Sut ydw i’n creu e-Bortffolio newydd fel addysgwr?
Gallwch greu e-Bortffolio newydd yn eich gosodiadau defnyddiwr. Rhaid i chi fod wedi ymrestru am gwrs i greu e-Bortffolio.
Nodiadau:
- Os nad ydych yn gallu gweld y ddolen e-Bortffolio yn eich Cyfrif Defnyddiwr, mae eich sefydliad wedi analluogi'r nodwedd hon.
- Os ydych chi'n defnyddio cyfrif Am-Ddim-i-Athrawon, does dim modd i chi gyhoeddi cwrs nes eich bod chi wedi cadarnhau eich cyfeiriad e-bost.
- Os nad ydych chi’n gweld y botwm Creu e-Bortffolio, efallai fod gennych chi e-Bortffolio sydd wedi cael ei farcio fel sbam. Cysylltwch â'ch gweinyddwr Canvas am ragor o gymorth.
- Mae’r wers hon yn dangos sut i ddefnyddio Canvas ePortfolios yn eich cyfrif defnyddiwr. Os ydy’r ePortfolios yn eich cyfrif defnyddiwr yn edrych yn wahanol i’r lluniau yn y wers hon, dysgwch sut i ddefnyddio Canvas Student ePortfolios.
Agor e-Bortffolios
![Agor e-Bortffolios](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/005/352/211/original/b3c1a2b8-d309-4c5f-9f2e-9733c0fdd231.png)
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyfrif (Account) [1], yna cliciwch y ddolen e-Bortffolios (ePortfolios) [2].
Creu e-Bortffolio
![Creu e-Bortffolio](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/776/988/original/83e6ef6d-9e3a-473d-9b7d-b24d1239768d.png)
Cliciwch y botwm Creu e-Bortffolio (Create an ePortfolio).
Nodiadau:
- Rhaid i chi fod wedi ymrestru am gwrs i greu e-Bortffolio newydd.
- Os nad yw’r botwm Creu e-Bortffolio i’w weld, efallai fod gennych chi e-Bortffolio sydd wedi cael ei farcio fel sbam. Cysylltwch â'ch gweinyddwr Canvas am ragor o gymorth.
Creu e-Bortffolio
![Creu e-Bortffolio](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/776/994/original/5ca012fc-7e53-43b4-9e68-e9cdae521350.png)
Rhowch enw i'ch e-Bortffolio drwy deipio yn y maes Enw e-Bortffolio (ePortfolio Name) [1]. Penderfynwch os bydd eich e-Bortffolio yn gyhoeddus [2] (gallwch newid y gosodiad hwn rywbryd eto) ac yna cliciwch y botwm Gwneud e-Bortffolio (Make ePortfolio) [3].
Gweld e-Bortffolio
![Gweld e-Bortffolio](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/776/992/original/00495e5b-e155-4e08-98cd-53c5a65c8769.png)
Ar ôl creu'r e-Bortffolio, mae sawl opsiwn ar gyfer creu cynnwys ar gyfer eich portffolio, gan gynnwys dewin fydd yn eich arwain drwy eich portffolio, gam wrth gam.
Gweld Neges Rhybudd
![Gweld Neges Rhybudd](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/003/012/944/original/b4c3e26a-2f6c-4170-a91f-5fdf056a9165.png)
Os ydy eich e-Bortffolio wedi cael ei farcio fel sbam, bydd neges rhybudd yn ymddangos yn eich e-Bortffolio. Ni fyddwch chi'n gallu golygu eich e-Bortffolio nes bod gweinyddwr Canvas yn marcio'r e-Bortffolio'n Ddiogel. Yn ogystal, ni fyddwch chi'n gallu creu unrhyw e-Bortffolios newydd nes bod gweinyddwr Canvas yn marcio'r e-Bortffolio'n ddiogel.
Golygu e-Bortffolio
![Golygu e-Bortffolio](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/776/998/original/e81c3d45-d093-474f-b322-700f830fc9c3.png)
I olygu gosodiadau eich e-Bortffolio, cliciwch y ddolen Gosodiadau e-Bortffolio (ePortfolio Settings).
Diweddaru e-Bortffolio
![Diweddaru e-Bortffolio](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/776/990/original/1cb4849e-8df8-41cd-babc-6ce9d1198623.png)
Golygwch yr opsiwn enw neu amlygrwydd e-Bortffolio yng Ngosodiadau'r e-Bortffolio [1]. Cliciwch y botwm Diweddaru e-Bortffolio (Update ePortfolio) [2].