol â'r gosodiadau ymrestru yn y Llyfr Graddau.

Bydd cyflwyniadau gan fyfyrwyr anweithredol yn dal yn gallu cael eu graddio yn Speedgrader, ond fydd myfyrwyr ddim yn cael hysbysiadau am eu haseiniad a does dim modd gweld graddau cwrs.

Mae cyflwyniadau gan fyfyrwyr â’u hymrestriadau wedi’u dirwyn i ben yn rhai darllen-yn-unig; does dim modd eu graddio na derbyn sylwadau ar eu cyfer.

Nodyn: Os does gan fyfyriwr ddim cyflwyniad ar gyfer yr aseiniad, efallai bod y myfyriwr wedi cael ei analluogi neu wedi’i ddirwyn i ben cyn gallu cyflwyno'r aseiniad.

Gweld Cyfnod Graddio wedi Dod i Ben

Gweld Cyfnod Graddio wedi Dod i Ben

Os yw eich cwrs yn defnyddio mwy nag un cyfnod graddio, bydd hysbysiad yn ymddangos ar frig ffenestr SpeedGrader os yw aseiniad mewn cyfnod graddio sydd wedi dod i ben. Does dim modd golygu aseiniadau mewn cyfnod graddio sydd wedi dod i ben.

Gweld Bar Ochr

Mae bar ochr SpeedGrader yn darparu'r holl fanylion am y cyflwyniad ar gyfer y myfyriwr sydd ar y rhestr o fyfyrwyr. Fodd bynnag, ni fydd manylion am gyflwyniad i’w gweld pan fydd aseiniad yn cael ei raddio’n ddienw.

Yn y bar ochr, gallwch chi hefyd lwytho ffeiliau cyflwyniadau i lawr, graddio aseiniadau, rhoi sylwadau, ailneilltuo aseiniadau, a gweld statws cyflwyniad.

Llwytho Ffeiliau Cyflwyniadau i Lawr

Gweld Bar Ochr

Ym mar ochr SpeedGrader, gallwch chi weld manylion y cyflwyniad [1], gan gynnwys dyddiad ac amser y cyflwyniad; os cafodd aseiniad ei ailgyflwyno, gallwch weld fersiynau blaenorol o'r cyflwyniad.

Hefyd, gallwch lwytho ffeil y cyflwyniad i lawr trwy glicio’r ddolen [2].

Graddio Aseiniad

Graddio Aseiniad

Cwblhewch aseiniad y cyflwyniad drwy roi gradd yn y maes Gradd [1] neu ddefnyddio cyfarwyddyd sgorio, os yw ar gael, drwy glicio’r botwm Gweld Cyfarwyddyd Sgorio (View Rubric) [2].

Gadael Sylwadau

Gadael Sylwadau

Yn adran Sylwadau Aseiniadau bar ochr SpeedGrader, gallwch chi deipio sylwadau adborth [1] neu fewnosod sylw o’r Llyfrgell Sylwadau [2].

Gallwch chi atodi ffeiliau i sylwadau [3], recordio neu lwytho cyfryngau i fyny [4], neu gyfieithu sylwadau llafar i destun gan ddefnyddio nodwedd adnabod llais Chrome [5].

Gallwch lwytho pob sylw ar y cyflwyniad i lawr hefyd [6].

Nodyn: Bydd modd gweld sylwadau am yr aseiniad fel edefyn newydd yn Sgyrsiau (Conversations) hefyd.

Ail-neilltuo Aseiniad

Gweld Ail-neilltuo Aseiniad

Ym mar ochr SpeedGrader, gallwch chi ail-neilltuo aseiniad. I ail-neilltuo’r aseiniad i’r myfyriwr, cyflwynwch o leiaf un sylw at gyflwyniad y myfyriwr [1]. Yna cliciwch y botwm Ail-neilltuo Aseiniad (Reassign Assignmewnt) [2].

I ailgyflwyno’r aseiniad, gall myfyriwr weld yr aseiniad fel Tasg i’w Gwneud yn eu Dangosfwrdd Gwedd Rhestr.

Gweld Statws Cyflwyniad

Gweld Statws Cyflwyniad

Yn y bar ochr SpeedGrader, gallwch chi weld statws cyflwyno aseiniad myfyriwr [1].

I olygu statws y cyflwyniad, cliciwch y botwm Golygu (Edit) [2]. Mae’r gwahanol fathau o statws sydd ar gael yn cynnwys Hwy, Ar Goll, Wedi’i Esgusodi, a Dim.

Gweld Aseiniad ar gyfer y Myfyriwr Nesaf

Gweld Aseiniad ar gyfer y Myfyriwr Nesaf

Ar ôl i chi raddio’r cyflwyniad, bydd dangosydd aseiniad y myfyriwr yn newid i dic, sy’n dangos bod y cyflwyniad wedi'i raddio.

Gallwch weld cyflwyniad y myfyriwr nesaf drwy glicio’r botwm saeth (arrow) sydd wrth ymyl y rhestr o fyfyrwyr.

Gweld Aseiniadau Grŵp

Gweld Aseiniadau Grŵp

Wrth werthuso aseiniadau grŵp, bydd y rhestr myfyrwyr yn dangos enw pob grŵp, oni bai fod yr aseiniad grŵp yn cael ei raddio’n unigol. Yr un broses sydd ar gyfer gwerthuso aseiniadau grŵp a myfyrwyr unigol. Gallwch farcio'r dogfennau'n uniongyrchol neu eu llwytho i lawr ar gyfer rhoi adborth, rhoi graddau a gweld y cyfarwyddyd sgorio, a phostio a gweld sylwadau. Rhagor o wybodaeth am raddio aseiniadau grŵp.

Gweld Aseiniadau Dienw

Gweld Aseiniadau Dienw

Pe byddai aseiniad neu gwis yn cael ei osod gyda graddio’n ddienw, byddai’r rhestr myfyrwyr yn dangos y myfyrwyr yn ddienw. Dydy trefn y rhestr myfyrwyr ddim yn cyfateb â threfn y Llyfr Graddio ac mae’n cael ei newid ar hap ar gyfer pob aseiniad.

Os nad yw aseiniad yn ddienw, gallwch guddio enwau myfyrwyr yn SpeedGrader er mwyn graddio’n ddienw ar unrhyw adeg.

Nodyn: Does dim modd i drafodaethau wedi’u graddio fod yn ddienw.