Pa fath o gwisiau alla i eu creu mewn cwrs?
Caiff yr adnodd cwis ei ddefnyddio i greu ac i weinyddu cwisiau ac arolygon ar-lein. Hefyd, gallwch ddefnyddio cwisiau i gynnal a safoni arholiadau ac asesiadau, rhai sydd wedi cael eu graddio a rhai sydd heb gael eu graddio. Mae’r camau ar gyfer creu cwis yr un fath ar gyfer pob math o gwis.
Mae mathau o gwisiau a fydd yn cael eu graddio i’w gweld yn y Maes Llafur, Llyfr Graddau, Calendr, a’r Rhestr o dasgau i’w gwneud.
Nodyn: Dydy cwisiau ymarfer ac arolygon heb eu graddio ddim yn ymddangos yn y Calendr.
Creu Cwis wedi’i Raddio
Cwis wedi’i raddio yw’r cwis mwyaf cyffredin, a bydd Canvas yn creu colofn yn y llyfr graddau yn awtomatig ar gyfer unrhyw gwis wedi’i raddio rydych chi’n ei greu. Ar ôl i fyfyriwr wneud cwis wedi’i raddio, bydd mathau penodol o gwestiynau’n cael eu graddio’n awtomatig. Hefyd, gallwch weld canlyniadau cwisiau wedi’u graddio yn SpeedGrader neu ar y dudalen canlyniadau cwis.
Creu Cwis Ymarfer
Mae modd defnyddio cwis ymarfer fel adnodd dysgu i helpu myfyrwyr i weld pa mor dda y maen nhw’n deall deunydd y cwrs. Dydy cwisiau ymarfer ddim yn fath o gwis wedi’i raddio. Dydy myfyrwyr ddim yn cael gradd am gwisiau ymarfer, er bod canlyniadau’r cwis yn dangos sawl pwynt a gafwyd yn y cwis. Dydy canlyniadau cwisiau ymarfer ddim i'w gweld ar dudalen graddau myfyrwyr a rhaid mynd i'r dudalen manylion cyflwyniad i'w gweld. Hefyd, gallwch weld canlyniadau cwisiau ymarfer..
Creu Arolwg wedi’i Raddio
Mae arolwg wedi’i raddio yn gadael i addysgwr roi pwyntiau i fyfyrwyr am gwblhau’r arolwg, ond nid yw’n gadael i’r arolwg gael ei raddio am gwestiynau cywir neu anghywir. Mae arolygon wedi’u graddio yn cynnig yr opsiwn i aros yn ddienw. Hefyd, gallwch weld canlyniadau arolygon wedi’u graddio ar dudalen manylion y cwis neu yn SpeedGrader.
Creu Arolwg heb ei Raddio
Mae arolwg heb ei raddio yn gyfle i chi gael barn neu wybodaeth arall gan eich myfyrwyr, ond nid yw myfyrwyr yn cael gradd am eu hatebion. Gydag arolygon heb eu graddio, gallwch wneud atebion yn ddienw. Dydy arolygon heb eu graddio ddim yn fath o gwis wedi’i raddio. Hefyd, gallwch weld canlyniadau arolygon heb eu graddio.