Sut ydw i’n gosod manylion ar gyfer cwrs?

Fel addysgwr, gallwch chi reoli'r manylion ar gwrs Canvas. Mae’n bosib y bydd tudalen Gosodiadau'r Cwrs yn caniatáu i chi reoli manylion adnabod y cwrs, delwedd Dangosfwrdd y cwrs, gwybodaeth Glasbrint (os oes o gwbl), data storio ffeil, cynllun graddau’r cwrs, trwydded y cwrs, opsiynau gweld cwrs, fformat cwrs, ac opsiynau eraill sydd ar gael ar gyfer y cwrs.

Agor Gosodiadau

Agor Gosodiadau

Yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs (Course Navigation), cliciwch y ddolen Gosodiadau (Settings).

Agor Manylion y Cwrs

Gweld Manylion Cwrs

Cliciwch y tab Manylion y Cwrs (Course Details).

Gweld Manylion Adnabod y Cwrs

Gweld Manylion Adnabod y Cwrs

Mae adran gyntaf Manylion y Cwrs yn dangos trosolwg i chi o'ch cwrs, gan gynnwys enw'r cwrs [1] a chod y cwrs [2]. Yn dibynnu ar eich sefydliad, mae’n bosib na fyddwch chi’n gallu newid enw a chod y cwrs.

I newid cylchfa amser eich cwrs, defnyddiwch y gwymplen Cylchfa Amser (Time Zone) [3].

Os gallwch chi weld ID SIS, gallwch chi weld yr ID SIS ar gyfer y cwrs [4]. Gallwch hefyd weld yr isgyfrif sydd wedi’i neilltuo ar gyfer y cwrs [5].

Gweld Statws Cwrs

Mae gennych chi hawl i gyhoeddi neu dad-gyhoeddi cyrsiau, gallwch chi reoli statws eich cwrs yn y bar ochr. I gyhoeddi neu ddad-gyhoeddi’r cwrs, cliciwch y gwymplen Statws Cwrs (Course Status) [1]. I gyhoeddi’r cwrs, cliciwch y botwm Cyhoeddi (Publish) [2]. I ddad-gyhoeddi eich cwrs, cliciwch y botwm Dad-gyhoeddi (Unpublish) [3].

Os nad oes gennych chi hawl i addasu statws eich cwrs neu os yw eich cwrs wedi cael ei gyhoeddi a’i fod yn cynnwys graddau, fydd dim modd i chi addasu statws cyhoeddi’r cwrs [4].

Dysgwch fwy am gyhoeddi cwrs.

Nodiadau:

  • Rhaid i chi gyhoeddi cwrs cyn bod modd i fyfyrwyr gael mynediad ato ac at gynnwys y cwrs. Does dim modd i fyfyrwyr weld cyrsiau heb eu cyhoeddi na’u cynnwys.
  • Mae cyhoeddi cwrs yn hawl cwrs. Os na allwch chi gyhoeddi eich cwrs, mae eich sefydliad wedi cyfyngu'r nodwedd hon.
  • Os ydych chi'n defnyddio cyfrif Free-For-Teacher, does dim modd i chi gyhoeddi cwrs nes eich bod chi wedi cadarnhau eich cyfeiriad e-bost.

Gweld Delwedd y Cwrs

Gweld Delwedd y Cwrs

Os yw eich sefydliad yn gadael i chi ychwanegu delwedd at gerdyn cwrs ar y Dangosfwrdd, gallwch chi ychwanegu neu newid delwedd y cwrs.

Gweld Cwrs Glasbrint

Gweld Cwrs Glasbrint

Mae tab Manylion y Cwrs (Course Details) yn dangos a yw'r cwrs wedi'i alluogi fel cwrs glasbrint ac yn dangos Iawn (Yes) neu Na (No) [1].

Os yw’r cwrs wedi’i gysylltu â chwrs glasbrint, mae tab Manylion y Cwrs (Course Details) yn dangos enw’r cwrs glasbrint [2]. Mae enw’r cwrs hefyd yn cynnwys ID y cwrs fel cyfeirnod (e.e. cyrsiau/XXX). Os ydych chi wedi ymrestru ar y cwrs glasbrint fel addysgwr neu gynorthwyydd dysgu, bydd enw’r cwrs glasbrint yn cynnwys dolen i gael mynediad at y cwrs glasbrint.

Fel arfer, bydd eich cwrs yn gysylltiedig â chwrs glasbrint, a dim ond cynnwys wedi’i ddatgloi yn eich cwrs y byddwch chi’n gallu ei reoli. Os yw eich cwrs yn gwrs glasbrint, gallwch gloi a chysoni cynnwys cwrs â chyrsiau cysylltiedig.

Gweld Dyddiadau Cwrs

Mae’n bosibl y bydd cyrsiau’n cael eu neilltuo i’r Tymor Diofyn (Default Term) neu i dymor penodol [1]. Yn ddiofyn, bydd eich myfyrwyr yn gallu cymryd rhan yn y cwrs yn ystod dyddiadau’r tymor [2].

Os oes angen, gallwch chi adael i fyfyrwyr gymryd rhan o fewn dyddiadau’r cwrs [3] a gosod dyddiad dechrau a dyddiad gorffen penodol i’r cwrs [4]. Ond, mae’n bosib y bydd newid dyddiadau cyrsiau yn diystyru’r gosodiadau ar gael yn ystod y tymor a’r safle ar y dudalen Cyrsiau a’r Dangosfwrdd. Cadarnhewch ddyddiadau’r tymor cyn ychwanegu dyddiadau cyfranogiad.

Efallai hefyd y byddwch yn gallu newid gosodiadau mynediad myfyrwyr [5] i ganiatáu neu i atal myfyrwyr rhag gweld eich cwrs cyn y dyddiad dechrau neu’r dyddiad gorffen.

Os ydy dyddiad diwedd cyfranogiad cwrs wedi’i osod i hanner nos, bydd rhybudd yn ymddangos [6].

Os ydy’r dyddiad sydd wedi’i ddewis ar gyfer y dyddiad gorffen yn dod cyn y dyddiad dechrau, bydd rhybydd yn ymddangos.

Gweld Opsiynau Data Meintiol

Gweld Opsiynau Data Meintiol

Os yw eich gweinyddwr yn ei ganiatáu, gallwch gyfyngu ar y gallu i weld data meintiol. Pan mae wedi’i ddewis, mae’r gosodiad hwn yn cyfyngu ar y gallu i weld data graddio meintiol (rhifol) cyrsiau. Dim ond data meintiol y bydd myfyrwyr ac arsyllwyr yn ei weld, sy’n cynnwys graddau llythyren a sylwadau.

Mae pwyntiau’n cael eu trosi i radd llythyren ac mae pwyntiau posib yn cael eu cuddio. Mae’r holl wybodaeth raddio arall yn weladwy.

Sylwch:

  • Os nad oes gan gwrs gynllun graddau personol, bydd Cynllun Graddau Diofyn Canvas yn cael ei ddefnyddio.
  • Pan mae’r gosodiad wedi’i alluogi, mae Gweinyddwyr, Addysgwyr, a Chynorthwywyr Dysgu yn gallu gweld data meintiol.
  • Dim os yw'ch gweinyddwr yn galluogi'r gosodiad cyfyngiad data meintiol yn y cyfrif y gallwch chi weld y gosodiad.

Amser Erbyn Diofyn

Gallwch osod amser erbyn diofyn ar gyfer pob aseiniad yn eich cwrs.

Nid yw diweddaru’r amser erbyn diofyn yn newid aseiniadau presennol sydd ag amseroedd erbyn penodol.

Gweld Iaith Cwrs

Gweld Iaith Cwrs

Gallwch bennu iaith benodol ar gyfer eich cwrs. Mae'r iaith wedi'i rhagosod i Heb ei phennu, Saesneg (UDA) (Not set, English (US)). Wrth ddewis iaith ar gyfer eich cwrs, bydd hyn yn disodli dewisiadau iaith y defnyddiwr, a dim ond ar gyfer cyrsiau sy’n cael eu cynnal yn y dewis Iaith rydym yn argymell hyn.

Gweld Storfa Ffeiliau

Gweld Storfa Ffeiliau

Gallwch weld maint y storfa a ganiateir ar eich cwrs. Mae storfa ffeiliau yn cynnwys yr holl ffeiliau yn ffeiliau cwrs a'r aseiniadau sydd wedi’u cyflwyno. Bydd gweinyddwyr yn eich sefydliad yn pennu'r cwota storio ffeiliau ar gyfer pob cwrs.

Nodiadau:

  • Mae ffeiliau cwrs Canvas wedi’u mewngludo yn cyfrif tuag at gwotâu cwrs. Os ydych chi’n methu mewngludo ffeil i gwrs, gwiriwch faint y ffeil yn erbyn cwota storio ffeiliau eich cwrs. Os oes angen, cysylltwch â’ch gweinyddwr Canvas i ofyn am gwota cwrs mwy.  
  • Dydy eitemau cwrs a chyrsiau Canvas wedi’u copïo ddim yn cyfrif tuag at gwotâu storio ffeiliau cwrs. Gallwch chi gopïo cyrsiau Canvas sy’n bodoli’n barod ac eitemau cwrs o’r cwrs gwreiddiol i mewn i’ch cwrs newydd heb effeithio ar gwota storio ffeilio eich cwrs.

Gweld Gosodiad Cwrs Mawr

Gweld Gosodiad Cwrs Mawr

Gallwch alluogi’r opsiwn i lansio SpeedGrader yn ôl grŵp myfyrwyr yn eich cwrs. Pan fydd y gosodiad hwn wedi’i alluogi, rhaid i chi ddewis grŵp myfyrwyr wrth agor SpeedGrader. Mae’r gosodiad hwn wedi’i analluogi’n ddiofyn.

Gweld Cynllun Graddau

Gweld Cynllun Graddau

Gallwch alluogi cynllun graddau ar gyfer eich cwrs. Mae cynllun graddau yn set o feini prawf sy'n mesur lefelau amrywiol o gyflawniad mewn cwrs. Hefyd, gallwch weld y cynllun graddau sy’n bodoli ar hyn o bryd, os oes un ar gael. Mae’r gosodiad hwn wedi’i analluogi’n ddiofyn.

Gweld Trwydded

Gweld Trwydded

Gallwch weld trwydded eich cwrs. Mae’r holl gynnwys yn cael ei ystyried yn breifat ac o dan hawlfraint yn ddiofyn, ond gallwch ryddhau eich cynnwys i’r parth cyhoeddus neu ddewis trwydded Creative Commons. Wrth wneud eich cwrs yn gyhoeddus, mae’n siŵr y byddwch am osod trwydded ar gyfer eich cwrs.

Gweld Hawliau Defnyddio Ffeil

Gweld Hawliau Defnyddio Ffeil

Gallwch weld y gosodiad hawlfraint ffeil ar gyfer eich cwrs. Os bydd yr opsiwn hwn wedi’i alluogi, bydd yn rhaid dewis gwybodaeth hawl defnyddio ar gyfer yr holl ffeiliau cwrs cyn y gellir eu cyhoeddi. Mae’r gosodiad hwn wedi’i analluogi’n ddiofyn.

Nodyn: Os nad oes modd newid yr opsiwn i reoli hawliau i ddefnyddio ffeil, mae eich sefydliad wedi cloi'r gosodiad hwn.

Gweld Opsiynau Gweld

Gweld Opsiynau Gweld

Gallwch weld unrhyw osodiadau opsiynau gweld ar gyfer eich cwrs. Mae pob opsiwn gweld yn annibynnol ar ei gilydd. Gallwch addasu opsiynau gweld cwrs, addasu opsiynau gweld cynnwys, a chynnwys y cwrs yn y mynegai cyrsiau cyhoeddus.

Gweld Fformatau

Gweld Fformatau

Gallwch osod fformat eich cwrs yn y ddewislen Fformat [1]. Mae'r gosodiad hwn yn pennu fformat y cwrs. I newid fformat y cwrs, cliciwch y gwymplen fformat.

Os yw Llwybrau Meistroli wedi’u galluogi gan eich sefydliad, gallwch chi alluogi Llwybrau Meistroli ar gyfer eich cwrs [2]. Mae Llwybrau Meistroli yn gadael i chi addasu profiadau dysgu myfyrwyr ar sail perfformiad.

Hefyd, gallwch adael i ddefnyddwyr lwytho eich cwrs i lawr i edrych arno heb fod ar-lein, gan ddefnyddio un o ddau opsiwn.

  • Os bydd eich cwrs yn galluogi pobl i allgludo ar ffurf ePub, gallwch weld blwch ticio Allgludo ePub (ePub Export) [3] a newid fformat yr ePub.
  • Os bydd eich cwrs yn dangos blwch ticio Cwrs All-lein (Offline Course) [4], mae eich sefydliad wedi galluogi cynnwys y cwrs i gael ei weld all-lein fel ffeil HTML. Caiff y blwch ticio hwn ei ddewis yn ddiofyn. Ond, gallwch reoli mynediad all-lein at gyrsiau drwy ddad-ddewis y blwch ticio unrhyw bryd.

Nodyn: Os yw Llwybrau Meistroli wedi’u cloi ar lefel y cyfrif, ni ellir rheoli’r gosodiad ar lefel y cwrs.

Gweld Disgrifiad

Gweld Disgrifiad

Os yw eich cwrs yn rhan o'r mynegai cyrsiau cyhoeddus, gallwch gynnwys ddisgrifiad ar gyfer eich cwrs yn y maes disgrifiad.

Gweld Gosodiadau Ychwanegol

Gweld Mwy o Opsiynau

Gallwch roi mwy o hawliau cwrs i fyfyrwyr drwy ddewis y blwch ticio priodol:

  • Gadael i fyfyrwyr hunan-ymrestru drwy glicio’r blwch ticio Gadael i fyfyrwyr hunan-ymrestru drwy rannu URL cyfrinachol â nhw (Let students self-enroll by sharing with them a secret URL) neu god (or code). Wedi analluogi yn ddiofyn.
  • Dangos y cyhoeddiadau diweddar ar dudalen hafan y cwrs drwy glicio’r blwch ticio Dangos y cyhoeddiadau diweddar ar dudalen hafan y cwrs (Show recent announcements on course home page). Wedi analluogi yn ddiofyn.
  • Gadael i fyfyrwyr atodi ffeiliau i ymatebion i drafodaethau drwy glicio’r blwch ticio Gadael i fyfyrwyr atodi ffeiliau i Drafodaethau (Let students attach files to Discussions). Wedi galluogi yn ddiofyn.*
  • Gadael i fyfyrwyr greu pynciau trafod newydd drwy glicio'r blwch ticio Gadael i fyfyrwyr greu Pynciau Trafod (Let students create Discussion Topics). Wedi galluogi yn ddiofyn.*
  • Gadael i fyfyrwyr olygu neu ddileu eu hymatebion eu hunain mewn trafodaeth drwy glicio'r blwch ticio Gadael i fyfyrwyr olygu neu ddileu eu hymatebion eu hunain mewn trafodaethau (Let students edit or delete their own discussion posts). Wedi galluogi yn ddiofyn.*
  • Gadael i fyfyrwyr greu eu grwpiau myfyrwyr eu hunain drwy glicio’r blwch ticio Gadael i fyfyrwyr drefnu eu grwpiau eu hunain (Let students organize their own groups). Wedi galluogi yn ddiofyn.
  • Cuddio cyfanswm graddau myfyriwr ar y dudalen graddau drwy glicio’r blwch ticio Cuddio cyfanswm yn y crynodeb o raddau myfyrwyr (Hide totals in student grades summary). Wedi analluogi yn ddiofyn.
  • Cuddio graffiau dosbarthiad graddau ar y dudalen graddau drwy glicio’r blwch ticio Cuddio graffiau dosbarthiad graddau oddi wrth fyfyrwyr (Hide grade distribution graphs from students). Wedi analluogi yn ddiofyn.
  • Analluogi sylwadau ar gyhoeddiadau drwy glicio'r blwch ticio Analluogi sylwadau ar gyhoeddiadau (Disable comments on announcements).* (Yn dibynnu ar ddewisiadau’ch sefydliad, mae’n bosib y bydd yr opsiwn hwn wedi'i ddewis yn barod ar eich cyfer.)
  • Gadael i fyfyrwyr olygu tudalennau cyrsiau yn ddiofyn drwy ddewis y gwymplen Golygu tudalennau cyrsiau (Edit course pages).*
  • Os yw'r Polisi Diogelwch Cynnwys wedi'i alluogi mewn cyfrif, mae modd i weinyddwyr analluogi'r Polisi Diogelwch Cynnwys ar gyfer cwrs trwy glicio'r blwch ticio Analluogi'r Polisi Diogelwch Cynnwys (Disable Content Security Policy). Os yw'r blwch wedi'i ddewis, mae’r polisi hwnnw wedi’i analluogi ar gyfer y cwrs hwn.

 

* Mae modd dewis yr opsiynau hyn o dudalen mynegai’r nodwedd hefyd.

Diweddaru Manylion Cwrs

Cliciwch y botwm Diweddaru Manylion Cwrs (Update Course Details) i gadw newidiadau.