Sut ydw i’n gweld Mynegai Cyrsiau Cyhoeddus fy sefydliad fel addysgwr?

Mae'r Mynegai Cyrsiau Cyhoeddus yn gadael i bob defnyddiwr mewn sefydliad weld mynegai cyrsiau'r sefydliad ar fformat catalog. Gallwch weld dolen i'r Mynegai Cyrsiau Cyhoeddus ar y dudalen Fy Nghyrsiau.

Sylwch: Ar hyn o bryd mae'r Mynegai Cyrsiau Cyhoeddus yn nodwedd cyfrif. Os nad ydych chi’n gweld y ddolen cyrsiau, nid yw eich sefydliad wedi galluogi’r nodwedd hon. Dysgwch sut i gynnwys eich cwrs yn y Mynegai Cyrsiau Cyhoeddus.

Agor Cyrsiau

Agor Cyrsiau

Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Cyrsiau (Courses) [1], yna cliciwch y ddolen Pob Cwrs (All Courses) [2].

Pori drwy fwy o gyrsiau

Yn y bar ochr Fy Nghyrsiau, cliciwch y ddolen Pori drwy fwy o gyrsiau (Browse More Courses).

Gweld Pob Cwrs

Gallwch weld pob cwrs sydd wedi'i gynnwys yn y mynegai cyrsiau cyhoeddus, gyda'r cyrsiau diweddaraf yn cael eu dangos yn gyntaf.

Gallwch weld enw'r cwrs [1] a disgrifiad, os oes un o gwbl [2].

Chwilio am Gyrsiau

Gallwch chwilio am gyrsiau mewn nifer o wahanol ffyrdd. Yn y maes Enw [1], gallwch deipio enw'r cwrs.

Gallwch hefyd chwilio am gyrsiau yn ôl statws. Os ydych chi am weld cyrsiau cyhoeddus yn unig, ticiwch y blwch Cyrsiau cyhoeddus yn unig (Public courses only) [2]. Os ydych chi am weld cyrsiau ymrestriad agored yn unig, ticiwch y v blwch Cyrsiau ymrestriad agored yn unig (Open enrollment courses only) [3]. Mae cyrsiau ymrestriad agored yn gyrsiau y gallwch ymuno â nhw ar unrhyw adeg.

Ar ôl i chi orffen dewis eich opsiynau chilio, cliciwch y botwm Chwilio (Search) [4].

Gweld Cwrs

I weld cwrs, cliciwch enw’r cwrs [1]. Os yw cwrs yn gadael i fyfyrwyr hunan-ymrestru, gallwch ymuno â'r cwrs ar unrhyw adeg trwy glicio'r botwm Ymuno â’r Cwrs hwn (Join this Course) [2]. Ond, gallwch weld y cwrs i ddechrau ac ymrestru ar dudalen hafan y cwrs.