Sut ydw i’n gadael sylwadau ar gyfer cyflwyniadau gan fyfyrwyr yn SpeedGrader?
Gallwch ddefnyddio testun, ffeil wedi’i hatodi, fideo neu glip sain i adael adborth i’ch myfyrwyr. Os yw hynny wedi’i alluogi gan eich sefydliad, gallwch chi hefyd ychwanegu emojis.
Bydd modd gweld sylwadau am yr aseiniad fel edefyn newydd yn Sgyrsiau (Conversations) hefyd.
Os yw eich myfyrwyr wedi cyflwyno aseiniad ysgrifennu a chithau’n awyddus i adael sylwadau yn y ddogfen, dysgwch sut mae defnyddio DocViewer Canvas yn SpeedGrader. Gall myfyriwr weld eich sylwadau yn DocViewer o dudalen Manylion Cyflwyniad (Submission Details) yr aseiniad.
Sylwch:
- Os byddwch yn rhoi sgôr aseiniad, bydd y sgôr yn mynd i’r Llyfr Graddau’n awtomatig wrth symud at gyflwyniad newydd yn SpeedGrader. Ond, rhaid i chi gyflwyno sylwadau aseiniad eich hun cyn bod modd i fyfyrwyr eu gweld.
- I wneud yn siŵr nad yw myfyrwyr yn cael mynediad at raddau a sylwadau aseiniad nes i chi orffen graddio, dewiswch bolisi postio eich hun ar gyfer yr aseiniad.
Agor Cyflwyniad Myfyriwr
Defnyddiwch y rhestr myfyrwyr i ddod o hyd i gyflwyniad myfyriwr.
Dewiswch Gyflwyniad
Os yw myfyriwr wedi cyflwyno mwy nag un ymgais ar gyfer yr aseiniad, gallwch chi ddewis pa gyflwyniad i’w weld ac ychwanegu adborth. I ddewis cyflwyniad, cliciwch y gwymplen Cyflwyniad i’w weld (Submission to view) a dewis cyflwyniad. Mae cyflwyniadau’n cael eu trefnu yn ôl y dyddiad y cawson nhw eu cyflwyno.
Gweld Ardal Sylwadau
Yn yr adran Sylwadau Aseiniad, gallwch bostio sylwadau adborth i’r myfyriwr. Bydd unrhyw sylwadau sydd wedi’u gwneud gan y myfyriwr yn ymddangos yn yr adran hon hefyd.
Nodyn: Os ydy’r nodwedd Gwelliannau Aseiniad yn gallu delio â’r aseiniad, efallai y bydd yr adran Sylwadau Aseiniad yn ymddangos fel Sylwadau ar gyfer y Cais hwn.
Ychwanegu Sylw
I ychwanegu sylw at yr aseiniad, rhowch destun yn y maes Sylw (Comment) [1].
I fformatio sylw, defnyddiwch opsiynau fformatio’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog [2].
I ddefnyddio sylw o’r Llyfrgell Sylwadau, cliciwch yr eicon Llyfrgell Sylwadau [3].
I ddefnyddio'r Golygydd Hafaliad mathamategol, cliciwch ar yr eicen Mewnosod Hafaliad Mathamategol (Insert Math Equation) [4].
Nodyn: I weld yr holl opsiynau fformatio, efallai bydd angen i chi glicio’r eicon Opsiynau [5].
Ychwanegu Ffeil at Sylw
I atodi ffeil i’r sylw, cliciwch y botwm Atodi.
Ychwanegu Sylw ar ffurf Cyfryngau
I recordio fideo gwe-gamera, cipio sgrin, sylw sain, neu i lwytho i fyny ffeil cyfryngau, cliciwch yr eicon Cyfryngau (Media).
Defnyddio nodwedd Adnabod Llais Chrome
Os ydych yn defnyddio Google Chrome, gallwch ddefnyddio’r adnodd adnabod llais i adael sylwadau.
Ychwanegu Emoji
Os yw wedi’i alluogi gan eich sefydliad, gallwch ychwanegu emojis at sylwadau ar gyflwyniadau.
I ddewis emoji, cliciwch yr eicon Emoji [1].
I ddefnyddio emoji a ddefnyddiwyd yn ddiweddar, cliciwch yr emoji yn y ddewislen defnyddiwyd yn ddiweddar [2].
Rheoli Sylwadau Aseiniad Grŵp
Mae aseiniadau grŵp sydd wedi’u graddio’n unigol yn cynnwys opsiynau rhoi sylwadau. I anfon eich sylw at un myfyriwr mewn grŵp, dewiswch Anfon sylw at y myfyriwr hwn yn unig (Send comment to this student only) [1]. I anfon eich sylw at y grŵp cyfan, dewiswch Anfon sylw i'r grŵp cyfan (Send comment to the whole group) [2].
Bydd sylwadau ar gyflwyniadau grŵp nad ydynt wedi'u graddio’n unigol yn cael eu hanfon i bob aelod o’r grŵp.
Gallwch chi ddysgu mwy am raddio aseiniadau grŵp.
Nodyn: Efallai na fydd myfyriwr yn gallu gweld sylwadau aseiniad grŵp os nad ydyn nhw wedi’u neilltuo i grŵp ac os nad yw’r aseiniad wedi’i osod i raddio myfyrwyr yn unigol. Ond, bydd myfyrwyr yn gallu gweld y sylwadau hynny yn y dudalen Graddau.
Gweld Rhybudd Cynnwys heb ei Bostio
Pan fyddwch chi’n creu sylw testun, cyfryngau, neu sain ac yn ceisio symud i’r myfyriwr nesaf neu’r myfyriwr blaenorol mewn aseiniad, byddwch chi’n cael gwybod bod y sylw wedi cael ei greu ond heb gael ei bostio.
I gadw'r sylw ar ffurf drafft i’w gyflwyno, cliciwch y botwm Bwrw ymlaen (Proceed) [1].
Gallwch chi ddewis peidio â chael gwybod am sylwadau sydd heb gael eu postio drwy glicio’r blwch ticio Peidio â dangos eto ar gyfer yr aseiniad hwn (Do not show again for this assignment) [2].
Sylwch:
- Mae’r opsiwn i beidio â dangos y rhybudd yn berthnasol ar sail fesul aseiniad. Mae gweld aseiniad arall a chrwydro rhwng myfyrwyr cyn postio sylw hefyd yn ysgogi’r rhybudd.
- Mae’r opsiwn hefyd yn cael ei storio ar sail fesul porwr, felly mae gweld yr aseiniad mewn porwr arall yr ysgogi’r rhybudd.
Gweld Sylw Drafft
Ar ôl gadael y dudalen SpeedGrader a chadw sylw fel drafft, gallwch chi fynd yn ôl i’r cyflwyniad ar unrhyw ader a chyflwyno [1] neu ddileu [2] sylw. Ar ôl drafftio sylw a symud ymlaen at fyfyriwr arall, mae’r bilsen Ddrafft yn dangos nad yw’r sylw wedi’i gyflwyno [3].
Nodyn: Nid yw myfyrwyr yn gallu gweld sylw drafft nes eich bod chi’n cyflwyno’r sylw.
Cyflwyno sylw
Cliciwch y botwm Cyflwyno (Submit).
Gweld Sylw
Mae sylwadau’n cael eu rhoi mewn trefn gronolegol gyda’r sylwadau hŷn yn ymddangos ger y brig [1] a’r sylwadau mwy diweddar yn ymddangos yn y gwaelod [2].
Nodyn: Yn dibynnu ar faint ffenestr eich porwr, efallai y bydd sylwadau ym maes sylwadau SpeedGrader yn ymddangos yn brin. Gallwch ddefnyddio’r bar sgrolio yn y maes i weld sylwadau ychwanegol neu sylwadau hirach.