Sut ydw i’n gweld fy ngrwpiau addysgwyr yn Canvas?
Fel addysgwr, efallai eich bod yn rhan o grwpiau sefydliadol sydd wedi'u creu gan weinyddwyr Canvas. Mae Canvas yn eich helpu chi i gael mynediad at eich grwpiau addysgwyr yn newislen Crwydro'r Cwrs. Os nad ydych chi'n gweld unrhyw grwpiau wedi cael eu rhestru, dydych chi ddim wedi ymrestru ar grŵp.
Nodyn: Mae grwpiau addysgwyr ar wahân i’r grwpiau cyrsiau. Gallwch gael mynediad at grwpiau cyrsiau a’u rheoli o fewn cwrs.
Agor Grwpiau
Yn y ddewislen Crwydro'r Safle Cyfan, cliciwch y ddolen Grwpiau (Groups) [1], yna ewch i weld eich grwpiau [2]. I weld eich holl grwpiau, cliciwch y ddolen Pob Grŵp (All Groups) [3].
Gweld Grwpiau
Mae grwpiau yn cael eu trefnu yn ôl Grwpiau Presennol (Current Groups) [1] a Grwpiau Blaenorol (Previous Groups) [2].
Gweld Grwpiau Presennol
Grwpiau Presennol yw grwpiau mewn cyrsiau sy’n rhan o’r semester neu’r tymor presennol. Gallwch weld enw'r grŵp [1] ac enw'r cwrs ar gyfer y grŵp [2]. Os yw cwrs yn cynnwys dyddiad tymor [3], yna mae’r dyddiad tymor yn ymddangos drws nesaf i enw’r cwrs. Yn dibynnu ar osodiadau mynediad cwrs, mae modd i Grwpiau Presennol (Current Groups) hefyd ddangos grwpiau mewn cyrsiau sydd wedi cael eu cyhoeddi ond sydd heb ddechrau eto.
Mae grwpiau sydd ar gael i chi wedi eu nodi mewn testun glas [4]. Mae’r grwpiau hyn yn gysylltiedig â chyrsiau presennol. I agor grŵp, cliciwch enw’r grŵp.
Gweld Grwpiau Blaenorol
Mae grwpiau o dan y pennawd Grwpiau Blaenorol (Previous Groups) yn grwpiau sy’n rhan o gyrsiau sydd wedi dod i ben. Os yw’r grŵp yn cynnwys dolen, yna mae’r grŵp yn dal ar gael fel grŵp darllen yn unig sydd wedi cael ei archifo. Gall defnyddwyr blaenorol weld deunydd grŵp ond does dim modd iddyn nhw gymryd rhan yn y grŵp.