Sut ydw i’n rheoli cyfarwyddiadau sgorio mewn cwrs?
Fel addysgwr, gallwch chi greu, golygu a dileu cyfarwyddiadau sgorio yn eich cwrs. Caiff cyfarwyddiadau sgorio eu defnyddio fel meini prawf ar gyfer myfyrwyr ac mae modd eu hychwanegu at aseiniadau, cwisiau a thrafodaethau wedi’u graddio.
Dysgu mwy am gyfarwyddiadau sgorio.
Sylwch:
- Does dim modd golygu cyfarwyddiadau sgorio ar ôl iddynt gael eu hychwanegu at fwy nag un aseiniad.
- Pan fyddwch chi'n dileu cyfarwyddyd sgorio, bydd Canvas yn tynnu’r cyfarwyddyd sgorio o bob aseiniad cysylltiedig yn y cwrs ac yn tynnu unrhyw sgorau ac asesiadau presennol sy’n defnyddio'r cyfarwyddyd sgorio.
- Os nad yw’r camau yn y wers hon yn cyd-fynd â’r hyn sydd wedi’i ddangos yn eich cwrs dysgwch sut i reoli cyfarwyddiadau sgorio yn y rhyngwyneb Cyfarwyddyd Sgorio Gwell (Enhanced Rubrics ).
Agor Cyfarwyddiadau Sgorio
Yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs (Course Navigation), cliciwch y ddolen Cyfarwyddiadau Sgorio (Rubrics).
Gweld Cyfarwyddiadau Sgorio
Ar y dudalen Rheoli Cyfarwyddiadau Sgorio (Manage Rubrics), gallwch chi weld yr holl gyfarwyddiadau sgorio sy'n bodoli eisoes yn eich cwrs.
Ychwanegu Cyfarwyddyd Sgorio
I ychwanegu cyfarwyddiad sgorio, cliciwch y botwm Ychwanegu Cyfarwyddyd Sgorio (Add Rubric).
Gweld Cyfarwyddyd Sgorio
I weld cyfarwyddyd sgorio unigol, cliciwch enw'r cyfarwyddyd sgorio.
Golygu Cyfarwyddyd Sgorio
I olygu’r cyfarwyddyd sgorio, cliciwch y botwm Golygu Cyfarwyddyd Sgorio (Edit Rubric).
Gweld Cyfarwyddyd Sgorio Na Ellir Ei Olygu
Os yw cyfarwyddyd sgorio wedi cael ei ddefnyddio mewn mwy nag un aseiniad, ni fydd y botwm Golygu Cyfarwyddyd Sgorio (Edit Rubric) ar gael.
Fodd bynnag, gallwch greu copi o gyfarwyddyd sgorio a gwneud unrhyw newidiadau wrth ychwanegu cyfarwyddyd sgorio at aseiniad.
Golygu Manylion Cyfarwyddyd Sgorio
I ailenwi cyfarwyddyd sgorio, teipiwch yn y maes Teitl (Title) [1].
I ailenwi disgrifiad o faen prawf cyfarwyddyd sgorio neu ddisgrifiad hir, cliciwch yr eicon Golygu maen prawf [2]. Gallwch hefyd olygu graddau mawn prawf [3], ychwanegu graddau [4], a golygu pwyntiau [5].
I ddileu maen prawf o’r cyfarwyddyd sgorio, cliciwch yr eicon Dileu maen prawf [6].
Hefyd gallwch ychwanegu maen prawf [7] a deilliannau [8] newydd.
I gadw’r hyn rydych wedi’i olygu, cliciwch y botwm Diweddaru Cyfarwyddyd Sgorio [9].
I dynnu meini prawf deilliannau cysylltiedig o gyfarwyddyd sgorio, cliciwch yr eicon Dileu [10]. Dim ond ar y dudalen Deilliannau y mae modd golygu meini prawf Deilliannau.
Dileu Cyfarwyddyd Sgorio
Os ydych chi wedi creu cyfarwyddyd sgorio yn eich cwrs, gallwch ddileu'r cyfarwyddyd sgorio. I ddileu cyfarwyddyd sgorio, cliciwch y botwm Dileu Cyfarwyddyd Sgorio (Delete Rubric).
Gellir dileu cyfarwyddiadau sgorio hyd yn oed os ydynt wedi cael eu defnyddio mewn mwy nag un aseiniad.
Nodyn: Os na allwch chi ddileu cyfarwyddyd sgorio, mae’r cyfarwyddyd sgorio wedi cael ei greu ar lefel cyfrif ac wedi cael ei alinio ag aseiniad yn eich cwrs.
Cliciwch y botwm Iawn (OK).
Pan fyddwch chi'n dileu cyfarwyddyd sgorio, bydd Canvas yn tynnu’r cyfarwyddyd sgorio o bob aseiniad cysylltiedig yn y cwrs ac yn tynnu unrhyw sgorau ac aseiniadau presennol sy’n defnyddio'r cyfarwyddyd sgorio.