Sut ydw i'n ychwanegu aseiniad gydag ap allanol?
Pan fyddwch chi'n creu aseiniad, gallwch ddewis ychwanegu ap allanol (adnodd LTI) fel math o gyflwyniad. Mae'n rhaid i apiau allanol gael eu hychwanegu at eich cwrs cyn y gellir eu hychwanegu at aseiniad.
Sylwch:
- Dydy math o gyflwyniad yr Adnodd Allanol ddim yn gallu delio ag aseiniadau grŵp nac adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr.
- Dydy dyddiadau dechrau’r cwrs ddim yn cyfyngu ar basio graddau’n ôl o raglenni allanol (adnoddau LTI) i Lyfr Graddau Canvas. Pan fydd myfyrwyr yn cael mynediad i gwrs cyn dyddiad dechrau’r cwrs, gallan nhw gymryd rhan mewn aseiniadau sy'n defnyddio ceisiadau allanol (adnoddau LTI), a bydd graddau’r aseiniadau hynny’n cael yn eu llenwi yn y Llyfr Graddau.
Agor Aseiniadau
Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Aseiniadau (Assignments).
Ychwanegu Aseiniad
Cliciwch y botwm Ychwanegu Aseiniad (Add Assignment).
Dewis Math o Gyflwyniad yr Adnodd Allanol
Yn y gwymplen Math o gyflwyniad (Submission Type), dewiswch yr opsiwn Adnodd Allanol (External Tool).
Dewiswch Math o Gyflwyniad yr Adnodd Cyflwyno
Yn y gwymplen Math o Gyflwyniad (Submission Type), efallai y byddwch chi’n gallu dewis adnodd allanol yn uniongyrchol [1].
Mae’r adnodd allanol yn dangos eicon [2], enw’r adnodd [3], a disgrifiad yr adnodd [4].
Sylwch: I ddewis adnodd allanol yn uniongyrchol o’r gwymplen Math o Gyflwyniad, rhaid i’ch sefydliad osod Dewis Math o Gyflwyniad (Submission Type Selection) fel opsiwn lleoliad ar gyfer yr adnodd allanol ar y dudalen Allweddi Datblygwyr (Developer Keys).
Canfod Adnodd Allanol
Cliciwch y botwm Canfod (Find) [1] neu rhowch URL yr Adnoddau Allanol (External Tool URL) yn y maes URL [2].
Ffurfweddu Adnodd Allanol
Cliciwch enw'r adnodd LTI [1]. Yn dibynnu ar y math o adnodd, efallai y byddwch yn cael eich cyfeirio at sgrin ar wahân i ffurfweddu pellach.
Os ydych chi am i’r aseiniad lwytho mewn tab newydd, cliciwch y blwch ticio Llwytho mewn tab newydd (Load in a new tab) [2]. Cliciwch y botwm Dewis (Select) [3].
Llwytho Adnodd mewn Tab Newydd
I lwytho’r aseiniad mewn tab newydd, cliciwch y blwch ticio Llwytho’r Adnodd hwn mewn Tab Newydd (Load This Tool In A New Tab) [2].
Sylwch: Os ydych chi wedi galluogi’r blwch ticio Llwytho mewn tab newydd wrth ffurfweddu’r adnodd allanol, bydd y blwch ticio Llwytho’r adnodd hwn mewn tab newydd wedi’i ddewis yn barod.
Cadw a Chyhoeddi
Os ydych chi’n barod i gyhoeddi eich aseiniad, cliciwch y botwm Cadw a Chyhoeddi (Save & Publish) [1]. Os ydych chi am greu drafft o’ch aseiniad a’i gyhoeddi rywbryd eto, cliciwch y botwm Cadw (Save) [2].