Sut ydw i'n gweld manylion defnyddiwr ar gyfer ymrestriad ar gwrs?
Mae tudalen manylion y defnyddiwr yn dangos llun proffil defnyddiwr, aelodaeth, a negeseuon diweddar, yn ogystal â data arall.
Nodiadau:
- Os nad yw tudalen manylion y defnyddiwr yn cyfateb i’r cynllun a ddangosir yn y wers hon, edrychwch ar y wers proffiliau defnyddiwr, sy'n dangos sut mae defnyddio tudalen manylion y defnyddiwr pan fydd Proffiliau wedi’u galluogi ar gyfer eich sefydliad.
- Mae gweld manylion defnyddwyr a chyfeiriadau e-bost defnyddwyr yn hawliau'r cwrs. Yn dibynnu ar eich hawliau, efallai na fyddwch chi’n gallu gweld yr holl wybodaeth sydd ar gael ar dudalen manylion y defnyddiwr.
Agor yr adnodd Pobl
Yn y ddewislen Crwydro’r Cwrs, cliciwch y ddolen Pobl (People).
Dod o hyd i Ddefnyddiwr
Yn y maes chwilio [1], rhowch enw'r defnyddiwr. Gallwch hidlo defnyddwyr yn ôl rôl hefyd yn y gwymplen Rolau (Roles) [2].
Agor Manylion Defnyddiwr
Cliciwch eicon Opsiynau (Options) y defnyddiwr [1], yna dewiswch y ddolen Manylion Defnyddiwr (User Details) [2].
Gweld Enw ac E-bost
Mae’r dudalen Manylion Defnyddiwr (User Details) yn dangos manylion am y defnyddiwr.
Yn adran Enw ac E-bost (Name and Email) y defnyddiwr, gallwch weld enw'r defnyddiwr [1], llun proffil (os yw wedi’i alluogi gan eich sefydliad) [2], e-bost diofyn [3], a chylchfa amser [4].
Os oes gan y defnyddiwr lun proffil amhriodol, gallwch ei dynnu oddi yno drwy glicio’r ddolen Tynnu llun avatar oddi yno (Remove avatar picture).
Nodyn: Mae gweld cyfeiriadau e-bost defnyddwyr yn hawl cwrs. Yn dibynnu ar eich hawliau, efallai na fyddwch chi’n gallu gweld cyfeiriad e-bost defnyddiwr.
Gweld Manylion Ychwanegol
I weld manylion aelodaeth y defnyddiwr, cliciwch y ddolen rhagor o fanylion am y defnyddiwr (more user details) [1].
Gallwch weld ymrestriadau cwrs a rolau defnyddiwr y defnyddiwr [2]. Os oes rôl bersonol wedi’i neilltuo i ddefnyddiwr, dim ond y rôl sylfaenol sy’n cael ei dangos ar hyn o bryd. Yn dibynnu ar hawliau eich cwrs, mae’n bosib y byddwch chi’n gallu dirwyn yr ymrestriad i ben [3] a dileu’r ymrestriad [4].
Hefyd, gallwch weld a rheoli cyfyngiadau ar adrannau cwrs defnyddiwr [5] a’r maes Diwrnod mynychwyd ddiwethaf [6].
Gweld Negeseuon Diweddar
Mae’r adran Negeseuon Diweddar yn dangos gweithgarwch diweddar y defnyddiwr mewn cyhoeddiadau a thrafodaethau, os o gwbl.
Gweld Bar Ochr
Os oes gennych chi’r hawliau priodol, yna mae’n bosib y bydd y bar ochr yn cynnwys dolenni at wybodaeth ychwanegol am y defnyddiwr:
- Gweld adroddiad graddau manwl [1]
- Anfon neges gan ddefnyddio’r adran Sgyrsiau (Conversations) [2]
- Gweld sut rydych chi wedi rhyngweithio â’r myfyriwr gan ddefnyddio Canvas [3]
- Gweld adroddiad mynediad y myfyriwr [4]
- Gweld y Deilliannau sy’n gysylltiedig â'r myfyriwr [5]
- Gweld manylion dadansoddi’r myfyriwr [6]
- Gweld unrhyw wasanaethau allanol sy'n gysylltiedig â chyfrif y myfyriwr [7]