Sut ydw i’n cyhoeddi neu’n datgyhoeddi modiwl fel addysgwr?
Fel addysgwr, gallwch chi gyhoeddi neu ddatgyhoeddi aseiniad mewn cwrs. Nid oes modd i fyfyrwyr weld aseiniadau heb eu cyhoeddi ac maent wedi cael eu heithrio o gyfrifiadau graddau. Gallwch chi reoli cyflwr pob aseiniad ar y Dudalen Mynegai Aseiniadau, neu gallwch chi reoli pob aseiniad yn unigol.
Nodyn: Os byddwch chi’n defnyddio Modiwlau yn eich cwrs ac yn ychwanegu Aseiniad at Fodiwl, cofiwch fod cyflwr y Modiwl yn bwysicach na chyflwr pob eitem modiwl. Efallai y byddwch am ystyried gadael Aseiniadau heb eu cyhoeddi nes eich bod chi’n barod i gyhoeddi’r Modiwl cyfan. I wybod mwy, dysgwch am gyhoeddi modiwl.
Agor Aseiniadau

Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Aseiniadau (Assignments).
Gweld Statws Pob Aseiniad

Gallwch chi weld statws pob aseiniad ar y dudalen Mynegai Aseiniadau. Mae eiconau gwyrdd yn nodi bod yr aseiniad wedi’i gyhoeddi [1]. Mae eiconau llwyd yn nodi aseiniadau heb eu cyhoeddi [2]. Gallwch newid statws aseiniad drwy doglo’r eiconau wedi’i gyhoeddi a heb ei gyhoeddi.
Cyhoeddi Aseiniad

I gyhoeddi aseiniad, cliciwch ar eicon heb ei gyhoeddi (unpublished) yr aseiniad. Bydd y testun sydd i’w weld wrth hofran yn cadarnhau eich bod am gyhoeddi'r aseiniad.
Datgyhoeddi Aseiniad

I ddatgyhoeddi aseiniad, hofrwch dros eicon wedi’i gyhoeddi eich aseiniad a gweld ei statws. Os oes modd datgyhoeddi’r aseiniad, bydd y testun sydd i’w weld wrth hofran yn cadarnhau eich bod am ddatgyhoeddi’r aseiniad [1]. Cliciwch ar yr eicon i gadarnhau.
Nid oes modd datgyhoeddi aseiniadau a gyflwynwyd gan fyfyrwyr, bydd y testun sydd i’w weld wrth hofran yn rhoi gwybod i chi am hynny [2].
Gweld Statws mewn Aseiniad Unigol

Mewn aseiniadau unigol, dangosir statws yr aseiniad wrth ymyl enw’r aseiniad.
Cyhoeddi Aseiniad

I gyhoeddi aseiniad, cliciwch ar fotwm Cyhoeddi (Publish) yr aseiniad. Bydd y botwm yn newid o lwyd i wyrdd.
Datgyhoeddi Aseiniad

I ddatgyhoeddi aseiniad, hofrwch dros fotwm cyhoeddwyd (published) yr aseiniad a gweld ei statws. Os oes modd datgyhoeddi’r aseiniad, bydd y testun sydd i’w weld wrth hofran yn cadarnhau eich bod am ddatgyhoeddi’r aseiniad, a bydd y botwm yn newid o wyrdd i goch. Cliciwch ar y botwm i gadarnhau.
Nid oes modd datgyhoeddi aseiniadau a gyflwywyd gan fyfyrwyr.
Gwedd Myfyrwyr Aseiniadau

Nid yw myfyrwyr yn gallu gweld unrhyw un o’r camau gweithredu sy’n gysylltiedig â’r statws cyhoeddi, fel eiconau wedi cyhoeddi a heb gyhoeddi ac eiconau gosodiadau. Dim ond aseiniadau a gyhoeddwyd fydd myfyrwyr yn eu gweld, sy’n cael eu postio mewn testun llwyd.