Sut ydw i'n creu cwis gyda chwestiynau unigol?
Gallwch ychwanegu eich cwestiynau eich hun at eich cwisiau. Gallwch greu pob math o gwestiynau cwis. Hefyd, mae modd ychwanegu cwestiynau unigol at grwpiau o gwestiynau.
Pan fydd dogfen yn cael ei llwytho i fyny i’r Golygydd Cynnwys Cyfoethog (Rich Content Editor) o gwis, mae’r ffeil yn cael ei chadw yn y ffolder Cyfryngau wedi’u Llwytho i Fyny (Uploaded Media) yn Ffeiliau’r Cwrs (Course Files) ac yn ddiofyn bydd wedi’i guddio. Gall myfyrwyr weld y ffeil pan fydd y cwis ar gael iddynt. Dysgu mwy am opsiynau gweld ffeiliau.
Nodyn: Pan mae’r opsiwn nodwedd Analluogi Creu Cwisiau Clasurol wedi’i alluogi, does dim modd i chi greu Cwisiau Clasurol newydd. Ond, gallwch chi barhau i olygu, mewngludo a mudo Cwisiau Clasurol sy’n bodoli’n barod i Gwisiau Newydd.
Agor Cwisiau
![Agor Cwisiau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/002/758/560/original/e8cf31e9-472e-4a87-87d0-5a372c50facd.png)
Yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs (Course Navigation), cliciwch y ddolen Cwisiau (Quizzes).
Ychwanegu Cwis
![Ychwanegu Cwis](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/001/247/509/original/1f8df204-8f96-4429-91fe-4b2adb0ef6c6.png)
Cliciwch y botwm Ychwanegu Cwis (Add Quiz).
Dewis Peiriant Cwis
![Dewis Peiriant Cwis](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/007/787/074/original/2e19bf9d-a241-45c1-80dd-740796ae0a42.png)
Os oes gan eich cwrs New Quizzes wedi’u galluogi, rhaid i chi ddewis peiriant cwis.
I ddewis New Quizzes, cliciwch yr opsiwn New Quizzes [1].
I greu cwis clasurol, cliciwch yr opsiwn Classic Quizzes [2].
I gadw eich dewis o beiriant cwis ar gyfer y cwrs hwn, cliciwch y blwch ticio Cofio fy newis ar gyfer y cwrs hwn (Remember my choice for this course) [3].
Yna cliciwch y botwm Cyflwyno (Submit) [4].
Nodyn:
- Dysgu mwy am greu cwis yn defnyddio New Quizzes.
- Gallwch chi ailosod eich dewis o beiriant cwis o’r ddewislen Opsiynau Cwis ar unrhyw adeg.
Golygu Manylion Cwis
Yn y tab Manylion, rhowch enw eich cwis [1]. Yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog [2], cyflwynwch eich cwis gyda delweddau, fideo, samplau o hafaliadau mathemategol, neu destun wedi’i fformatio. Gallwch hyd yn oed ddefnyddio’r adnodd gwneud sylw ar gyfryngau i recordio rhagarweiniad i'r cwis.
Llenwch weddill manylion y cwis [3].
Ychwanegu Cwestiwn
![Ychwanegu Cwestiwn](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/761/455/original/5a3bde37-da03-4289-94c8-32b6ff510244.png)
Cliciwch y tab Cwestiynau (Questions) [1]. Gallwch greu cwestiwn cwis newydd eich hun drwy glicio’r botwm Cwestiwn Newydd (New Question) [2].
Enwi Cwestiwn Cwis
Dydy cwestiynau cwis ddim yn cael eu rhifo’n awtomatig ar gyfer addysgwyr. I ychwanegu enw personol at eich cwestiwn cwis, rhowch yr enw ym maes testun y cwestiwn. Gall enwau personol eich helpu chi i adnabod cwestiynau cwis yn haws.
Ni waeth beth yw enw’r cwestiwn, bydd y myfyrwyr bob amser yn gweld cwestiynau’r cwis mewn trefn rifol (h.y. Cwestiwn 1, Cwestiwn 2).
Dewis Math o Gwestiwn
![Dewis Math o Gwestiwn](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/761/451/original/ca371a33-da13-4632-bbd4-b2929d66cb22.png)
Yn y gwymplen math o gwestiwn, gallwch greu’r mathau canlynol o gwestiynau cwis:
- Mwy nag un dewis
- Gwir/Ffug
- Llenwi'r Bwlch
- Llenwi mwy nag un bwlch
- Mwy nag un ateb
- Mwy nag un gwymplen (mae modd ei ddefnyddio ar gyfer graddfa Likert)
- Cyfateb
- Ateb Rhifol
- Fformiwla (fformiwla syml ac un newidyn)
- Traethawd
- Llwytho Ffeil i Fyny
Gallwch gysylltu cynnwys cyrsiau i greu cwestiynau Cwis, er enghraifft drwy gysylltu diagram.
Gosod Gwerth Pwynt
![Gosod Gwerth Pwynt](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/761/449/original/5c403094-f76f-4b9a-8476-dedb5bbe31d9.png)
I osod gwerth pwynt ar gyfer y cwestiwn, rhowch y pwyntiau yn y maes pwyntiau (pts).
Nodyn: Mae gwerthoedd pwynt cwis yn gallu delio â hyd at ddau le degol. Os byddwch chi’n rhoi mwy na dau le degol, bydd gwerth y pwynt yn cael ei dalgrynnu i’r canfed agosaf.
Diweddaru Cwestiwn
![Diweddaru Cwestiwn](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/001/461/140/original/8f7fd9da-fe4a-461c-8e4e-e79975d3f5bc.png)
I gadw eich cwestiwn, cliciwch y botwm Diweddaru Cwestiwn (Update Question).
Gweld Cwestiynau
![Gweld Cwestiynau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/761/466/original/d066e5f6-d592-4bbe-b256-bbc6cdfd88dd.png)
Gweld y cwestiynau yn eich cwis. I weld manylion cwestiynau, cliciwch y blwch Dangos Manylion Cwestiwn (Show Question Details).
Nodyn: Dydy manylion cwestiynau ddim ar gael mewn cwisiau sydd â mwy na 25 cwestiwn.
Cadw Cwis
![Cadw Cwis](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/761/468/original/88b7803e-0be2-4fbe-9fef-2af81dbc34fc.png)
Cliciwch y botwm Cadw i gadw eich gwaith ac i weld rhagolwg o’r cwis.
Nodyn: Ni ddylech gyhoeddi eich cwis nes eich bod wedi’i gwblhau’n derfynol. Os ydych chi’n barod i gyhoeddi eich cwis a’i ddarparu i fyfyrwyr, cliciwch y botwm Cadw a Chyhoeddi (Save & Publish).
Cyhoeddi Cwis
![Cyhoeddi Cwis](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/008/620/501/original/e052c39e-2f39-4b45-af82-f307482de15e.png)
I gyhoeddi’r cwis, cliciwch y botwm Cyhoeddi (Publish) [1].
I neilltuo’r cwis i bawb, adran o gwrs, neu fyfyriwr unigol, cliciwch y botwm Rhoi I (Assign To) [2].
Nodyn: Er y gallwch wneud newidiadau i’r cwis ar ôl ei gyhoeddi, ni fydd y myfyrwyr sydd eisoes wedi agor neu gwblhau’r cwis yn gweld y newidiadau, a gallai hynny effeithio ar eu graddau.