Sut ydw i’n creu banc cwestiynau mewn cwrs?
Mae Banciau Cwestiynau yn cadw cwestiynau sy’n gallu cael eu hychwanegu at gwisiau ar draws gyrsiau neu gyfrifon.
Agor Cwisiau
Yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs (Course Navigation), cliciwch y ddolen Cwisiau (Quizzes).
Rheoli Banciau Cwestiynau
Cliciwch yr eicon Opsiynau (Options) [1] a chlicio'r ddolen Rheoli Banciau Cwestiynau (Manage Question Banks) [2].
Ychwanegu Banc Cwestiynau
Cliciwch y botwm Ychwanegu Banc Cwestiynau (Add Question Bank).
Creu Banc Cwestiynau
Rhowch enw i’r banc cwestiynau a phwyso Return (ar fysellfwrdd Mac) neu Enter (ar fysellfwrdd cyfrifiadur).
Agor Banc Cwestiynau
Agorwch y banc cwestiynau drwy glicio teitl y banc cwestiynau.
Opsiynau’r Banc Cwestiynau
Ar ôl agor y Banc Cwestiynau, gallwch:
- Ychwanegu Cwestiwn
- Golygu Manylion y Banc Cwestiynau
- Symud Cwestiynau sydd â dewis o atebion
- Dileu Banc Cwestiynau
- Dilysu Nod tudalen Banc Cwestiynau (mae Banc Cwestiynau newydd yn cael nod tudalen yn awtomatig yn ddiofyn)
- Cysoni Deilliannau
Creu Cwestiynau Newydd
Ychwanegwch gynifer o gwestiynau unigol ag yr hoffech chi i’ch banc cwestiynau. Cliciwch y botwm Diweddaru Cwestiwn (Update Question) i gadw’ch newidiadau.
Gweld Cwestiynau
Gweld y cwestiynau yn eich banc cwestiynau. I weld manylion cwestiwn, ticiwch y blwch Dangos Manylion Cwestiwn (Show Question Details).
Gallwch gyfeirio at y banc unigol hwn o gwestiynau mewn sawl cwis gwahanol.
Nodyn: Nid yw manylion cwestiynau ar gael mewn banciau cwestiynau sydd â mwy na 50 cwestiwn.