Sut ydw i'n defnyddio gosodiadau'r cwrs?
Gosodiadau Cwrs yw lle gallwch ddiweddaru a gweld manylion cwrs, adrannau, opsiynau ar gyfer dolenni crwydro, ffurfweddiad apiau allanol, opsiynau nodweddion, ac integreiddiadau.
Yn dibynnu ar eich hawliau, gallwch olygu lefelau gwahanol o osodiadau’r cwrs.
Agor Gosodiadau
![Agor Gosodiadau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/002/824/082/original/a807999c-d3d1-4fe0-9006-92f71f18a471.png)
Mae'r rhan gosodiadau yn eich cwrs ar gael i addysgwyr yn unig.
Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings).
Gweld Manylion Cwrs
![Gweld Manylion Cwrs](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/008/744/062/original/2cd69e79-ad74-4163-8aaf-64ce4ea5627c.png)
Yn y tab Manylion Cwrs (Course Details) [1], gallwch weld manylion eich cwrs gan gynnwys ei enw, cod y cwrs, argaeledd storio ffeiliau, ac opsiynau cwrs eraill.
Gallwch chi hefyd weld statws y cwrs [2].
Nodyn: I wybod a oes modd datgyhoeddi cwrs sydd wedi’i gyhoeddi, dylech hofran y cyrchwr dros statws y cwrs. Os nad oes modd datgyhoeddi’r cwrs, bydd y testun hofran yn rhoi gwybod i chi am hynny.
Gweld Adrannau
![Gweld Adrannau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/008/744/064/original/fcf549ba-b6b4-4ec4-944c-a73144a71c1c.png)
Yn y tab Adrannau (Sections) gallwch ychwanegu adran at eich cwrs a rheoli ymrestriadau yn yr adran myfyrwyr.
Gweld y Ddewislen Crwydro
![Gweld y Ddewislen Crwydro](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/008/744/066/original/95f347fd-0003-4a22-b4d9-6b01e51042a4.png)
Yn y tab Crwydro (Navigation), gallwch addasu’r dolenni Crwydro Cynnwys (Content Navigation) sydd wedi’u rhestru yn eich cwrs. Gallwch lusgo a gollwng er mwyn aildrefnu a chuddio dolenni'r ddewislen crwydro’r cwrs.
Bydd unrhyw Apiau Allanol sydd wedi eu ffurfweddu yn y ddewislen crwydro'r cwrs yn ymddangos yma hefyd.
Gweld Apiau
![Gweld Apiau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/008/744/068/original/8220e806-8d8b-4812-a028-9ad4a573c731.png)
Os yw eich sefydliad wedi galluogi'r Canvas App Center, yn y tab Apiau (Apps), gallwch weld yr holl adnoddau dysgu allanol sydd ar gael yn Canvas. Fodd bynnag, mae modd i chi ffurfweddu apiau eich hun hefyd.
Gweld Opsiynau Nodweddion
![Gweld Opsiynau Nodweddion](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/008/743/186/original/53c4db43-33b9-4ee1-9d50-fdcff8510025.png)
Yn y tab Opsiynau Nodweddion, gallwch alluogi ac analluogi nodweddion Canvas yn eich cwrs os ydynt wedi cael eu rhyddhau gan weinyddwr eich cyfrif.
Gweld Integreiddiadau
![Gweld Integreiddiadau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/008/744/070/original/0fd8d902-9460-49da-a40e-74beca400115.png)
Os yw hyn wedi’i alluogi gan eich sefydliad, efallai y byddwch chi hefyd yn gallu gweld y tab Integreiddiadau. O’r tab Integreiddiadau, gallwch chi gysoni data ymrestru i Microsoft Teams.