Sut ydw i’n rheoli gosodiadau cwis yn New Quizzes?
Gallwch chi addasu gosodiadau darparu cwis yn New Quizzes? Bydd yr opsiynau hyn y newid y ffordd y bydd cwis yn cael ei ddarparu i fyfyrwyr.
I olygu’r cyfanswm pwyntiau, grŵp aseiniadau, dyddiad erbyn, dyddiadau ar gael a’r myfyrwyr unigol a’r adrannau cwrs fydd yn derbyn y cwis, golygwch y cwis o'r dudalen Asesiadau.
Agor Cwis
I reoli gosodiadau cwis, dewch o hyd i’r cwis rydych chi eisiau ei agor [1].
I agor y dudalen Adeiladu, cliciwch yr eicon Opsiynau [2], a chlicio’r ddolen Adeiladu (Build) [3].
I greu cwis newydd, cliciwch y botwm Ychwanegu Cwis (Add Quiz) [4].
Agor Gosodiadau
Cliciwch y tab Gosodiadau (Settings).
Gweld Neges Rhybudd
Os yw’r myfyriwr wedi cyflwyno’r cwis yn barod, bydd neges rhybudd yn ymddangos ar y dudalen Gosodiadau Darparu.
Cymysgu Cwestiynau
I gymysgu’r drefn y mae’r cwestiynau’n cael eu dangos i fyfyrwyr, cliciwch y botwm Cymysgu Cwestiynau (Shuffle Questions). Os bydd y gosodiad hwn wedi’i analluogi, bydd y cwestiynnau’n ymddangos yn y drefn y bydddwch chi’n eu neilltuo yn y cwis.
Nodyn: Bydd cwestiynau banc eitemau sydd wedi cael eu hychwanegu mewn grŵp yn parhau i gael eu cymysgu o fewn y grŵp hwnnw p’un ai ydy’r gosodiad hwn ymlaen neu wedi’i ddiffodd.
Cymysgu Atebion
Er mwyn cymysgu’r drefn y mae’r atebion yn cael eu dangos i fyfyrwyr mewn cwestiynau cwis cyfateb, mwy nag un ateb, a mwy nag un dewis, cliciwch y botwm Cymysgu Atebion (Shuffle Answers). Os bydd y gosodiad hwn wedi’i analluogi, bydd yr atebion yn ymddangos yn y drefn y bydddwch chi’n eu neilltuo yn y cwestiynau cwis.
Nodyn: Dydy cymysgu atebion ddim yn sicrhau y bydd y drefn yn ymddangos yn wahanol i bob myfyriwr. Bydd rhai myfyrwyr yn cael yr atebion yn yr un drefn, yn dibynu ar faint o atebion sydd i bob cwestiwn.
Dangos un cwestiwn ar y tro
I ddangos un cwestiwn ar y tro i fyfyrwyr, cliciwch y botwm Un cwestiwn ar y tro (One Question at A Time) [1]. I adael i fyfyrwyr fynd yn ôl at gwestiynau blaenorol mewn cwis, cliciwch y blwch ticio Caniatáu Mynd Yn Ôl (Allow Backtracking) [2]. Mae Caniatáu Mynd Yn Ôl wedi’i alluogi yn ddiofyn.
Gofyn am God Mynediad Myfyriwr
I ofyn i fyfyrwyr roi cod mynediad i gymryd rhan mewn cwis, cliciwch y botwm Gofyn am God Mynediad Myfyriwr (Require a student access code) [1]. Yna rhowch y cod mynediad yn y maes Cyfrinair (Password) [2]. I weld cod mynediad wedi’i guddio, cliciwch y blwch ticio Dangos cod mynediad (Show access code) [3].
Gosod Terfyn Amser
I osod terfyn amser ar gyfer cwis, cliciwch y botwm Terfyn Amser (Time Limit) [1]. Yna rhowch y terfyn amser gan ddefnyddio’r meysydd Oriau (Hours) a Munudau (Minutes) [2].
Nodyn: Bydd cwisiau sydd ar y gweill yn cael eu cyflwyno’n awtomatig pan fydd y dyddiad a’r amser ar gael yn cyrraedd, hyd yn oed os oes amser ar ôl.
Hidlo Cyfeiriadau IP
I hidlo cyfeiriadau IP ar gyfer cwis, cliciwch y botwm Hidlo Cyfeiriadau IP (Filter IP Addresses) [1]. Yna rhowch ystod o gyfeiriadau IP sydd wedi’u caniatáu gan ddefnyddio’r meysydd Ystod o Gyfeiriadau IP wedi’u Caniatáu (Allowed IP range) [2]. I ychwanegu mwy nag un ystod o gyfeiriadau IP, cliciwch y ddolen Ychwanegu ystod wedi’i chaniatáu (Add Allowed range) [3].
Caniatáu cyfrifiannell ar y sgrin
I alluogi cyfrifiannell ar sgrin ar gyfer y cwis cyfan, cliciwch y botwm Caniatáu Cyfrifiannell (Allow Calculator) [1]. Dewiswch yr opsiwn cyfrifiannell Sylfaenol (Basic) neu Gwyddonol (Scientific) [2]. Dydy’r Gyfrifiannell sylfaenol ddim ond yn dangos rhifau a swyddogaethau mathemategol sylfaenol (adio, tynnu, lluosi, rhannu), Mae’r Gyfrifiannell wyddonol yn dangos rhagor o opsiynau ar gyfer cyfrifiadau uwch.
Caniatáu Clirio Dewis ar gyfer Cwestiynau Mwy nag un Dewis (Allow Clearing Selection for Multiple Choice Questions)
I ganiatáu i fyfyrwyr glirio ateb mwy nag un dewis, cliciwch y botwm Caniatáu clirio dewis (Mwy nag un Dewis) (Allow clearing selection (Multiple Choice). Os yw’r gosodiad hwn ar waith, gall myfyrwyr glirio eu hateb i gwestiwn mwy nag un dewis ar ôl iddyn nhw ddewis a gadael y cwestiwn heb ei ateb.
Dangos Adborth Personol gyda Chanlyniadau
I ddangos adborth personol gyda chanlyniadau, cliciwch y botwm Dangos adborth personol gyda chanlyniadau (Show custom feedback with results) [1].
I ychwanegu adborth, defnyddiwch y Golygydd Cynnwys Cyfoethog i greu adborth personol[2].
I weld rhagolwg o’r adborth personol, cliciwch y botwm Gweld Rhagolwg o’r Adborth (Preview Feedback) [3].
Caniatáu mwy nag un ymgais
I ganiatáu mwy nag un ymgais ar gyfer cwis, cliciwch y botwm Caniatáu mwy nag un ymgais (Allow multiple attempts) [1]. I neilltu pa sgôr i’w chadw ar gyfer graddau myfyrwyr, dewiswch yr opsiwn yn y gwymplen Sgôr i’w chadw (Score to keep) [2]. Gallwch chi ddewis cadw’r sgôr uchaf, y sgôr cyfartalog, y sgôr ddiweddaraf, neu’r sgôr cyntaf.
Nodyn: Does dim modd delio â’r Polisi Cyflwyniadau Hwyr wrth ddefnyddio mwy nag un cais yn New Quizzes.
Gosod Ymgeision Cyfyngedig
Yn ddiofyn, bydd myfyrwyr yn cael nifer ddiderfyn o ymgeision pan fydd yr opsiwn Caniatáu mwy nag un ymgais (Allow multiple attempts) wedi’i alluogi. I osod nifer cyfyngedig o ymgeision, dewiswch yn opsiwn Cyfyngedig (Limited) [1]. Yna dewiswch sawl ymgais rydych chi am ei chaniatau [2].
Gosod Cyfnod Aros
I osod cyfnod aros rhwng ymgeision, cliciwch y blwch ticio Gofyn am amser rhwng ymgeision (Require time between attempts) [4]. Yna dewiswch y dyddiau [2], oriau [3], a munudau [4] y bydd gofyn i fyfyrwyr aros cyn y cân nhw ddechrau ar ymgais newydd.
Cuddio Canlyniadau Myfyrwyr
I rwystro myfyrwyr rhag gweld canlyniadau cwis, cliciwch y botwm Cyfyngu ar wedd canlyniadau myfyrwyr (Restrict student result view).
Nodyn: Bydd myfyrwyr yn dal i allu gweld graddau eu cwisiau yn y Llyfr Graddau pan fydd yr opsiwn Cyfyngu ar wedd canlyniadau myfyrwyr wedi’i alluogi. I guddio graddau thag myfyrwyr yn gyfan gwbl, bydd angen i chi alluogi polisi postio eich hun yn y Llyfr Graddau.