Sut ydw i’n defnyddio’r Dudalen Mynegai Modiwlau (Modules Index)?
Mae Modiwlau yn rheoli holl lif eich cwrs a’i gynnwys. Fel addysgwr, gallwch ychwanegu modiwlau, ychwanegu eitemau at fodiwl, a rheoli gosodiadau modiwl. Gallwch hefyd aildrefnu'r holl fodiwlau ac eitemau modiwlau.
Agor Modiwlau
Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Modiwlau (Modules).
Gweld y Dudalen Mynegai Modiwlau
Mae’r Dudalen Mynegai Modiwlau (Modules Index) wedi’i dylunio gyda gosodiadau cyffredinol ar frig y dudalen [1], yna modiwlau unigol [2]. Mae eitemau cynnwys cwrs wedi’u gosod o fewn pob modiwl [3].
Nodyn: Mae'r Dudalen Mynegai Modiwlau yn delio â bysellau hwylus. I weld ffenestr gyda rhestr o fysellau hwylus, pwyswch y bysellau Shift+Marc Cwestiwn ar yr un pryd ar eich bysellfwrdd.
Gweld Gosodiadau Cyffredinol Modiwlau
Mae’r Gosodiadau Cyffredinol yn cynnwys crebachu neu ehangu pob modiwl, gweld cynnydd myfyriwr mewn modiwl, cyhoeddi a datgyhoeddi modiwlau ac eitemau modiwlau mewn swp, ac ychwanegu modiwlau newydd.
Sylwch:
- Mae’r botwm Crebachu Pob Un i’w weld os oes un neu ragor o fodiwlau wedi’u hehangu. Mae’r botwm Ehangu Pob Un i’w weld os ydy pob modiwl wedi’i grebachu.
- Os bydd defnyddiwr sydd ag ymrestriad cwrs yn crebachu neu’n ehangu un neu ragor o fodiwlau, bydd y Dudalen Mynegai Modiwlau yn cadw cyflwr pob modiwl pan fyddan nhw’n dychwelyd i’r dudalen.
Gweld Modiwlau
Yn yr adran Modiwlau (Modules), gallwch weld pob modiwl yn eich cwrs. Mae modiwlau’n cael eu trefnu yn ôl cynnydd.
Mae eitemau cynnwys pob modiwl yn cael eu cadw yn yr adran Modiwlau (Modules). Yn ddiofyn, mae modiwlau yn cael eu hehangu ac yn dangos pob eitem sydd yn y modiwl [1]. I grebachu’r modiwl, cliciwch y saeth crebachu [2].
Nodyn: Os byddwch chi’n dewis crebachu neu ehangu un neu ragor o fodiwlau, bydd y Dudalen Mynegai Modiwlau yn cofnodi cyflwr pob modiwl.
Gweld Pennawd Modiwl
Mae pob pennawd modiwl yn cynnwys enw’r modiwl [1].
Mae’n bosib y bydd y pennawd hefyd yn cynnwys rhagofynion modiwlau [2] a gofynion modiwlau [3].
Rheoli Modiwl
Yr eiconau yn y pennawd modiwl sy’n rheoli’r modiwl cyfan.
I gyhoeddi modiwl, cliciwch y gwymplen Statws Cyhoeddi (Published Status) [2].
I ychwanegu eitem o gynnwys newydd at eich modiwl, cliciwch yr eicon Ychwanegu (Add) [2].
Yn y gwymplen Opsiynau (Options) [3], gallwch chi olygu modiwl [4]. Golygu’r modiwl i roi enw newydd arno, cloi modiwlau, gosod rhagofynion, a gosod rhagofynion modiwlau.
Yn y gwymplen Opsiynau (Options), gallwch chi hefyd symud eitemau modiwl [5], symud y modiwl [6], rhoi’r modiwl i fyfyrwyr [7], dileu’r modiwl [8], dyblygu’r modiwl [9], anfon y modiwl at addysgwr arall [10], neu gopio’r modiwl i gwrs arall [11].
Aildrefnu Modiwlau
Gallwch aildrefnu modiwl drwy hofran dros y ddolen llusgo drws nesaf i enw’r modiwl a llusgo’r modiwl i’r lleoliad penodol.
Gweld Eiconau Modiwlau
Mae modd llenwi modiwlau â chynnwys amrywiol. Mae pob eitem modiwl hefyd yn cynnwys eicon o’i fath:
- Tudalen (Page) [1]: tudalen o gynnwys i’w ddarllen
- Trafodaeth (Discussion) [2]: trafodaeth cwrs
- Cwis (Quiz) [3]: cwis cwrs
- Aseiniad (Assignment) [4]: aseiniad cwrs
- Dolen neu Adnodd Allanol (Link or External Tool) [5]: dolen neu adnodd allanol i weld y tu allan i’r cwrs
- Ffeil (File) [6]: ffeil i’w llwytho i lawr neu i’w gweld
Gweld Eitem Modiwl Unigol
O fewn pob modiwl, mae eitemau cynnwys modiwl sy’n gallu dangos enw'r eitem [1], y dyddiad erbyn [2], nifer y pwyntiau [3], gofynion y modiwl [4], a statws drafft yr eitem modiwl [5]. Gall modiwl hefyd gynnwys eitemau heb eu graddio [6], fel tudalennau a thrafodaethau heb eu graddio. Os cafodd dyddiad Tasgau i’w Gwneud ei ychwanegu at eitem heb ei raddio, yna mae’r dyddiad yn ymddangos wrth yr eitem modiwl [7].
Rheoli Eitem Modiwl Unigol
I reoli eitem cynnwys modiwl unigol, cliciwch y gwymplen Opsiynau (Options) [1]. Defnyddiwch opsiynau’r ddewislen i olygu’r eitem cynnwys [2], agor SpeedGrader [3], rhoi’r eitem i fyfyrwyr penodol [4], dyblygu’r eitem os oes modd ei dyblygu [5], symud yr eitem [6], mewnoli’r eitem hyd at 5 lefel (neu ddileu mewnoliad) [7], anfon y cynnwys i ddefnyddiwr arall [8], copïo cynnwys i gwrs arall [9], ychwanegu Llwybrau Meistroli (Mastery Paths) [10], neu dynnu eitem cynnwys o’r modiwl [11].
Nodyn: Gellir rheoli'r gosodiad Llwybrau Meistroli yn eich cwrs os yw'r gosodiad wedi ei alluogi gan eich sefydliad.
Aildrefnu Eitem Modiwl
Gallwch hefyd aildrefnu eitem modiwl drwy hofran dros y ddolen llusgo drws nesaf i enw’r eitem, a llusgo’r eitem i’r lleoliad dan sylw.
Gweld Llwybrau Meistroli (MasteryPaths)
Os ydych chi’n defnyddio Llwybrau Meistroli (Mastery Paths) ar eich cwrs, gallwch weld y dudalen Modiwlau a gweld pa eitemau modiwl sydd wedi eu gosod ar gyfer Llwybrau Meistroli (Mastery Paths).
Gweld Cwrs Glasbrint
Os yw eich cwrs yn cynnwys eiconau Glasbrint (Blueprint), yna mae eich cwrs yn gysylltiedig â chwrs glasbrint. Mae Cyrsiau Glasbrint yn gyrsiau sy’n cael eu rheoli fel templed a gallant gynnwys gwrthrychau wedi’u cloi ac wedi’u rheoli gan weinyddwr, dylunydd cyrsiau, neu addysgwr arall yn Canvas. Fel gyda'r eiconau cyflwr drafft, mae’r adran Modiwlau (Modules) yn dangos statws y gwrthrych fel mae’n ymddangos ar dudalen fynegai’r gwrthrych.
I weld a yw eich cwrs yn gwrs glasbrint, edrychwch ar y tab Manylion Cwrs (Course Details) yng Ngosodiadau’r Cwrs (Course Settings). Os nad yw eich cwrs yn gwrs glasbrint, bydd ond yn bosibl i chi reoli eich cynnwys cwrs sydd heb ei gloi. Os yw eich cwrs yn gwrs glasbrint, gallwch gloi a chysoni cynnwys cwrs â chyrsiau cysylltiedig.
Gweld Cyhoeddiad Tudalen wedi’i Drefnu
Os yw wedi’i alluogi gan eich sefydliad, gallwch chi drefnu pryd y bydd tudalen yn cael ei chyhoeddi a gallwch chi weld pryd y mae tudalen wedi’i threfnu i gael ei chyhoeddi.