Ar ôl i mi gyhoeddi cwis wedi’i amseru, sut alla i roi amser ychwanegol i fy myfyrwyr?
Os ydych chi wedi gosod terfyn amser ar eich cwis, gallwch chi roi mynediad at amser ychwanegol. Os nad yw’r myfyriwr wedi cymryd y cwis, bydd yr amser ychwanegol yn cael ei ychwanegu at ymgais gyntaf y myfyriwr ac ar ymgeisiadau ychwanegol. Gallwch ddysgu mwy am reoli ymgeisiadau ychwanegol.
Os oes myfyriwr yn gwneud y cwis tra eich bod chi’n edrych ar y dudalen Safoni Cwis, gallwch chi ymestyn amser y cwis fel rhan o’u hymgais bresennol. Gallwch chi ddewis faint o funudau i ymestyn y cwis, a ph’un ai ydych chi eisiau ychwanegu’r munudau hynny ar yr amser cyfredol neu’r amser gorffen cyfredol (wedi’i drefnu)
Nodyn:
- Rhaid i gwis gael ei gyhoeddi cyn y gallwch chi ei safoni. Os hoffech chi reoli’r opsiynau safoni cwis cyn gadael i fyfyrwyr gael gafael arno, gosodwch ddyddiad Ar Gael O y cwis i ddyddiad yn y dyfodol a chyhoeddi’r cwis. Ni fydd eich myfyrwyr yn derbyn hysbysiad ar gyfer cwis sydd ddim ar gael. Ar ôl i chi safoni’r amser, gallwch chi ddatgyhoeddi’r cis i gadw eich gwaith safoni. Yna, gallwch chi barhau i olygu’r cwis cyn ei gyhoeddi i’ch myfyrwyr gael gafael arno.
- Mae dyddiadau argaeledd y cwis dal yn berthnasol wrth safoni cwis. Os bydd y dyddiad Ta yn pasio tra bo myfyrwyr yn gwneud y cwis gydag amser estynedig, bydd y cwis yn cael ei gyflwyno’n awtomatig hyd yn oed os nad yw estyniad amser y myfyriwr wedi dod i ben.
- Yr amser hiraf y gallwch chi ymestyn ymgais bresennol yw 1440 munud (24 awr)
- Os byddwch chi’n rhoi amser ychwanegol i fyfyriwr yn ystod cwis sydd ar ei hanner gyda dyddiad ar amser argaeledd wedi’i gosod, bydd eu hamser cyflwyno yn hwyrach na’r amser argaeledd sydd wedi’i ddewis.
Agor Cwisiau
![Agor Cwisiau](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/002/758/754/original/ee288630-b906-4afc-98ba-c5276bb47913.png)
Yn y ddewislen Crwydro'r Cwrs, cliciwch y ddolen Cwisiau (Quizzes).
Agor Cwis
![Agor Cwis](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/003/253/242/original/a7afc95d-a3cb-4385-802d-462dc5b3db0a.png)
Cliciwch enw’r cwis.
Safoni’r Cwis Hwn
![Safoni’r Cwis Hwn](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/765/827/original/10b6ada8-933c-4509-927b-017ae7eb5dae.png)
Cliciwch y ddolen Safoni’r Cwis Hwn (Moderate This Quiz).
Safoni Cwis
I safoni cwis ar gyfer un myfyriwr, dewch o hyd i’r myfyriwr a chlicio’r eicon Golygu [1]. Gallwch chi hefyd hidlo myfyrwyr yn eich cwrs drwy ddefnyddio’r maes Chwilio Pobl (Search People) [2]:
Safoni Cwis ar gyfer mwy nag un myfyriwr
Os ydych chi eisiau dewis mwy nag un myfyriwr, cliciwch y blwch ticio [1] wrth bob un o’u henwau. Os ydych chi eisiau dewis pob myfyriwr, cliciwch y blwch ticio ar y brig [2]/ Cliciwch y botwm Newid Estyniadau ar gyfer [#] Myfyriwr sydd wedi’u dewis (Change Extensions for [#] Selected Students) [3].
Ychwanegu Amser Ychwanegol at Ymgais
![Ychwanegu Amser Ychwanegol at Ymgais](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/003/705/348/original/8d661f01-61de-48d2-b92a-089821a6ec4c.png)
Teipiech nifer y munudau yn y maes Amser Ychwanegol ar Bob Ymgais (Extra Time on Every Attempt). Dim ond mewn cyfnodau o funud y mae modd ychwanegu amser ychwanegol.
Os ydych chi’n ychwanegu amser ar gyfer mwy nag un myfyriwr, bydd y blwch estyniad myfyrwyr yn rhoi’r amser ychwanegol i bob myfyriwr sydd wedi’i ddewis.
Os nad yw’r myfyriwr wedi cymryd y cwis, bydd yr amser ychwanegol yn cael ei ychwanegu at ymgais gyntaf y myfyriwr ac ar ymgeisiadau ychwanegol. Gallwch ddysgu mwy am reoli ymgeisiadau ychwanegol.
Nodiadau:
- Dim ond ar gyfer cwisiau gyda therfyn amser y mae’r maes Amser Ychwanegol ar Bob Ymgais (Extra Time on Every Attempt) yn ymddangos.
- Mae dyddiadau argaeledd y cwis dal yn berthnasol wrth safoni cwis. Os bydd y dyddiad Ta yn pasio tra bo myfyrwyr yn gwneud y cwis gydag amser estynedig, bydd y cwis yn cael ei gyflwyno’n awtomatig hyd yn oed os nad yw estyniad amser y myfyriwr wedi dod i ben.
Ychwanegu Amser Ychwanegol at Ymgais Bresennol
Os oes myfyriwr yn gwneud y cwis tra eich bod chi’n edrych ar y dudalen Safoni Cwis, gallwch chi ymestyn amser y cwis fel rhan o’u hymgais bresennol.
Ar gyfer ymgeisiadau presennol, bydd yr amser sydd ar ôl yn ymddangos wrth ymyl eicon cloc.
I ymestyn yr amser ar y cwis, cliciwch yr eicon cloc.
Nodyn: Dim ond ar gyfer un ymgais cwis presennol ar y tro y gallwch chi ymestyn yn amser.
Ymestyn Amser Cwis
![Ymestyn Amser Cwis](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/765/833/original/51072ff5-0b06-46d6-b4da-069f83d82027.png)
Bydd Canvas yn dangos i chi pryd y cychwynnodd y cwis, a phryd y bydd yn gorffen.
![Ymestyn Amser Cwis](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/765/839/original/57db954b-1cb3-47ad-88a2-44d814205bfa.png)
Yn y maes munudau [1], rhowch nifer y munudau ychwanegol rydych chi eisiau eu rhoi i fyfyriwr fel rhan o’u hymgais bresennol. Yr amser hiraf y gallwch chi ymestyn ymgais bresennol yw 1440 munud (24 awr)
Yn y gwymplen amser [2], dewiswch p’un ai ydych chi eisiau ychwanegu’r munudau hynny ar yr amser cyfredol neu’r amser gorffen cyfredol (wedi’i drefnu)
Os ydych chi eisiau gorffen y cwis mewn perthynas â’r amser presennol, dewiswch yr opsiwn nawr (now) yn y gwymplen.
- Er enghraifft, cychwynnodd fyfyriwr gwis 20 munud am 11:30 am; bydd y cwis yn gorffen am 11:50 am. Fe wnaethoch chi safoni’r cwis hwn am 11:40, gan olygu fod 10 munud wedi mynd heibio. Ond, rydych chi eisiau i’r cwis orffen am 11:45 Gan fod yr amser presennol yn 11:40, mae angen i chi orffen y cwis mewn 5 munud. Rhowch y rhif 5 yn y maes munudau, a dewis yr opsiwn nawr (now) yn y gwymplen.
Os ydych chi eisiau gorffen y cwis mewn perthynas ag amser gorffen presennol y cwis, dewiswch yr opsiwn amser gorffen presennol (current end time) yn y gwymplen.
- Er enghraifft, cychwynnodd fyfyriwr gwis 20 munud am 11:30 am; bydd y cwis yn gorffen am 11:50 am. Fe wnaethoch chi safoni’r cwis hwn am 11:30, gan olygu ei fod bron yr un pryd ag y cychwynnodd y myfyriwr y cwis, ac rydych chi eisiau ymestyn y cwis i orffen am hanner dydd. Os mai’r amser gorffen presennol yn 11:50 a’ch bod chi eisiau ei ymestyn o 10 munud, rhowch yn rhif 10 yn y maes munudau a dewis yr opsiwn amser gorffen presennol (current end time) yn y gwymplen.
Nodyn: Mae dyddiadau argaeledd y cwis dal yn berthnasol wrth safoni cwis. Os bydd y dyddiad Ta yn pasio tra bo myfyrwyr yn gwneud y cwis gydag amser estynedig, bydd y cwis yn cael ei gyflwyno’n awtomatig hyd yn oed os nad yw estyniad amser y myfyriwr wedi dod i ben.
Ymestyn Amser
![Ymestyn Amser](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/765/841/original/9557ba5a-fce4-4d10-afcf-45e13fc27934.png)
Cliciwch y botwm Ymestyn Amser (Extend Time).
Rhybudd Llai o Amser
![Rhybudd Llai o Amser](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/000/765/843/original/bb6dfdba-5ede-460d-8bab-3ee1a14840aa.png)
Mae’n bosib y bydd newid yr amser mewn perthynas â’r opsiwn Nawr (Now) yn golygu y bydd gan y myfyriwr lai o amser nag oedd ar y cloc yn wreiddiol. Er enghraifft, roedd gan y myfyriwr 10 munud ar ôl pan wnaeth yr addysgwr safoni’r cwis. Mae newid yr amser i 5 munud yn golygu fod gan y myfyriwr 5 munud yn llai i wneud y cwis.
Os ydych chi eisiau newid yr opsiwn hwn, cliciwch y botwm Canslo. Neu, cliciwch y botwm Iawn (OK).
Cadarnhau Estyniad
![Cadarnhau Estyniad](https://media.screensteps.com/image_assets/assets/001/199/403/original/22e5a625-2aa5-44ee-b726-7940a806b97c.png)
Gweld estyniadau amser myfyriwr ar y dudalen Safoni Cwis.
Nodyn: Ar ôl i chi orffen safoni cwis, gallwch chi ddatgyhoeddi’r cwis a bydd yr holl waith safoni’n cael ei gadw. Yna, gallwch chi barhau i olygu’r cwis cyn ei gyhoeddi i’ch myfyrwyr gael gafael arno.